Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Prentisiaethau - gwybodaeth i gyflogwyr

Mae cyflogi prentis yn ffordd gost-effeithiol i chi recriwtio staff newydd. Gallwch adeiladu gweithlu gyda'r sgiliau sydd eu hangen ar eich busnes.

Mae busnesau o bob maint yng Nghymru yn gymwys. Mae gan Gymru ei rhwydwaith ei hun o ddarparwyr hyfforddiant dan gontract sy'n darparu a gweinyddu prentisiaethau.

Y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru

Mae Medr yn ymdrin â phrentisiaethau ar ran Llywodraeth Cymru. Dysgwch fwy am fanteision cyflogi prentis, cyllid a chymhwysedd ar eu tudalen we Recriwtio Prentis.

Hysbysebu swydd prentisiaeth wag

I hysbysebu cyfle prentisiaeth yng Nghymru, e-bostiwch AVS enquiries yr Medr.

Prentisiaethau Gradd

Gall cyflogwyr gynnig prentisiaeth gradd mewn partneriaeth â phrifysgol yng Nghymru. Gallan nhw fod mewn TG, peirianneg, gweithgynhyrchu uwch neu adeiladu. Mae gwefan Busnes Cymru yn cynnwys gwybodaeth am brentisiaethau gradd. Mae yna hefyd ffurflen mynegi diddordeb.

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Cyflogi pobl ifanc

Dysgu am reoliadau ar gyfer cyflogi pobl ifanc gan gynnwys oriau gwaith, oedran a chyflog.

Beth yw Prentisiaeth?

Mae prentisiaeth yn swydd lle rydych chi'n ennill cymwysterau cydnabyddedig tra byddwch chi'n gweithio. Dysgwch am gymhwysedd, cyflog, gwybodaeth am hyfforddiant a'r amrywiaeth o brentisiaethau sydd ar gael.