Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion Blwyddyn 13 yng Nghymru 2024

Crynodeb

Mae’r ffigurau ar gyfer disgyblion 17 ac 18 oed a oedd yn ail flwyddyn y chweched dosbarth mewn ysgolion. Roedd yr arolwg, sy’n darparu hynt disgyblion ar 31 Hydref 2024, ar gyfer 9,683 o ddisgyblion a oedd yn cwblhau Blwyddyn 13 yn 2024.

  • O'r garfan Blwyddyn 13 yn 2024, roedd 45.8% yn fechgyn a 54.2% yn ferched
  • Fe wnaeth 80.5% o garfan Blwyddyn 13 (7,792 o unigolion) barhau i ddysgu trwy addysg neu hyfforddiant seiliedig ar waith. Roedd hyn yn cynrychioli cyfran uwch o ddisgyblion benywaidd (83.0%) o'i gymharu â disgyblion gwrywaidd (77.5%)
  • Parhaodd 76.7% o garfan Blwyddyn 13 (7,425 o unigolion) â’u haddysg amser llawn (FTE). O'r rheini, aeth 84.2% (6,252 o unigolion) ymlaen yn uniongyrchol i addysg uwch. Roedd hyn yn cynrychioli 64.4% o gyfanswm y garfan
  • Yn 2024, aeth 87.4% o garfan benywaidd Blwyddyn 13 ymlaen yn syth i addysg uwch o gymharu ag 80% o’r garfan wrywaidd.
  • O’r rhai a barhaodd â’u haddysg amser llawn, gwnaeth canran lai barhau â’u haddysg yn yr ysgol, sef 6% (446 o unigolion), o gymharu â’r rhai aeth i goleg addysg bellach, sef 8.6% (635 o unigolion)
  • O’r rhai a barhaodd â’u haddysg, dywedodd 1.2% (92 o unigolion) eu bod yn cymryd blwyddyn i ffwrdd gyda’r bwriad o fynd ymlaen i addysg uwch yn y flwyddyn ganlynol.
  • Parhau mewn addysg rhan-amser (16 awr neu lai yr wythnos) oedd y llwybr a gymerwyd gan 52 o unigolion (0.5%)
  • Ymunodd 15.7% o garfan Blwyddyn 13 (1,515 o unigolion) â’r farchnad lafur, naill ai i gyflogaeth neu hyfforddiant seiliedig ar waith
  • Ymunodd 12.4% o garfan Blwyddyn 13 (1,200 o unigolion) â chyflogaeth y tu allan i hyfforddiant wedi’i ariannu gan y Llywodraeth, gyda 13.7% o fechgyn (607 o unigolion) ac 11.3% o fenywod (593 o unigolion) yn dewis y llwybr hwn
  • Ymunodd cyfran fach o garfan Blwyddyn 13, sef 0.4% (37 o unigolion) â hyfforddiant seiliedig ar waith heb statws cyflogedig
  • Ymunodd 2.9% o garfan Blwyddyn 13 (278 o unigolion) â dysgu seiliedig ar waith gyda statws cyflogedig. Penderfynodd canran uwch o fechgyn (4.4%) na merched (1.6%) ddilyn y trywydd hwn
  • Ar ddyddiad yr arolwg, gwyddom nad oedd 3.2% (309 o unigolion) o garfan Blwyddyn 13 mewn unrhyw fath o addysg, hyfforddiant na chyflogaeth (NEET). Roedd canran uwch o fechgyn, 4.1% (181 o unigolion) na merched, 2.4% (128 o unigolion) yn cael eu dosbarthu fel NEET
  • Y gyfradd ‘dim ymateb’ ar gyfer carfan Blwyddyn 13 yn 2024 oedd 3.6% o’r garfan (351 o unigolion)
  • Roedd 0.3% o garfan Blwyddyn 13 (31 o unigolion) wedi gadael eu hardal leol

Ffigurau Cyffredinol Bl 13

Siart bar o gyrchfannau disgyblion Blwyddyn 13 yn dangos bod y mwyafrif (76.7%) yn parhau mewn addysg llawn amser. Mae'r holl ddata yn y tabl isod
Tabl yn dangos ffigurau cyffredinol blwyddyn 13
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Parhau mewn Addysg Llawn Amser

3,187

71.8

4,238

80.8

0

0

7,425

76.7

Parhau mewn Addysg Rhan Amser (Llai na 16 awr yr wythnos)

