Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cyflogi pobl anabl

Mae Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl, a gyflogir gan Lywodraeth Cymru, yn rhoi arweiniad ymarferol i gyflogwyr ledled Cymru ar gyflogi pobl anabl.

Mae Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl yn wasanaeth am ddim i bob cyflogwr ledled Cymru, ar gyfer cwmnïau o unrhyw faint.

Gall yr Hyrwyddwyr, gyda chefnogaeth Cynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru, roi gwybodaeth, cyngor a chymorth ar y canlynol:

  • Recriwtio cynhwysol
  • Cymorth ariannol
  • Cyngor ymarferol ar gadw staff
  • Sicrhau bod polisïau Adnoddau Dynol, a gweithleoedd yn gynhwysol

Os ydych chi’n gyflogwr, a bod gennych ddiddordeb mewn cynyddu amrywiaeth eich gweithle, a'ch bod am gael gwybod mwy am y manteision a'r cymorth sydd ar gael i gyflogi pobl anabl, ewch i Busnes Cymru Cyflogaeth pobl anabl, neu e-bostiwch DPEC@llyw.cymru.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Cyflogi pobl ifanc

Dysgu am reoliadau ar gyfer cyflogi pobl ifanc gan gynnwys oriau gwaith, oedran a chyflog.