Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Cyfarfodydd Cynllun Trosglwyddo

Bydd rhai pobl ifanc mewn ysgolion yn mynd i gyfarfodydd cynllun trosglwyddo.

Beth yw cyfarfodydd cynllun trosglwyddo?

Eicon o ddau berson yn eistedd wrth fwrdd hefo tic

Cyfarfodydd sy'n helpu chi i gynllunio eich dyfodol

Eicon o adeilad ysgol

Maent yn edrych ar y gefnogaeth rydych chi'n ei gael yn yr ysgol ac os yw hyn yn eich helpu chi

Eicon o galendar gyda'r rhif un ynddo

Bydd yr ysgol yn eu trefnu unwaith y flwyddyn

Eicon o 3 person

Mae'r ysgol yn gwahodd pobl eraill i'r cyfarfodydd


Pwy fydd yn y cyfarfodydd yma?

Bydd yr ysgol yn gwahodd pobl i’r cyfarfod.

Gall pobl fydd yn mynd i'r cyfarfod gynnwys:

Eicon o fenyw

Chi

Graffeg o Athrawes

Athro / Athrawes

Graffeg o ddyn ifanc

Eich rhieni / gofalwyr

Gallai hefyd gynnwys pobl eraill sy’n gweithio gyda chi.

Pobl fel:

Graffeg o Gynghorydd Gyrfa

Eich Cynghorydd Gyrfa

Graffeg o weithiwr cymdeithasol

Eich Gweithiwr Cymdeithasol

Eicon o berson

Pobl eraill sy'n gallu eich helpu


Beth fydd yn digwydd yn y cyfarfodydd?

 Mae’r holl gyfarfod yn canolbwyntio arnoch chi a’ch dyfodol.

Yn y cyfarfod:

Eicon o swigod siarad hefo marciau lleferydd ynddo

Os ydych chi eisiau, gallwch chi siarad am yr hyn rydych chi'n meddwl sy'n mynd yn dda a phethau nad ydyn nhw'n mynd cystal

Eicon o pwynt pin ar fap

Byddwch chi'n gallu dweud wrth bobl beth rydych chi eisiau ei wneud yn y dyfodol

Eicon o godi bawd mewn swigod siarad

Efallai y bydd pobl eraill yn siarad am sut y gallant eich helpu chi

Eicon o ddogfen yn cael ei arwyddo

Bydd pawb yn cytuno ar gynllun i chi wybod beth sydd angen i chi ei wneud a beth fydd pobl eraill yn ei wneud i'ch helpu chi


Beth fydd angen i mi ei wneud yn y cyfarfodydd?

Does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth os nad ydych chi eisiau gwneud hynny ond mae'n bwysig bod pobl yn gwybod beth rydych chi ei eisiau.

Os nad ydych chi eisiau siarad yn y cyfarfod, siaradwch â'ch Athrawon neu rywun arall cyn y cyfarfod a dywedwch wrthyn nhw beth yr hoffech i bobl ei wybod.

Os yr hoffech chi siarad, fe allwch chi ddweud wrth bobl:

  • Sut mae pethau'n mynd yn yr ysgol
  • Os ydych chi angen help gyda rhywbeth
  • Beth yr hoffech chi ei wneud yn y dyfodol a holi pwy sy'n gallu eich helpu

Efallai y byddech hefyd yn hoffi