Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Datganiad Personol enghreifftiol 1 - Alex

Datganiad Personol enghreifftiol - Alex

Mae Alex yn gwneud cais am swydd Cynorthwyydd Manwerthu mewn siop DIY fawr.

Mae’r disgrifiad swydd yn gofyn am:

  • Sgiliau gwaith tîm
  • Dibynadwyedd
  • Sgiliau ymdrin â phobl a chyfathrebu cryf
  • Y gallu i ddysgu
  • Rhywun sy’n frwd ynglŷn â rhoi gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid
  • Diddordeb mewn DIY
  • Hyblygrwydd

Gwybodaeth am Alex:

  • Wedi gadael yr ysgol yn ddiweddar
  • Heb gael swydd am dâl yn flaenorol
  • Hobïau yn cynnwys cymryd rhan mewn chwaraeon a chadw’n heini

Isod ceir atebion enghreifftiol ar gyfer adran Datganiad Personol ffurflen gais ar-lein

Alex.

Mae’r enghreifftiau hyn yn cyfateb sgiliau a phrofiad Alex â’r disgrifiad swydd

Esboniwch eich profiad

Byddwch yn benodol. Edrychwch ar y disgrifiad swydd a defnyddiwch enghreifftiau perthnasol.

  • Beth rydych chi’n ei wneud yn ystod diwrnod arferol yn y gwaith, profiad gwaith neu wirfoddoli?
  • Pa feddalwedd TG, peiriannau neu offer technegol rydych wedi’u defnyddio? Sut y gwnaethoch chi eu defnyddio yn eich swydd?
  • Pa sgiliau newydd rydych chi wedi eu dysgu drwy eich gwaith, profiad gwaith neu wirfoddoli?

Profiad o Wasanaeth Cwsmeriaid a Chyfathrebu

Rwyf wir yn mwynhau gweithio gyda phobl. Rwy’n chwarae rygbi i dîm lleol ac roedd angen i ni godi arian i brynu cit newydd i’r clwb rygbi. Penderfynodd y clwb drefnu a chynnal ffair. Penderfynodd fy nhîm drefnu stondin i werthu losin a theisennau. Fy swydd i oedd gweithio ar y stondin yn y ffair. Roeddwn yn cyfarch y bobl oedd yn dod at y stondin, ac yn ateb cwestiynau ynglŷn â phrisiau a’r cynnyrch. Roedd yn wych gallu siarad â chwsmeriaid. Gofynnais i bobl a oedd yn mynd heibio a oeddent eisiau prynu teisennau. Penderfynais dorri un deisen yn ddarnau a gofyn i bobl a hoffent flasu darn. O ganlyniad prynodd mwy o bobl y teisennau a chodwyd mwy o arian. Roeddwn yn falch o helpu i godi arian ar gyfer fy nghlwb. Gwnaeth y profiad hwn i mi sylweddoli bod gweithio gyda phobl yn swydd yr hoffwn ei gwneud.

Profiad o Drin Arian

Yn y ffair fe wnes i hefyd ymdrin ag arian a rhoi’r newid cywir i gwsmeriaid. Cymerais ofal i gadw’r arian yn ddiogel, a’i gyfrif ar ddiwedd y ffair. Nodais y swm a godwyd gan y stondin a rhoi’r cyfan i’r hyfforddwr. Roeddwn eisiau gwneud yn siŵr fy mod wedi cyfri’r arian a godwyd yn gywir, felly cyfrais ef ddwywaith i wneud yn siŵr.

Profiad o DIY

Yn ystod gwyliau’r haf gofynnodd fy nhaid i mi ei helpu gyda DIY o amgylch ei dŷ. Roedd yn arfer bod yn saer, felly dysgais lawer o sgiliau DIY ganddo. Dysgais sut i hongian drws, gosod silffoedd, a hefyd sut i bapuro. Defnyddiais beiriant sandio a driliau trydanol. Fe wnes i fwynhau dysgu sgiliau newydd ac roedd fy nhaid yn falch o weld pa mor gyflym yr oeddwn yn dysgu’r sgiliau. Hoffwn ddysgu mwy o sgiliau DIY, a hoffwn hefyd helpu pobl eraill nad ydyn nhw’n gwybod llawer am DIY i brynu’r cynnyrch cywir.

Sgiliau cyfathrebu
  • Pryd wnaethoch chi siarad â phobl eraill er mwyn esbonio rhywbeth iddyn nhw, a’u bod wedi deall yn iawn?
  • Pryd wnaethoch chi barhau i fod yn gwrtais hyd yn oed mewn sefyllfa anodd?
  • Pryd wnaethoch chi wrando’n dda a mabwysiadu agwedd ofalgar?

