Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cefnogaeth cwricwlwm

Mae gennym ni 2 dîm sy’n gweithio gyda staff mewn ysgolion a lleoliadau i ddatblygu’r modd y darperir gyrfaoedd yn y cwricwlwm.

Cydlynwyr Cwricwlwm

Mae Cydlynwyr Cwricwlwm yn gweithio gyda phob ysgol uwchradd, ysgol arbennig, unedau cyfeirio disgyblion (UCD), a cholegau addysg bellach ledled Cymru. Mae gan ein tîm wybodaeth arbenigol am addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith a gyrfaoedd a’r byd gwaith (GBG). Gallant gynnig ymgynghoriaeth, hyfforddiant ac adnoddau i'ch cefnogi. Cysylltwch â ni i gael gwybod sut y gallwn weithio gyda'ch ysgol neu goleg.

Partneriaeth Addysg Busnes (PAB)

Mae PAB yn wasanaeth sydd ar gael i bob ysgol uwchradd, ysgol arbennig ac UCD. Ei nod yw dod ag ysgolion a busnesau ynghyd i hysbysu, ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc am eu cyfleoedd gyrfa.

Dysgwch fwy am ein PAB a chymorth cyflogwyr i ysgolion neu gallwch gysylltu â'n Tîm Busnes Addysg i ddarganfod sut y gallwn weithio gyda chi.