Mae byd CrefftGyrfaoedd yn galluogi chwaraewyr i ddatblygu sgiliau gyrfa ac ymwybyddiaeth wrth iddyn nhw ymweld â thirnodau ledled Cymru.
Mae CrefftGyrfaoedd yn cael ei chwarae drwy ddefnyddio Minecraft. Mae'n ffordd ryngweithiol i ddysgwyr archwilio pynciau gyrfaoedd drwy ddefnyddio platfform sy'n gyfarwydd ac yn boblogaidd gyda llawer o bobl.
Y byd CrefftGyrfaoedd
Mae chwaraewyr yn dechrau mewn adeilad o'r enw Fy Amgueddfa I. O'r fan honno gallan nhw deithio ar borthol neu drol i un o’r 8 tirnod i gwblhau gweithgaredd. Mae gweithgareddau'n cymryd rhwng 30 a 60 munud i'w cwblhau.
Tirweddau a gweithgareddau
Mae 6 tirnod yn gysylltiedig â gwahanol feysydd y Cwricwlwm i Gymru.
Yn y ddau dirnod arall, mae dysgwyr yn gallu edrych ar yrfaoedd mewn diwydiannau gwahanol.
Bluestone - Gyrfaoedd mewn lletygarwch a thwristiaeth
Hyd y gweithgaredd: 60 munud
Mae chwaraewyr yn mynd i leoliadau o amgylch parc gwyliau Bluestone. Maen nhw’n cefnogi'r staff y maen nhw’n eu cyfarfod trwy wneud sawl tasg bwysig iawn. Pan mae’r tasgau wedi cael eu gwneud, gallan nhw adeiladu prif swyddfa newydd yn Bluestone. Bydd hyn yn rhoi mannau gwaith i nifer fawr o wahanol alwedigaethau.
Gall dysgwyr chwilio drwy'r nifer fawr o yrfaoedd mewn twristiaeth a lletygarwch. O rai sy’n achub bywyd i gogyddion a chymorthyddion sba a ffotograffyddion. Maen nhw’n archwilio'r rolau ac yn meddwl am y sgiliau sydd angen. Maen nhw hefyd yn meddwl sut y gall y sgiliau hyn gael eu trosglwyddo i, neu o, yrfaoedd eraill.
Traphont Ddŵr Pontcysyllte - Gyrfaoedd mewn peirianneg
Hyd y gweithgaredd: 60 munud
Mae chwaraewyr yn cael eu herio i atgyweirio gollyngiad dŵr yn y strwythur enwog hwn.
Mae dysgwyr yn dysgu sut mae prosiectau peirianneg sifil yn cael eu rheoli. Yna maen nhw'n ystyried pa fathau o swyddi peirianneg fyddai'n ddefnyddiol ar gyfer y prosiect hwn. Maen nhw hefyd yn archwilio rolau mewn disgyblaethau peirianneg eraill ac yn ystyried a ydyn nhw’n cyfateb i'w sgiliau a'u diddordebau eu hunain.
Y Senedd - Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Hyd y gweithgaredd: 60 munud
Mae chwaraewyr yn ymweld â'r Senedd, cartref democratiaeth Cymru. Maen nhw’n siarad â gwahanol gymeriadau am y sgiliau a'r profiadau sydd eu hangen ar gyfer eu rôl.
Caiff dysgwyr eu hannog i fyfyrio ar eu sgiliau eu hunain - creadigrwydd, bod yn chwaraewr tîm, datrys problemau a defnyddio'r Gymraeg. Maen nhw’n gwneud nodiadau ynglŷn â sut y gallen nhw ffitio rôl ‘Gweinidog Minecraft’ cyntaf Cymru a chreu cais.
Dinbych-y-pysgod - Iechyd a Lles
Hyd y gweithgaredd: 30 munud
Mae chwaraewyr yn crwydro tref hanesyddol Dinbych-y-pysgod, sy'n enwog am ei thraethau a'i ffordd o fyw awyr agored. Maen nhw'n mynd ar daith drol arbennig lle gofynnir cwestiynau iddyn nhw er mwyn dysgu mwy amdanyn nhw eu hunain.