Esbonio gwybodaeth yn glir

Gan fy mod i’n mynd i’r gampfa i ymarfer bob dydd, rwy’n gwybod llawer am yr holl offer sydd yno. Yn eithaf aml mae pobl newydd yn dod i’r gampfa ac nid ydyn nhw’n gwybod sut i ddefnyddio’r offer. Rwy’n esbonio iddyn nhw sut i ddefnyddio’r peiriannau gwahanol ac rwyf wedi’u helpu i allu dechrau defnyddio’r offer. O ganlyniad rwyf wedi dod i adnabod pobl yn y gampfa, ac maen nhw’n dal i ofyn cwestiynau i mi gan eu bod yn dweud fy mod yn esbonio pethau’n glir.

Cadw eich pen a pharhau i fod yn gwrtais

Yn ystod twrnamaint rygbi, roeddwn wedi sgorio cais ond ni chafodd ei ganiatáu gan y dyfarnwr. Roedd pawb yn fy nhîm yn gandryll ac roedd rhai ohonyn nhw eisiau siarad â’r dyfarnwr ar ôl y gêm. Arhosais yn dawel a dywedais y dylai pawb bwyllo. Dywedais fod popeth yn iawn ac y dylem ganolbwyntio ar y gêm nesaf. Pwyllodd pawb ac yn lle hynny dechrau cynllunio a pharatoi ein hunain ar gyfer y gêm nesaf. Fe wnaethom ennill y gêm nesaf a dod yn 3ydd yn yr holl dwrnamaint. Pe bai’r tîm wedi dadlau gyda’r dyfarnwr gallem fod wedi cael ein gwahardd, neu golli ein ffocws a cholli’r gêm nesaf.

Gwrando a bod yn ofalgar

Aethom ar daith diwrnod gyda’r ysgol a oedd yn cynnwys dringo creigiau. Mae ofn uchder ar fy ffrind a rhewodd wrth ddringo. Gwrandewais arno a’i annog i ddal ati a’i ddarbwyllo y gallai lwyddo. Dywedais y byddwn yn aros gydag ef yr holl ffordd i fyny’r ddringfa ac fe wnes i ei helpu yr holl ffordd i’r copa.

Gwaith tîm
  • Ydych chi wedi bod yn rhan o dîm chwaraeon neu mewn grŵp ble roedd rhaid i chi gydweithio?
  • Sut deimlad oedd gweithio mewn tîm?
  • Beth oedd eich swyddogaeth chi yn y tîm?
  • Pa gyfraniad wnaethoch chi at y tîm?

Bod yn rhan o dîm – gwrando a chyfrannu

Rwy’n mynd i glwb ieuenctid, a gofynnodd yr arweinwyr i ni a fyddem yn cymryd rhan mewn prosiect i wneud gwelyau blodau a borderi i blanhigion o amgylch ein hardal leol. Rwy’n hoffi gweithio mewn tîm ac rwy’n gweithio mewn tîm chwaraeon hefyd. Mewn tîm o 5 siaradom ynglŷn â’r hyn y byddai angen i ni brynu i wneud y borderi a’r gwelyau blodau.

Gweithio i’r tîm

Gwirfoddolais i fynd i brisio planhigion a blodau ar ôl ysgol, er mwyn i ni wybod faint y byddai’n ei gostio. Yn y ganolfan arddio cefais help gan y cynorthwyydd siop i ddod o hyd i’r planhigion cywir. Dychwelais gyda rhestr o blanhigion a chostau i’r tîm. Fe wnaethom benderfynu beth i’w brynu gyda’r arian a roddwyd i ni, a mynd yn ôl i’w prynu.

Cyflawni amcanion fel tîm

Fe wnaethom dreulio dydd Sadwrn yn palu borderi ac yn plannu’r blodau. Roedd yn hwyl cydweithio a gweld canlyniad ein gwaith. Roedd pobl hyd yn oed yn aros i ofyn beth oeddem yn ei wneud ac yn diolch i ni am wella’r ardal leol.

Dibynadwyedd
  • Beth allwch chi ei ddweud wrthym am adegau pan wnaethoch yn siŵr eich bod ar amser, ac yn mynychu’n rheolaidd?
  • A oes gennych enghraifft o adeg ble y gwnaethoch barhau i weithio ar rywbeth nes eich bod wedi’i wneud yn iawn?

Rwy’n ddibynadwy ac yn gwneud yn siŵr fy mod ar amser i’r ymarfer rygbi bob tro. Nid wyf erioed wedi colli gêm ac rwy’n mynd i bob ymarfer. Weithiau byddwn yn aros ymlaen ar ôl yr ymarfer rygbi er mwyn parhau i ymarfer tan i mi wella fy sgiliau. Yn yr ysgol dyfarnwyd gwobr COMPACT i mi am bresenoldeb da.

