Bydd rhai pobl ifanc mewn ysgolion yn mynd i gyfarfodydd cynllun trosglwyddo.
Beth yw cyfarfodydd cynllun trosglwyddo?

Cyfarfodydd sy'n helpu chi i gynllunio eich dyfodol

Maent yn edrych ar y gefnogaeth rydych chi'n ei gael yn yr ysgol ac os yw hyn yn eich helpu chi

Bydd yr ysgol yn eu trefnu unwaith y flwyddyn

Mae'r ysgol yn gwahodd pobl eraill i'r cyfarfodydd
Pwy fydd yn y cyfarfodydd yma?
Bydd yr ysgol yn gwahodd pobl i’r cyfarfod.
Gall pobl fydd yn mynd i'r cyfarfod gynnwys:

Chi

Athro / Athrawes

Eich rhieni / gofalwyr
Gallai hefyd gynnwys pobl eraill sy’n gweithio gyda chi.
Pobl fel:

Eich Cynghorydd Gyrfa

Eich Gweithiwr Cymdeithasol

Pobl eraill sy'n gallu eich helpu
Beth fydd yn digwydd yn y cyfarfodydd?
Mae’r holl gyfarfod yn canolbwyntio arnoch chi a’ch dyfodol.
Yn y cyfarfod:

Os ydych chi eisiau, gallwch chi siarad am yr hyn rydych chi'n meddwl sy'n mynd yn dda a phethau nad ydyn nhw'n mynd cystal

Byddwch chi'n gallu dweud wrth bobl beth rydych chi eisiau ei wneud yn y dyfodol

Efallai y bydd pobl eraill yn siarad am sut y gallant eich helpu chi

Bydd pawb yn cytuno ar gynllun i chi wybod beth sydd angen i chi ei wneud a beth fydd pobl eraill yn ei wneud i'ch helpu chi
Beth fydd angen i mi ei wneud yn y cyfarfodydd?
Does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth os nad ydych chi eisiau gwneud hynny ond mae'n bwysig bod pobl yn gwybod beth rydych chi ei eisiau.
Os nad ydych chi eisiau siarad yn y cyfarfod, siaradwch â'ch Athrawon neu rywun arall cyn y cyfarfod a dywedwch wrthyn nhw beth yr hoffech i bobl ei wybod.
Os yr hoffech chi siarad, fe allwch chi ddweud wrth bobl:
- Sut mae pethau'n mynd yn yr ysgol
- Os ydych chi angen help gyda rhywbeth
- Beth yr hoffech chi ei wneud yn y dyfodol a holi pwy sy'n gallu eich helpu
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Dewch i wybod beth ddylech chi feddwl amdano i'ch helpu chi i wneud penderfyniadau am eich dyfodol.