Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion Blwyddyn 12 yng Nghymru 2020

Crynodeb

Mae’r ffigurau hyn ar gyfer disgyblion 16 neu 17 oed a oedd ym mlwyddyn gyntaf y chweched dosbarth mewn ysgolion. Roedd yr arolwg, sy’n dangos hynt y disgyblion ar 31 Hydref 2020, yn cwmpasu 12,222 o ddisgyblion hynny yw carfan hynt disgyblion Blwyddyn 12 yn 2020.

  • Roedd 47.0% (5,742 o unigolion) yn fechgyn a 53.0% (6,477 o unigolion) yn ferched
  • Aeth y rhan fwyaf o’r garfan, 96.6% (11,801 o unigolion), i ryw fath o drefniant dysgu parhaus ar ffurf addysg amser llawn, addysg ran-amser (16 awr neu lai b bob wythnos) neu hyfforddiant yn y gweithle. Roedd hyn yn cynrychioli 96.0% o fechgyn a 97.0% o ferched
  • Arhosodd y rhan fwyaf o’r garfan, 95.7% (11,702 o unigolion) mewn addysg amser llawn
  • Dewisodd 93.9% o’r rhai a arhosodd mewn addysg amser llawn (10,993 o unigolion) barhau â’u haddysg yn yr ysgol a 6.0% mewn coleg addysg bellach (697 o unigolion)
  • Dewisodd cyfran uwch o fechgyn (0.7 pwynt canran yn fwy na merched) barhau â’u haddysg mewn colegau addysg bellach
  • Dewisodd cyfran uwch o ferched aros yn yr ysgol (0.7 pwynt canran yn fwy na bechgyn)
  • Ymunodd 2.2% o’r garfan (267 o unigolion) â’r farchnad lafur, naill ai drwy gael swydd neu hyfforddiant yn y gweithle. Y gwahaniaeth rhwng bechgyn a merched a oedd yn dewis ymuno â’r farchnad lafur oedd 0.8 pwynt canran (2.6% bechgyn ac 1.8% merched)
  • Dewisodd 0.4% (43 o unigolion) hyfforddiant yn y gweithle gyda statws anghyflogedig
  • Dewisodd 0.4% o’r garfan (49 o unigolion) hyfforddiant yn y gweithle gyda statws cyflogedig. Roedd cyfran uwch o fechgyn (0.5%) na merched (0.3%) yn y categori hwn
  • Dewisodd 1.4% (175 o unigolion) waith heb gymorth ariannol gan y Llywodraeth. Y gwahaniaeth rhwng bechgyn (1.7%) a merched (1.2%) a oedd yn dewis y llwybr hwn oedd 0.4 pwynt canran
  • Ar ddyddiad yr arolwg, roedd yn hysbys nad oedd 0.6% o’r garfan (76 o unigolion), mewn unrhyw fath o addysg, gwaith na hyfforddiant (NEET). Bechgyn oedd 51.3% o’r cyfanswm (39 o unigolion) o gymharu â merched ar 48.7% (37 o unigolion)
  • Llwyddodd 46.1% (35 o unigolion) o’r rhai y mae’n hysbys nad oeddent mewn unrhyw fath o addysg, gwaith neu hyfforddiant (NEET) i gael addysg, gwaith neu hyfforddiant (EET)
  • Ni lwyddodd 53.9% (41 o unigolion) o’r rhai a oedd yn NEET i fynd ymlaen i addysg, gwaith neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd ac ati
  • Ni chafwyd ymateb i’r arolwg gan 1.2% o’r garfan (147 o unigolion)
  • Roedd 0.2% (23 o unigolion) wedi gadael eu hardal leol

