Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Uwch Swyddog Gwybodaeth Reoli

Mae’r swydd wag hon bellach wedi cau. Diolch am eich diddordeb. Ewch i Gweithio i ni i chwilio am swyddi gwag yn y dyfodol.

Rydym am benodi Uwch Swyddog Gwybodaeth Reoli.

Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant.  Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw – ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud.

Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gynnal a chadw System Gwybodaeth Reoli y Cwmni ac am ddylunio, adeiladu a gweithredu adroddiadau gwybodaeth reoli gan ddefnyddio Microsoft Power BI i gefnogi gwaith monitro a gofynion ystadegol.

Cyflog

£26,480 y flwyddyn

Cytundeb 

Swydd dros-dro am hyd at flwyddyn oherwydd cyfnod mamolaeth

Oriau Gwaith

Llawn Amser/37 awr yr wythnos

Lleoliad

Hyblyg

Dyddiad Cau 

9am ar Dydd Mawth yr 8fed o Fawrth 2022

Gofynion / Cymwysterau

Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod wedi'u addysgu i lefel cymhwyster NVQ Lefel 3 mewn Technoleg Gwybodaeth neu gymhwyster a/neu brofiad perthnasol. Dylai ymgeiswyr feddu ar wybodaeth drylwyr o Power BI ac ar y gallu i ddehongli data cymhleth a chynhyrchu adroddiadau ystyrlon o fewn terfynau amser tynn.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon.

Gwybodaeth arall

Ymysg y buddion deniadol mae oriau hyblyg, 30 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl yn gysylltiedig ag iechyd.

Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.   

Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.

Dogfennau

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Sgiliau Iaith Gymraeg - Disgrifyddion Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..

 

Sut i ymgeisio

Cwblhewch y ffurflen gais, ffurflen Asesiad Iaith Gymraeg (os ydych yn siarad Cymraeg ac yn gallu cyflawni dyletswyddau’r swydd drwy gyfrwng y Gymraeg) a ffurflen monitro cyfleoedd cyfartal ac anfonwch at: ad@gyrfacymru.llyw.cymru.

Mi fydd y broses asesu a chyfweld yn cael ei gynnal yn ddigidol.

Sylwer na fyddwn yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na rhai Saesneg.

Am wybodaeth ar sut y mae eich data’n cael ei storio a’i ddefnyddio ewch i’n tudalen Hysbysiad Preifatrwydd.