Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Llywodraethwyr

Gallwn ni helpu cyrff llywodraethu i ddeall eu rôl wrth gefnogi'r strategaeth ar gyfer addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith (gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith) yng Nghwricwlwm i Gymru.

Addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith

Beth yw gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith?

Mae gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn cynnwys:

  • Cyfarwyddyd a chyngor gyrfaoedd diduedd gan weithiwr proffesiynol cymwysedig (Ysgolion Uwchradd)
  • Profiadau sy’n gysylltiedig â gwaith (dod â chyflogwyr/cyn-fyfyrwyr i’r dosbarth, ymweliadau â diwydiant, cysylltiadau â Meysydd Dysgu a Phrofiad)
  • Gwybodaeth am y Farchnad Lafur
  • Ymwybyddiaeth o gyfleoedd (Dewisiadau ôl-16, Dewisiadau ôl-18, gwneud penderfyniadau gwybodus, llwybrau, sectorau twf)
  • Cynllunio ar gyfer pontio (ymchwil, rhoi cynlluniau ar waith, gwneud penderfyniadau, parodrwydd)
  • Gweithgareddau cyfoethogi’r cwricwlwm (Ffeiriau Gyrfaoedd, Ffug-gyfweliadau, Ymweliadau â diwydiant)

Pam bod gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn bwysig?

Mae gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth i’w paratoi ar gyfer heriau a chyfleoedd dysgu pellach a’r byd gwaith sy’n bythol esblygu.

Mae gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn cyfrannu at sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.

Beth sydd angen i lywodraethwyr ei wybod?

Mae gan gyrff llywodraethu rôl allweddol i helpu ysgolion a lleoliadau i sicrhau bod addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith (gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith) wedi’u ymgorffori drwy’r continwwm 3-16 ac ar draws y cwricwlwm er mwyn helpu pob dysgwr i wneud cynnydd. Ni ddylid ei addysgu fel pwnc annibynnol. Dylai ysgolion ddylunio gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith fel rhan annatod o’u cwricwlwm a’u profiadau dysgu. Mae gan bob ymarferydd rôl i’w chwarae i’w cyflawni.

Dylai ysgolion a lleoliadau ddatblygu gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith ar draws y cwricwlwm er mwyn i ddysgwyr archwilio a deall y byd gwaith mewn cyd-destunau sy’n briodol i’w datblygiad. Mae gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith  yn darparu dysgu a phrofiadau o’r byd go iawn er mwyn iddynt ddatblygu eu sgiliau a defnyddio eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth yn y Meysydd. Drwy wneud hynny, mae gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn ategu dyluniad cwricwlwm pwrpasol a chyfleoedd ar gyfer dysgu dilys sy’n hanfodol i ddealltwriaeth gynyddol dysgwyr a’u dewisiadau gyrfa wrth iddynt ddatblygu.

Mwy o wybodaeth am yrfaoedd a phrofiadau byd gwaith

Pwy sy’n gyfrifol am yrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn y Cwricwlwm i Gymru?

Mae gan ysgolion yr hyblygrwydd i benderfynu sut orau i gyflenwi darpariaeth gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn eu sefydliad eu hunain, fodd bynnag, rhaid i’r cyfrifoldeb cyffredinol dros y ddarpariaeth gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith, ac am ei chydlynu, sefyll â chorff llywodraethu ac uwch dîm arweinyddiaeth y sefydliad. Rhaid i bob sefydliad benderfynu sut caiff rolau a chyfrifoldebau gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith eu rhannu ymysg ei staff, er mwyn gwneud y gorau o’u sgiliau a’u harbeniged

Cafodd canllawiau statudol ar gyfer gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith eu datblygu i helpu ymarferwyr a chyrff llywodraethu mewn ysgolion a sefydliadau i gynllunio, dylunio a gweithredu gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith fel thema trawsbynciol ar draws y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer dysgwyr o 3 i 16 oed. Caiff y canllawiau ar gyfer gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith eu cyflwyno dan adran 71 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”).

Rhaid i’r rhaglen gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith gael ei chydlynu, ei chynllunio a’i chyflawni gan staff o’r ysgol neu’r sefydliad. Er mai’r ysgol neu’r sefydliad sy’n gyfrifol am gydlynu a chyflawni gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn effeithiol, ni ellir ond cyflwyno rhaglen effeithiol drwy gydweithredu â sefydliadau eraill, megis Gyrfa Cymru, cyflogwyr, darparwyr addysg bellach ac uwch, entrepreneuriaid, cynghorwyr, rhieni/gofalwyr, hyfforddwyr a grwpiau cymunedol sy’n cynnig cyfleoedd perthnasol sy’n gysylltiedig â’u meysydd arbenigedd.