Ffigyrau Cyffredinol Blwyddyn 12

Siart cylch yn nodi nifer y disgyblion ym mhob canlyniad. Gellir gweld esboniad llawn o'r holl ddata yn y tabl isod
Tabl yn dangos ffigyrau cyffredinol blwyddyn 12:
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Parhau mewn Addysg Llawn Amser 5458 95.1 6241 96.4 3 100.0 11702 95.7
Parhau mewn Addysg Rhan Amser (llai na 16 awr yr wythnos) 2 0.0 5 0.1 0 0.0 7 0.1
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws Di-waith 24 0.4 19 0.3 0 0.0 43 0.4
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws mewn Gwaith 30 0.5 19 0.3 0 0.0 49 0.4
Mewn Gwaith - Arall 95 1.7 80 1.2 0 0.0 175 1.4
Nad ydynt mewn Addysg, Hyfforddiant na Gwaith 39 0.7 37 0.6 0 0.0 76 0.6
Anhysbys 84 1.5 63 1.0 0 0.0 147 1.2
Wedi gadael yr ardal 10 0.2 13 0.2 0 0.0 23 0.2
Cyfanswm yn y cohort 5742 100 6477 100 3 100 12222


100

Addysg Amser Llawn

Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb sy'n aros mewn Addysg Amser Llawn:
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Ymlaen i Flwyddyn 13 yn yr ysgol 5108 93.6 5883 94.3 2 66.7 10993 93.9
Ymlaen i Flwyddyn 13 mewn coleg Addysg Bellach 345 6.3 351 5.6 1 33.3 697 6.0
Blwyddyn 12 parhau i Addysg Uwch (AU) 5 0.1 7 0.1 0 0.0 12 0.1
Blwyddyn 12 yn cymryd blwyddyn i ffwrdd gyda'r bwriad o fynd i AU 0 0.0 0 0.0 0 0.0 0 0.0
Cyfanswm 5458 100 6241 100 3 100 11702 100

Dim mewn Gwaith, Addysg a Hyfforddiant

Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb y gwyddys nad ydynt mewn gwaith, addysg llawn amser na hyfforddiant seiliedig at waith (i bobl ifanc):
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Yn gallu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant seiliedig ar waith 20 51.3 15 40.5 0 0.0 35 46.1
Yn methu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd ac ati 19 48.7 22 59.5 0 0.0 41 53.9
Cyfanswm 39 100 37 100 0 0.0 76 100

Ethnigrwydd

O’r rhai a roddodd wybodaeth am ethnigrwydd y dewis mwyaf poblogaidd ym mhob grŵp lleiafrifoedd ethnig oedd parhau mewn addysg amser llawn sef 95.5%. Mae hyn yn is na’r gyfran ar gyfer y rhai o gefndir gwyn (95.8%).

Roedd canran uwch o’r rhai o gefndir gwyn (gwahaniaeth o 0.9 pwynt canran) yn y categori cyflogedig, sef 1.5% o gefndir gwyn o gymharu ag 0.6% o leiafrifoedd ethnig.

Mae’r ffigur NEET ar gyfer y rhai o gefndiroedd gwyn yn uwch na’r rhai o leiafrifoedd ethnig (0.6% a 0.5% yn y drefn honno).

Tabl yn dangos hynt disgyblion blwyddyn 12 yn ôl % gwyn, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a dim gwybodaeth am ethnigrwydd:
  Gwyn % Grwpiau lleiafrifoedd ethnig % Dim gwybodaeth am darddiad ethnig % Cyfanswm %
Parhau mewn Addysg Llawn Amser (ysgolion a cholegau) 9836 95.8 1078 95.5 788 95.1 11702 95.7
Parhau mewn Addysg Ran Amser (llai na 16 awr yr wythnos) 6 0.1 1 0.1 0 0.0 7 0.1
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws Di-Waith 34 0.3 3 0.3 6 0.7 43 0.4
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws mewn Gwaith 40 0.4 2 0.2 7 0.8 49 0.4
Cyflogedig  157 1.5 7 0.6 11 1.3 175 1.4
Nad ydynt mewn Addysg, Hyfforddiant na Gwaith 64 0.6 6 0.5 6 0.7 76 0.6
Anhysbys 111 1.1 29 2.6 7 0.8 147 1.2
Ymadawyr Ysgol Statudol y gwyddys eu bod wedi gadael yr ardal 16 0.2 3 0.3 4 0.5 23 0.2
Cyfanswm y garfan 10264 100 1129 100 829 100 12222 100
% o'r garfan gyfan   84.0   9.2   6.8   100.0

Gweld grwpiau blwyddyn eraill