Gweithio’n galed
  • Ym mha bethau rydych yn gweithio’n galed er mwyn llwyddo?
  • Pa nod rydych wedi’i osod i chi eich hun ac wedi’i gyrraedd?

Lefelau Ffitrwydd - Rwy’n gweithio’n galed i gynnal fy lefelau ffitrwydd, a hyd yn oed yn parhau i ymarfer pan fydd y tymor rygbi ar ben.

Rhedeg hanner marathon i elusen - Oherwydd bod rhywun rwy’n nabod yn dioddef o ganser, penderfynais ymarfer ar gyfer hanner marathon a gosodais nod i mi fy hun i godi £200 ar gyfer elusen canser. Dechreuais dudalen Just Giving ar-lein a dywedais wrth gymaint o bobl â phosibl fy mod yn mynd i redeg i elusen. Dechreuais redeg neu ymarfer yn rheolaidd. Rhedais yr hanner marathon gan godi bron i £300 i elusen.

Y gallu i ddysgu sgiliau newydd
  • Pa sgiliau newydd rydych chi wedi’u dysgu?
  • Beth rydych chi’n ei fwynhau am ddysgu sgiliau newydd?
  • Pryd wnaethoch chi gymell eich hun i ddysgu rhywbeth newydd?

Rwy’n awyddus i ddysgu sgiliau newydd ac rwy’n dysgu’n gyflym. Ar ôl gwneud DIY gyda fy nhaid, gofynnais iddo ddysgu mwy o sgiliau gwaith coed i mi. Rwyf bellach wedi adeiladu blwch adar ar gyfer yr ardd. Fy mhrosiect nesaf yw adeiladu blwch storio. Rwy’n hoffi dysgu sgiliau newydd oherwydd wedyn gallaf wneud mwy o bethau i mi fy hun a bydd yn fy helpu i wella.

Hyblygrwydd
  • Pryd oeddech chi’n hyblyg er mwyn helpu rhywun hyd yn oed pan nad oedd hynny’n gyfleus?

Rwy’n hyblyg ac yn barod i helpu pobl eraill. Er enghraifft, yn yr ysgol gofynnodd fy athro i fi a fy ffrind a fyddai ots gennym aros ar ôl yn ystod amser cinio i roi arddangosfa o waith a wnaethom yn y dosbarth ar y wal. Rhoesom yr arddangosfeydd ar y wal, a thacluso’r ystafell ddosbarth hefyd cyn i ni adael. Fe wnaethom golli rhan o’n hawr ginio ond roedd yn dda gweld ein holl waith ar wal yr ystafell ddosbarth.

Trefnu a Chynllunio
  • Pryd wnaethoch chi gynllunio a pharatoi rhywbeth a fu’n llwyddiannus?
  • Sut wnaethoch chi drefnau pethau?

Roedd yn rhaid gwneud yr holl waith cynllunio a pharatoi ar gyfer yr hanner marathon a dechrau’r dudalen noddi ar-lein cyn y marathon.

Lluniais gynllun maeth ar gyfer y dyddiau cyn y ras, ac ymchwiliais ar-lein i’r hyn yr oedd angen i mi fwyta.

Trefnais fy amserlen rhedeg o amgylch amser ysgol ac ymarferion rygbi.

Hefyd, dechreuais y dudalen noddi’n gynnar fel bod modd i fwy o bobl gyfrannu ar-lein.

Roedd yn wych gweld fy holl waith cynllunio a threfnu yn talu ar ei ganfed, pan wnes i lwyddo i gwblhau’r hanner marathon a chodi mwy o arian na’r targed.

Datrys problemau
  • Pryd cawsoch chi broblem a llwyddo i’w datrys?
  • Sut deimlad oedd datrys y broblem?

Nid oeddwn yn siŵr sut i adeiladu blwch adar, felly gofynnais i fy nhaid am help ac edrychais ar-lein hefyd a dod o hyd i diwtorial fideo. Prynais yr holl bren a gofynnais i fy nhaid a fyddai modd i mi ddefnyddio ei sied a’i offer. Mesurais a thorrais y pren a gweithio allan sut i’w rhoi at ei gilydd. Roedd yn deimlad gwych cael y boddhad o weld rhywbeth rwyf wedi’i wneud fy hun.


Beth nesaf?

  • Meddyliwch am enghreifftiau o’ch bywyd sy’n dangos eich sgiliau a’ch profiad
  • Defnyddiwch y cwestiynau i ysgrifennu eich atebion eich hun
  • Byddwch yn onest a defnyddiwch enghreifftiau o’ch bywyd eich hun. Peidiwch â defnyddio’r atebion hyn neu atebion ffug
  • Dangoswch eich sgiliau a’ch profiad i gyflogwyr er mwyn sicrhau cyfweliad!