31

0.7

21

0.4

0

0

52

0.5

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws anghyflogedig

26

0.6

11

0.2

0

0

37

0.4

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws cyflogedig

195

4.4

83

1.6

0

0

278

2.9

Cyflogedig - Arall

607

13.7

593

11.3

0

0

1,200

12.4

Gwyddys nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant

181

4.1

128

2.4

0

0

309

3.2

Dim ymateb i'r arolwg

197

4.4

154

2.9

0

0

351

3.6

Wedi gadael yr ardal

13

0.3

18

0.3

0

0

31

0.3

Cyfanswm y garfan

4,437

100

5,246

100

0

0

9,683

100

Addysg Llawn Amser

Tabl yn dangos canran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Llawn Amser yn ôl rhywedd
RhyweddCanran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Llawn Amser
Bechgyn71.8%
Merched80.8%
Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb sy'n aros mewn Addysg Llawn Amser
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Symud ymlaen at Flwyddyn 14, ysgolion 11-18

254

8.0

192

4.5

0

0

446

6.0

Gadael yr ysgol ym Mlwyddyn 13 a symud ymlaen at Goleg Addysg Bellach

348

10.9

287

6.8

0

0

635

8.6

Blwyddyn 13 yn parhau mewn Addysg Uwch (AU)

2,550

80.0

3,702

87.4

0

0

6,252

84.2

Blwyddyn 13 yn cymryd Blwyddyn i Ffwrdd gan fwriadu symud ymlaen at AU

35

1.1

57

1.3

0

0

92

1.2

Cyfanswm

3,187

100

4,238

100

0

0

7,425

100

Gwyddys Nad Ydynt Mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant

Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb y gwyddys nad ydynt mewn gwaith, addysg llawn amser na hyfforddiant seiliedig at waith i bobl ifanc
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Yn gallu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant seiliedig ar waith

75

41.4

46

35.9

0

0

121

39.2

Yn methu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd a rhesymau arall
 

106

58.6

82

64.1

0

0

188

60.8

Cyfanswm

181

100

128

100

0

0

309

100

Ethnigrwydd

O’r rhai a nododd wybodaeth am ethnigrwydd:

  • Y llwybr mwyaf poblogaidd ar draws y rhai a uniaethodd fel ethnig lleiafrifol oedd parhau mewn addysg amser llawn, ar 84.7%. Mae hyn o'i gymharu â 75.3% ar gyfer unigolion a oedd yn uniaethu fel gwyn
  • Ymunodd canran uwch o’r rhai sy’n uniaethu fel gwyn â chyflogaeth y tu allan i gynllun hyfforddiant wedi’i ariannu gan y Llywodraeth (13.3% yn wyn o gymharu â 7.3% sy’n uniaethu fel ethnig leiafrifol)
  • Gwnaeth canran uwch o’r rhai sy’n uniaethu fel gwyn ymuno â hyfforddiant seiliedig ar waith â statws cyflogedig (3.1% o gymharu â’r 0.9% sy’n uniaethu fel ethnig leiafrifol)
  • Roedd cyfradd y bobl ifanc sy’n uniaethu fel gwyn a nodwyd fel NEET yn uwch na’r rhai sy’n uniaethu fel ethnig leiafrifol (3.3% o gymharu â 2.6%). Mae hyn yn cynrychioli 282 o unigolion gwyn a 26 o unigolion ethnig lleiafrifol
Tabl yn dangos hynt disgyblion blwyddyn 13 yn ôl % gwyn, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a dim gwybodaeth am ethnigrwydd
StatwsGwyn%Grwpiau lleiafrifoedd ethnig%Dim gwybodaeth am darddiad ethnig%Cyfanswm%
Parhau mewn Addysg Llawn Amser (ysgolion a cholegau)

6,386

75.3

839

84.7

200

93.9

7,425

76.7

Parhau mewn Addysg Ran Amser (Llai na 16 awr)

49

0.6

3

0.3

0

0.0

52

0.5

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - statws anghyflogedig

36

0.4

0

0

1

0.5

37

0.4

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - statws cyflogedig

265

3.1

9

0.9

4

1.9

278

2.9

Cyflogedig

1126

13.3

72

7.3

2

0.9

1,200

12.4

Nad ydynt mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant

282

3.3

26

2.6

1

0.5

309

3.2

Anhysbys

308

3.6

39

3.9

4

1.9

351

3.6

Ymadawyr Ysgol Statudol y gwyddys eu bod wedi gadael yr ardal

27

0.3

3

0.3

1

0.5

31

0.3

Cyfanswm y garfan

8,479

100

991

100

213

100

9,683

100

% o'r garfan gyfan

 

87.6

 

10.2

 

2.2

 

100

Gweld grwpiau blwyddyn eraill