Mae dysgwyr yn meddwl am eu dewisiadau a'u diddordebau. Maen nhw’n ystyried sut mae'r rhain yn cysylltu â dysgu a gyrfaoedd posibl yn y dyfodol. Ar ddiwedd eu taith, rhoddir mwy o wybodaeth iddyn nhw am eu cryfderau a'u nodweddion personoliaeth.
Cyfnewidfa Lo Caerdydd – Mathemateg a Rhifedd
Hyd y gweithgaredd: 30 munud
Mae chwaraewyr yn ymweld â'r hyn a fu unwaith yn ganolbwynt i fasnach lo'r byd. Dyma lle llofnodwyd y siec gyntaf o £1 miliwn. Eu her nhw yw troi glo yn aur. Maen nhw’n siarad â masnachwyr gwahanol ac yn masnachu'r eitemau sydd ganddyn nhw.
Mae dysgwyr yn defnyddio eu mathemateg a rhifedd i weithio allan y fasnach a'r cyfnewid gorau. Gallai'r her hon fod yn fwy addas i bobl ifanc 11 oed a throsodd.
Canolfan Mileniwm Cymru – Celfyddydau Mynegiannol
Hyd y gweithgaredd: 60 munud
Mae chwaraewyr yn archwilio'r theatr ac yn dysgu am y gwahanol fathau o yrfaoedd sydd ar gael yn y diwydiannau creadigol. Maen nhw'n dysgu am rolau o actorion i sgriptwyr i ddylunwyr set i farchnata.
Pan fydd dysgwyr yn gwybod mwy am y gwahanol rolau, maen nhw’n adeiladu eu set eu hunain. Gallan nhw gymryd ysbrydoliaeth o hoff ffilm, llyfr neu sioe neu ddefnyddio eu dychymyg nhw.
Pwll Mawr – Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Hyd y gweithgaredd: 30 munud
Rhaid i chwaraewyr gloddio i ddod o hyd i'r labordai tanddaearol ac achub dau gymeriad yn amgueddfa lofaol Pwll Mawr ar safle treftadaeth y byd ym Mlaenafon.
Bydd dysgwyr yn cwrdd â chymeriadau sydd â gyrfaoedd pwysig mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Byddan nhw’n dysgu mwy am eu rolau a'r math o waith maen nhw’n ei wneud.
Castell Caernarfon - Y Dyniaethau
Hyd y gweithgaredd: 45 munud
Mae chwaraewyr yn teithio i'r oesoedd canol i siarad â'r cymeriadau yng Nghastell Caernarfon am eu rolau.
Mae dysgwyr yn nodi cymaint o swyddi â phosib. Rhaid iddyn nhw ystyried a yw'r rolau'n dal i fodoli heddiw a'r hyn sy'n cyfateb iddyn nhw heddiw. Caiff dysgwyr eu hannog i ystyried sut a pham mae'r byd gwaith yn newid. Yna mae dysgwyr yn cynllunio gŵyl Eisteddfod yn y castell ac yn meddwl pa fathau o swyddi a sgiliau fyddai eu hangen.
Sut i ddod o hyd i CrefftGyrfaoedd a’i chwarae
Ewch i'r dudalen CrefftGyrfaoedd ar Addysg Minecraft (Saesneg yn unig) i:
- Ddysgu mwy am Addysg Minecraft
- Lawrlwytho byd CrefftGyrfaoedd
- Derbyn cynlluniau gwersi a llyfrau gwaith disgyblion
Mewn ysgolion
I ddefnyddio Minecraft mewn ysgolion bydd angen i chi gael, neu osod, Minecraft: Rhifyn Addysg ar ddyfais.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud Minecraft: Rhifyn Addysg ar gael i bob ysgol a dysgwr yng Nghymru.
Pan fydd Minecraft: Rhifyn Addysg wedi'i osod gyda chi ar ddyfais, byddwch yn gallu lawrlwytho CrefftGyrfaoedd.
Gartref
Mae CrefftGyrfaoedd ar gael ar gyfer holl ddefnyddwyr presennol Minecraft. Os ydych chi eisoes yn chwarae Minecraft ar gonsol gemau neu gyfrifiadur gallwch lawrlwytho CrefftGyrfaoedd o Farchnad Minecraft.
Delweddau o CrefftGyrfaoedd
Dinbych-y-pysgod yn CrefftGyrfaoedd ar Minecraft
Castell Caernarfon yn CrefftGyrfaoedd ar Minecraft