Mae Gyrfa Cymru wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru.
Safonau'r Gymraeg
Mae’n ofynnol i Gyrfa Cymru gydymffurfio gyda safonau penodol yn ymwneud â chyflenwi gwasanaeth, llunio polisïau, safonau gweithredu a chadw cofnodion. Darllenwch ein polisi ar yr iaith Gymraeg a'n adroddiad blynyddol ar safonau’r Gymraeg sydd yn egluro sut yr ydym yn cydymffurfio â’r safonau sy’n berthnasol i ni.
Dogfennau
Gwneud cwyn
Gallwch wneud cwyn i ni os byddwn ni'n methu â darparu gwasanaeth Cymraeg, neu os oes unrhyw un yn anfodlon gyda safon y gwasanaeth Cymraeg rydym yn ei ddarparu.
Gallwch hefyd wneud cwyn i Gomisiynydd y Gymraeg.
Byddwn yn delio â'r holl gwynion a dderbyniwn yn unol â’r dudalen Adborth a chwynion gan gynnwys y rhai a dderbyniwn mewn perthynas â'n methiant i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, Safonau Cyflenwi Gwasanaethau, Safonau Llunio Polisi a Safonau Gweithredu. Ni fydd cwynion sy'n cael eu derbyn yn Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn wahanol o ran yr amseroedd ymateb.