Y pethau y mae angen i chi eu gwybod am gyflogau, hawliau ac oriau gwaith.
Edrychwch ar y cwestiynau cyffredin.
Faint o oed sydd angen i mi fod i weithio'n llawn amser?
Gallwch ddechrau gwaith llawn amser hyd at 40 awr yr wythnos pan fyddwch wedi cyrraedd yr isafswm oedran gadael ysgol.
Yng Nghymru, cyfrifir yr isafswm oedran gadael ysgol fel hyn:
- Gallwch adael yr ysgol ar ddydd Gwener olaf mis Mehefin, dim ond os ydych chi’n mynd i fod yn 16 oed erbyn diwedd gwyliau haf y flwyddyn ysgol honno.
Dysgwch fwy am gyflogaeth plant a'r oedran gadael ysgol swyddogol ar Gov.uk. (dolenni Saesneg)
Galla i weithio'n rhan-amser tra bydda i yn yr ysgol?
Gallwch wneud y canlynol:
- Gweithio'n rhan amser o 13 oed yng Nghymru. Mae cyfyngiadau ar faint o oriau y gallwch weithio. Ewch i Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru am fwy o wybodaeth
Gall plant sy'n gweithio ym myd teledu, y theatr a modelu fod yn iau. Mae'n rhaid i unrhyw un o dan 13 oed sy'n gweithio yn y 3 maes hon gael trwydded berfformio. Dysgwch fwy am weithio fel plentyn yn perfformio ar Gov.uk. (dolen Saesneg)
Beth yw’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol/Cyflog Byw Cenedlaethol?
Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol/Cyflog Byw Cenedlaethol yw'r isafswm cyflog yr awr y byddech yn cael eich talu mewn swydd.
I gael:
- Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol rhaid i chi fod o oedran gadael ysgol o leiaf a hyd at 20 oed
- Y Cyflog Byw Cenedlaethol rhaid i chi fod yn 21 oed a hŷn
Mae’r cyfraddau hyn yn newid bob 1 Ebrill.
Blwyddyn | 21 a throsodd | 18 i 20 | O dan 18 | Prentis |
---|---|---|---|---|
Ebrill 2024 | £11.44 | £8.60 | £6.40 | £6.40 |
Ebrill 2025 | £12.21 | £10.00 | £7.55 | £7.55 |
Edrychwch ar Gyfraddau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol ar Gov.uk am fwy o wybodaeth, gan gynnwys cyfraddau ar gyfer prentisiaid sy'n dibynnu ar oedran a chyfnod y prentisiaeth.
Gall HelpwrArian, gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, eich helpu i ddeall mwy am eich cyflog. Edrychwch ar Deall eich slip cyflog i wybod mwy. (dolen Saesneg)
Sut mae cael Rhif Yswiriant Gwladol?
Rwyf dan 20 oed
Os ydych yn byw yn y DU a bod rhiant wedi llenwi ffurflen hawlio Budd-dal Plant ar eich rhan, dylai rhif Yswiriant Gwladol gael eu hanfon atoch yn awtomatig yn y 3 mis cyn eich pen-blwydd yn 16 oed. Os nad ydych yn derbyn un, a’ch bod rhwng 16 a 19 oed gallwch ffonio rhif llinell gymorth Cyllid a Thollau EM (CThEM):
Ffôn:0300 200 3500
Ffôn testun:0300 200 3519
Iaith Gymraeg: 0800 141 2349
Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener 8am-6pm
Pan fyddwch yn ffonio rhif y llinell gymorth, ni fydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn rhoi eich Rhif Yswiriant Gwladol i chi dros y ffôn. Caiff ei bostio atoch. Mae hyn yn cymryd 10 diwrnod gwaith fel arfer.
Rwyf dros 20 oed
Mae gwybodaeth am sut i wneud cais am Rif Yswiriant Gwladol ar Gov.uk
Gall gymryd hyd at 16 wythnos i gael eich Rhif Yswiriant Gwladol.
Rwyf wedi colli fy Rhif Yswiriant Gwladol
Mae gwybodaeth i helpu ddod o hyd i Rif Yswiriant Gwladol coll ar Gov.uk
Ble gallaf gael mwy o wybodaeth?
Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am eich Rhif Yswiriant Gwladol ar Gov.uk (dolen Saesneg)
Lle y gallaf gael mwy o wybodaeth am fy hawliau cyflogaeth?
Gellir cysylltu gyda ACAS (Advisory, Conciliation and Arbitration Service) am gyngor cyfrinachol, rhad ac am ddim ar gyfraith cyflogaeth neu gwestiynau sy’n gysylltiedig â gwaith.