Sut bydd Estyn yn arolygu darpariaeth addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith ysgol neu sefydliad?

Yn ystod arolygiad Estyn, bydd y tîm arolygu yn ystyried ansawdd y gofal, y gefnogaeth a’r arweiniad a roddir. Bydd hyn yn cynnwys gwerthuso cwricwlwm y darparwr ac ystyried pa mor dda y mae’r ysgol neu’r sefydliad yn darparu profiadau dysgu sy’n ysbrydoli dysgwyr ac yn codi eu dyheadau ynglŷn â’u gyrfaoedd i’r dyfodol a’r byd gwaith, gan eu helpu i wneud dewisiadau gwybodus. Bydd arolygwyr hefyd yn gwerthuso i ba raddau y mae’r ysgol neu’r sefydliad yn darparu cyfarwyddyd a chyngor effeithiol, diduedd i ddysgwyr, sy’n ymwneud er enghraifft â dewisiadau gyrfa i’r dyfodol.

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i gyflogwyr, ysgolion ac eraill weithio gyda’i gilydd i ysbrydoli pobl ifanc ynglŷn â’r byd gwaith. Mae’n gefnogol iawn o gynlluniau i hybu swyddi dan prentisiaethau, Twf Swyddi Cymru+, menter, cyflogadwyedd, ymwybyddiaeth o yrfaoedd STEM, gallu ariannol a gwirfoddoli.

Beth all llywodraethwyr ei gyfrannu?

Gyda’i gilydd ac yn unigol, mae llywodraethwyr yn dod ag ystod o sgiliau a gwybodaeth sy’n gallu helpu i wella ansawdd darpariaeth gyrfaoedd ysgol neu sefydliad gan gynnwys:

  • Cysylltiadau defnyddiol i gefnogi gweithgareddau ymgysylltu â chyflogwyr mewn ysgolion a cholegau
  • Ymwybyddiaeth o anghenion a disgwyliadau myfyrwyr, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach
  • Dealltwriaeth o’r farchnad lafur leol a’i chyfleoedd
  • Cysylltiadau mewn darpariaeth addysg a hyfforddiant arall yn y gymuned y gellir ei harneisio i greu cyfleoedd i fyfyrwyr
  • Profiad personol o gynllunio a datblygu gyrfa ym maes cyflogaeth a bywyd fel oedolion
  • Sgiliau busnes, ariannol ac adnoddau dynol i helpu â chynllunio strategol, defnyddio adnoddau’n effeithiol, datblygu’r gweithlu ac adolygu a gwerthuso
Pa gamau y gallai’r corff llywodraethu eu hystyried?

Gallai corff llywodraethu ystyried y camau canlynol:

  • Annog yr ysgol neu’r sefydliad i weithio at ennill neu gynnal gwobr gwella ansawdd Gyrfa Cymru er mwyn ennyn hyder yn y ddarpariaeth gyrfaoedd a chynyddu proffil yr ysgol
  • Sicrhau bod y staff priodol yn cadw golwg ar ddarpariaeth gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yr ysgol neu’r sefydliad, er enghraifft, gan sicrhau bod y polisi gyrfaoedd yn ddiweddar a monitro effeithiolrwydd y ddarpariaeth yn erbyn cynllun datblygu/cyflawni blynyddol yr ysgol
  • Adolygu adroddiadau gan sicrhau bod dulliau ymyrraeth yn cael eu cofnodi’n ganolog, bod llifoedd cyllid megis y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael eu defnyddio’n effeithiol a bod data am hynt disgyblion yn cael ei sefydlu fel rhan o ddefnydd cyffredinol yr ysgol sef i wella cyrhaeddiad, cyflawniad a chyfranogaeth
  • Dewis llywodraethwr cyswllt, megis llywodraethwr sy’n gyflogwr lleol, i gefnogi a herio’r staff gyrfaoedd
  • Ceisio cyfleoedd priodol i siarad â dysgwyr am eu profiad o ddarpariaeth gyrfaoedd yr ysgol e.e. mynychu digwyddiadau neu gymryd rhan yng nghyfarfodydd cyngor yr ysgol
  • Annog staff gyrfaoedd yr ysgol i ennill cymwysterau perthnasol, e.e. Tystysgrif Lefel 6 mewn Arweinyddiaeth Gyrfaoedd
Cwestiynau i’r Llywodraethwyr eu gofyn i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth

A ydym yn cyflawni ein dyletswyddau statudol o safbwynt cyfarwyddyd gyrfaoedd?

