Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cymorth colli swydd i gyflogwyr

Os ydych chi'n gorfod wynebu'r penderfyniad anodd o ddiswyddo'ch staff, gallwn helpu i'ch cefnogi chi a'r rhai sydd dan fygythiad o gael eu diswyddo. Yn y cyfnod anodd yma, mae pethau'n newid o ddydd i ddydd, ond gallwn eich helpu gyda'r cyngor diweddaraf am y gefnogaeth sydd ar gael. Cysylltwch â ni.

Rydym yn darparu gwasanaeth cymorth colli swydd proffesiynol am ddim i’r rhai sydd dan fygythiad o golli swydd.

Gallwn:

  • Darparu cyngor a chyfarwyddyd gyrfaol ar sail un i un
  • Adnabod ffynonellau cyllid posibl ar gyfer hyfforddiant i gyflogeion
  • Darparu gwybodaeth ar gyfleoedd gwaith
  • Helpu gyda CV, cwblhau ffurflenni a llythyrau cais

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.


Cyllid ReAct+

Mae pecyn ReAct+ ar gael i'ch helpu os ydych chi'n cyflogi rhywun 20 oed neu’n hŷn, sydd wedi colli ei swydd yn y 6 mis diwethaf ac sy’n anabl, er mwyn i’r person hwnnw ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Rhaid gwneud cais ReAct+ o fewn 6 mis ar ôl i'r swydd gael ei dileu.

Mae'n cynnwys:

  • Cymorth Recriwtio Cyflogwr (cymhorthdal cyflog) - Hyd at £4,000 fel cyfraniad tuag at recriwtio unigolyn y dilëwyd ei swydd

Ceir rhagor o wybodaeth am gyllid ReAct+ ar Busnes Cymru.


Tystebau cyflogwyr

Darllenwch dystebau cyflogwyr ynglŷn â sut mae gwasanaeth cymorth diswyddo Gyrfa Cymru wedi helpu eu gweithwyr wrth iddynt wynebu cael eu diswyddo. 

Roeddwn i am ddiolch i chi a'ch tîm am y gefnogaeth sylweddol rydych chi wedi'i darparu i ni dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i'r rhan fwyaf o'r staff ymdopi â’r ailstrwythuro sylweddol sydd naill ai wedi effeithio arnyn nhw’n uniongyrchol neu ar eu ffrindiau a'u cydweithwyr.

Roedd y gweithdai a gynhaliwyd gennych yn hynod o ddefnyddiol gan eu bod yn agor llygaid pobl i'r farchnad lafur leol ac yn eu helpu i werthfawrogi cyfle - roedd hyn yn arbennig o berthnasol i staff a oedd wedi gweithio i'r cwmni ers amser maith ac a oedd yn nerfus iawn ac yn ansicr o'u sgiliau. Ni ellir pwysleisio ddigon gwerth y gefnogaeth emosiynol a'r cymhelliant a ddarparwyd gan eich gweithdai.

Roedd y cymorth mwy ymarferol o ran gwybodaeth am grantiau a budd-daliadau a chymorth gyda CV yn ddefnyddiol iawn hefyd.

Yn fwy diweddar, rhoddodd y clip ffilm You Tube a gynhyrchwyd gennych yn lle’r gweithdai grynodeb gwych o'r gefnogaeth oedd ar gael a chyfeirio at y gwahanol ffynonellau cymorth - roedd y tîm yn canmol hwn yn fawr.

O safbwynt y cwmni, a drwy ddefnyddio'ch gwasanaethau, rwy'n hyderus ein bod wedi darparu cefnogaeth broffesiynol i'r staff, sydd wedi helpu i liniaru'r caledi a all ddod yn sgil diswyddo, ac sydd wedi helpu i’w cefnogi i'r cam nesaf yn eu gyrfaoedd."

Hoffwn ddiolch i Gyrfa Cymru am y cymorth a roddwyd i'n gweithwyr. O'n cyfarfod cychwynnol ym mis Chwefror 2020 pan esboniwyd bod y cwmni'n cael ei ailstrwythuro ac y byddai nifer o weithwyr yn colli eu swyddi bu eich cefnogaeth yn ardderchog.

Gwnaeth yr angen i ddilyn canllawiau a chyfarwyddiadau'r llywodraeth i gadw eich tîm a'n gweithwyr yn ddiogel yn ystod y broses o wneud hyn y gwaith yn fwy cymhleth. Ond gan weithio gyda'n gilydd goresgynwyd y rhwystrau hyn.

Cafodd y cynhyrchiad fideo YouTube i gyflwyno sesiwn ymwybyddiaeth Gyrfa Cymru a’r Ganolfan Byd Gwaith dderbyniad da iawn gan ein gweithwyr ac roedd yr ymgynghoriadau dilynol 1-i-1 o bell yr un mor llwyddiannus, gydag adborth cadarnhaol gan bawb a gymerodd ran. Rwy'n gwybod y byddant yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r rhai sy'n chwilio am waith newydd.

Rydym wir yn gwerthfawrogi proffesiynoldeb a gwasanaeth eich tîm.

 


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

ReAct+

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.