Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Kat

Kate

Cymorth gyrfa yn helpu Kat i gymryd y cam nesaf tuag at ddyfodol mewn cerddoriaeth

Pan adawodd Kat yr ysgol yn ystod Blwyddyn 9, doedd hi na'i mam Liz yn gwybod sut fyddai ei dyfodol.

Roedd Kat, sy'n awtistig, wedi bod yn profi gorbryder ac anawsterau iechyd meddwl. Roedd amgylchedd yr ysgol yn cael effaith ddifrifol ar ei llesiant a'i phresenoldeb. Arweiniodd hyn at Liz yn gwneud y penderfyniad anodd i’w thynnu o’r ysgol a rhoi cynnig ar addysg yn y cartref yn lle.

Wrth addysgu yn y cartref, dechreuodd y teulu ddeall yn well sut yr oedd awtistiaeth yn effeithio ar ddysgu a bywyd bob dydd Kat. Roedd un peth yn glir, Roedd gan Kat dalent ac angerdd eithriadol am gerddoriaeth.

Dywedodd Liz fod Kat “wedi dysgu ei hun i chwarae’r gitâr, y gitâr fas, y drymiau, defnyddio meddalwedd cerddoriaeth, ac mae gwneud pum albwm.”

Er gwaethaf ei thalent, roedd y llwybr i addysg bellach yn ymddangos yn ansicr. Esboniodd colegau y byddai angen cymwysterau TGAU ar Kat fel arfer i symud ymlaen i'r cyrsiau yr oedd am eu hastudio. Ond roedd hi'n teimlo bod hyn y tu hwnt iddi.

Darganfod llwybr gwahanol

Newidiodd pethau pan awgrymodd swyddog cyswllt addysg yn y cartref y dylai’r teulu siarad â chynghorydd gyrfa Gyrfa Cymru, Tom.

Ar ôl gwrando ar sefyllfa Kat, dywedodd Tom wrthyn nhw am berson ifanc arall ag amgylchiadau tebyg a oedd wedi cael lle mewn coleg drwy lwybr llai traddodiadol.

Esboniodd Liz, “Pan siaradon ni â Tom, roedd e wedi bod yn ymwneud yn ddiweddar â bachgen ifanc ym Mlwyddyn 11 yn yr ysgol uwchradd oedd yn gerddor anhygoel iawn ac a gafodd ei dderbyn i’r coleg drwy glyweliad. Dechreuon ni ystyried a allai'r un opsiwn weithio i Kat.

Cwblhaodd Kat ddarn ysgrifenedig, cyflwynodd ei chlyweliad a llwyddodd i ennill lle ar gwrs cerddoriaeth Lefel 2, gan ganiatáu iddi hepgor darpariaeth lefel mynediad nad oedd o bosibl yn addas i’w hanghenion.

Dywedodd Liz, “Mae hi wedi mynd yn syth i lefel 2, rhywbeth na fyddai hi wedi’i wneud oni bai bod Tom wedi egluro i ni y gallem ni wneud hynny.”

Dod o hyd i hyder a’r ymdeimlad o berthyn

Dechreuodd Kat yn y coleg yn ddiweddar ac mae hi wedi dechrau’n gadarnhaol.

Dywedodd Liz, “Dim ond tri diwrnod yr wythnos mae hi yn y coleg, ond mae hi wedi llwyddo i fynychu’r holl ddyddiau hynny. Mae hi wedi bod yn gwneud y gwaith, mae hi wedi bod yn cymdeithasu. Dyma’r peth gorau erioed iddi.”

I Kat, a ddisgrifiodd ei hun fel rhywun sydd “wedi bod yn gwneud dim byd ers dwy flynedd”, mae dychwelyd i addysg wedi agor y drws i bosibiliadau newydd.

Mae Liz yn credu bod y gefnogaeth gan Gyrfa Cymru wedi chwarae rhan hanfodol wrth eu helpu i gyrraedd y pwynt hwn, “Fe roddodd ddewis arall i ni a math arall o lwybr nad oedd wedi’i gyflwyno i ni o’r blaen.

“Yr hyn oedd yn wirioneddol braf o’m safbwynt i oedd yr elfen bersonol a gafwyd gan Tom.”

Roedd Tom yn cysylltu’n rheolaidd i weld sut roedd Kat yn dod yn ei blaen ac yn cadw mewn cysylltiad drwy gydol y broses ymgeisio. Dywedodd Liz fod hyn wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ystod cyfnod pan oeddent yn teimlo eu bod wedi’u datgysylltu.

Edrych tua’r dyfodol

Heddiw, mae Kat yn astudio cerddoriaeth yn y coleg ac yn dechrau meddwl am ei dyfodol yn y tymor hwy. Dywedodd Liz, “Mae Kat a’i chariad yn edrych ymlaen at y blynyddoedd nesaf. Ar ôl iddyn nhw orffen yn y coleg, maen nhw'n bwriadu mynd i'r brifysgol. Maen nhw'n mynd i fyw gyda'i gilydd a chael dyfodol gyda'i gilydd.”

Mae'r newid dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn sylweddol.

“Ddwy flynedd yn ôl, doedden ni ddim hyd yn oed yn gwybod a fyddai Kat yn gwneud unrhyw beth. Ond mae wedi bod yn newid enfawr, enfawr.

“Oni bai am Tom, dw i ddim yn meddwl y byddai Kat yn y coleg.”

Mae hi'n gobeithio bod stori Kat yn dangos bod gwahanol lwybrau i addysg a hyfforddiant, a bod y gefnogaeth gywir yn gallu gwneud y byd o wahaniaeth.Fel y dywedodd Liz, 

“Mae gwybod bod Gyrfa Cymru yno werth y byd, i wneud yn siŵr bod pob unigolyn ifanc yn cael y cyfle i fynd i mewn i yrfa a dod yn fedrus a hyfforddi ar gyfer rhywbeth.”

Os hoffech chi gael gwybod mwy am sut y gallai cynghorydd gyrfa helpu unigolyn ifanc yn eich gofal, cysylltwch â ni heddiw.

Archwiliwch

Rhieni

Sicrhewch fod gwybodaeth, adnoddau ac awgrymiadau gyda chi i helpu'ch plentyn i wneud penderfyniadau gyrfa a dysgu mwy am y gefnogaeth a gynigir gennym wrth i'ch plentyn fynd o addysg i gyflogaeth.