Gallai cwestiynau dilynol gynnwys:

  • I ba raddau y mae’r ddarpariaeth yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth berthnasol, meini prawf arolygu Estyn ac argymhellion Llywodraeth Cymru?
  • A oes gan yr ysgol bolisi cyfarwyddyd gyrfaoedd ar waith sy’n cael ei adolygu gan y corff llywodraethu neu bwyllgor llywodraethwyr priodol (yn ddelfrydol bob dwy flynedd neu’n unol â chynllun datblygu’r ysgol) ac a yw’n adlewyrchu’r gofynion cenedlaethol ac ein huchelgeisiau?
  • A oes gan yr ysgol aelod o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth sy’n ysgwyddo cyfrifoldeb cyffredinol dros arwain a rheoli darpariaeth gyrfaoedd yr ysgol?
  • A oes gan yr ysgol aelod o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth sy’n ysgwyddo cyfrifoldeb am gefnogi dysgu proffesiynol staff gyrfaoedd yr ysgol?

Pa wahaniaeth y mae perfformiad yr ysgol yn ei wneud i gyrhaeddiad a chynnydd cysylltiedig â gyrfaoedd ein myfyrwyr?

Gallai cwestiynau dilynol gynnwys:

  • A yw’r ysgol a’r corff llywodraethu wedi dadansoddi’r data ar hynt disgyblion ar ddiwedd CA4 a CA5 gan fynd yn ôl dros y 3-5 mlynedd diwethaf?
  • A yw’r ysgol a’r corff llywodraethu yn gwerthuso’n rheolaidd y data ar ansawdd ac effaith darpariaeth gyrfaoedd yr ysgol ac a yw’n defnyddio’r data hwnnw i lywio gwelliant? 
  • Sut mae’r ysgol a’r corff llywodraethu yn hybu’r ddarpariaeth gyrfaoedd i ddisgyblion, eu teuluoedd, i bartneriaid addysg lleol a chyflogwyr?

Pa gyfraniad mae ein darpariaeth gyrfaoedd yn ei wneud i effeithiolrwydd a gwelliant yr ysgol?

Gallai cwestiynau dilynol gynnwys:

  • A yw cynllun cyflawni gyrfaoedd blynyddol yr ysgol yn gwneud yn glir sut bydd gwaith gyrfaoedd yn helpu i gyrraedd y nodau yng nghynllun gwella’r ysgol?
  • Ar ba argymhellion, a wnaed gan Estyn, y mae darpariaeth gyrfaoedd yr ysgol yn cael effaith gadarnhaol?

A ydym wedi dyrannu adnoddau digonol i fodloni ein dyletswydd ac a ydym yn cael gwerth am arian?

Gallai cwestiynau dilynol gynnwys:

  • Faint mae’r ddarpariaeth addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith yn ei gostio i’r ysgol?
  • Sut mae’r ysgol yn rheoli ei Chytundeb Partneriaeth â Gyrfa Cymru?
  • Beth yw proses y gyllideb ar gyfer gyrfaoedd?
  • Sut mae’r ysgol yn trafod telerau cyfraniad partneriaid eraill?

Gyrfa Cymru a gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith

Rydym yn wasanaeth gyrfaoedd cenedlaethol dwyieithog, cynhwysol a diduedd, y mae Llywodraeth Cymru yn berchen arno ac yn ei ariannu. Cynigir cefnogaeth i ddysgwyr i’w helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r byd gwaith, o’r sgiliau mae arnynt eu hangen a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.  Mae ein Cynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol-gymwysedig yn gweithio gyda dysgwyr yn yr holl golegau a’r sefydliadau uwchradd ar draws Cymru ac mae ganddynt rôl benodol i helpu myfyrwyr disgyblion difreintiedig a bregus i bontio a hefyd rai sydd mewn perygl o fod yn NEET (ddim mewn addysg, cyflogaeth, na hyfforddiant).

Yn ogystal, mae Gyrfa Cymru yn cynnig cefnogaeth i ysgolion a sefydliadau i adolygu a gwella eu darpariaeth gyrfaoedd, yn unol ag uchelgeisiau’r Cwricwlwm i Gymru. Gall athrawon a gweithwyr proffesiynol addysg gyrchu gwybodaeth ac adnoddau gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith o dudalen we athrawon a gweithwyr proffesiynol addysg sy'n cynnwys pecyn cymorth ar gyfer cefnogi datblygiad gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith, adnodd a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ysgolion gyda darpariaeth gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith ar draws y cwricwlwm. 

Dyfodol Disglair yw datganiad o gyd-uchelgeisiau Gyrfa Cymru i ddarparu dyfodol disglair i bobl Cymru.