Ffôn: 0300 123 1100
Ffôn testun: 18001 0300 123 1100
Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener 8am-6pm
Gweld y ffyrdd eraill o gysylltu ag ACAS. (dolen Saesneg)
Os wyt ti’n aelod o undeb llafur, gallan nhw dy gynghori di a dy gefnogi di am dy hawliau cyflogaeth.
Mae HelpwrArian, gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, yn cynnig cyngor am ddim a diduedd am arian a'ch hawliau fel cyflogai. (dolen Saesneg)
A ddylwn i ymuno ag undeb?
Mae undeb llafur yn sefydliad sy'n cynnwys gweithwyr sy'n gweithredu gyda'i gilydd. Mae undebau yn gweithio gyda chyflogwyr i gael gwell tâl ac amodau gwaith i weithwyr.
Bydd undeb llafur yn:
- Taro bargen gyda dy gyflogwr am well cyflog i ti
- Ymladd dros amodau gwaith gwell fel mwy o hawl i wyliau neu well tâl salwch
- Helpu dy gadw di'n ddiogel yn y gwaith drwy gytuno ar safonau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch gyda dy gyflogwr
- Dy gefnogi di a dy gynrychioli di os oes yna anghytuno gyda dy gyflogwr am dy hawliau cyflogaeth
- Ymladd yn erbyn triniaeth annheg a gwahaniaethu yn y gwaith, a dy gefnogi di os byddi di’n profi'r naill neu'r llall
Dy ddewis di yw ymuno ag undeb. Os byddi di’n dewis peidio ag ymuno, mae dy hawliau cyflogaeth gyda ti o hyd.
Oeddet ti’n gwybod? Mae undebau yn cynnal rhaglenni hyfforddiant ac addysg hefyd, i helpu pobl i gael swyddi gwell.
Dysga fwy am hyfforddiant Cronfa Ddysgu Undeb Cymru (WULF) ar wefan Trades Union Congress (TUC).
Dysga fwy am undebau llafur ar wefan Trades Union Congress (TUC) (dolen Saesneg)
Efallai bod un neu fwy o drefnyddion undeb yn dy weithle. Efallai y byddan nhw hefyd yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i ti.
Lle y gallaf ganfod gwybodaeth am ddatgelu cofnodion troseddol i gyflogwyr?
Mae NACRO yn elusen cyfiawnder cymdeithasol sydd â chyngor a gwybodaeth ynghylch (dolenni Saesneg):
- Datgelu cofnodion troseddol i gyflogwyr
- Sut y gall sectorau gwahanol ymdrin â cheisiadau gan bobl sydd â chofnod troseddol
- Pa wybodaeth sy’n cael ei datgelu yng ngwiriadau amrywiol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
- Sut i ganfod beth sydd ar eich cofnod troseddol
Ffôn: 0300 123 1889
E-bost: website@nacro.org.uk
Beth yw fy hawliau os ydw i’n weithiwr asiantaeth dros dro?
Bydd gennych hawliau cyflogaeth gweithiwr ar Gov.uk (dolen Saesneg) o’r diwrnod y byddwch yn dechrau gweithio.
Ar ôl 12 wythnos yn eich swydd, byddwch yn gymwys i gael yr un hawliau â’r bobl sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y cwmni.
Darllen mwy am eich hawliau fel gweithiwr asiantaeth ar Gov.uk (dolen Saesneg)
Pwy sy'n gallu fy helpu os byddaf yn colli fy swydd?
Edrychwch ar Opsiynau ar ôl colli swydd am ragor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael.
Mae HelpwrArian, gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, yn gallu eich helpu i gynllunio cynllun colli swydd, hefo gwahanol budd-daliadau y gallwch eu hawlio a'r hawliau cyfreithiol. Cewch wybod mwy ar HelpwrArian - Colli swydd.
Pwy sy'n gallu fy helpu gyda phensiynau ac ymddeoliad?
Gall adran Adnoddau Dynol eich cwmni roi rhagor o wybodaeth i chi am y math o bensiwn sydd ganddoch a'r opsiynau gwahanol sydd ar gael i chi os ydych yn ystyried ymddeol.
Gallwch hefyd wybod mwy am Bensiwn y Wlad ar Gov.uk. (dolen Saesneg)
Mae HelpwrArian yn cynnig cyngor a gwybodaeth am mathau o bensiwn ac incwm ymddeol. Cewch wybod mwy ar HelpwrArian - Pensiynau ac Ymddeoliad.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Dysgwch am y cymorth sydd ar gael i'ch helpu chi i gael gwaith os ydych chi’n anabl neu os oes gennych chi gyflwr iechyd.