Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Paratoi sesiynau i ddysgwyr

Dod o hyd i’n cyngor, syniadau a'n hawgrymiadau ar wneud y gorau o sesiynau gyda dysgwyr.

Paratoi ar gyfer eich sesiwn

Mae'n well cael cynllun, ond byddwch yn barod i fod yn hyblyg hefyd.

Meddyliwch sut y byddwch yn cyflwyno’ch hunan. Dywedwch ychydig am eich cefndir, eich rôl a'ch sefydliad.

Pan fydd yr athro wedi'ch cyflwyno, eglurwch i'r dysgwyr pam eich bod chi yno. Dywedwch wrthyn nhw beth yw pwrpas y sesiwn a beth rydych chi am iddyn nhw ei wybod neu ei gyflawni erbyn y diwedd.

Yn ystod y sesiwn, ceisiwch:

  • Siarad yn glir a ddim yn rhy gyflym
  • Feddwl am eich cynulleidfa. Cadw pethau'n syml. Ceisiwch osgoi jargon ac egluro termau sy'n debygol o fod yn anghyfarwydd
  • Wneud y sesiwn mor ryngweithiol â phosib
  • Amrywio’ch dull o gyflwyno gwybodaeth. Darparu pethau gweledol, cynnwys gwrando a gweithgareddau ymarferol, os yn bosibl. Bydd hyn yn helpu dysgwyr gyda gwahanol arddulliau a dewisiadau dysgu
  • Rannu eich angerdd a'ch brwdfrydedd
  • Amlygu unrhyw bynciau neu sgiliau sy'n arbennig o berthnasol i'ch rôl neu'ch diwydiant a sut neu pam y maent yn bwysig
  • Fanteisio ar y cyfle i herio ystrydebau
  • Fod yn onest ac yn agored am eich rôl – rhannwch y da a'r drwg. Mae dysgwyr yn mwynhau clywed am deithiau gyrfa go iawn mewn bywyd

Syniadau i ennyn diddordeb dysgwyr

Gallech chi:

  • Gynnwys ymarfer torri'r garw i gael dysgwyr i gymryd rhan o'r dechrau
  • Rannu’r sesiwn yn ddarnau byrrach o weithgaredd er mwyn sicrhau bod y dysgwyr yn cymryd rhan
  • Ystyried defnyddio fideo byr, propiau neu luniau, neu osod tasg fer
  • Roi tasgau 5 munud i ddysgwyr mewn parau neu grwpiau bach

Syniadau ar gyfer gweithgareddau byr

Gofynnwch i ddysgwyr:

  • Restru manteision ac anfanteision rhywbeth – er enghraifft, gweithio 9 tan 5 neu weithio yn yr awyr agored
  • Flaenoriaethu rhestr rydych chi'n ei darparu - yn ôl yr hyn sydd bwysicaf iddyn nhw, neu'r hyn mae nhw’n meddwl allai fod bwysicaf i gyflogwr neu gwsmer
  • Restru’r sgiliau y mae nhw'n meddwl y byddai eu hangen ar rywun i wneud math penodol o swydd. Gallech chi roi gwahanol swyddi i wahanol grwpiau feddwl amdanyn nhw
  • Feddwl am 3 gair i ddisgrifio rhywbeth – er enghraifft eu swydd delfrydol, teitl swydd rydych chi’n ei rhoi iddyn nhw neu ddiwydiant. Trafod pam y dewison nhw'r geiriau, herio unrhyw gamdybiaethau

Cael cefnogaeth gan Gynghorydd Cyswllt Busnes

Gallwch drafod eich syniadau am weithgaredd gyda'n Cynghorwyr Cyswllt Busnes. Byddan nhw'n hapus i'ch cefnogi a rhoi cyngor ac awgrymiadau i chi.

Gallant gael gwybodaeth gan yr ysgol am y dysgwyr y byddwch yn siarad â nhw – eu hoedran, unrhyw waith a wnaed eisoes ar bwnc a sut maent yn gobeithio y bydd eich sesiwn yn cefnogi eu dysgu.

Gall ein Cynghorydd Cyswllt Busnes hefyd eich helpu i feddwl am syniadau ar gyfer gweithgareddau a ffyrdd o sicrhau bod dysgwyr yn cymryd rhan yn eich sesiwn. Gallant roi enghreifftiau i chi o'r hyn sydd wedi gweithio'n dda mewn sesiynau eraill.

Cofiwch am yr ôl-drafodaeth gyda Cynghorydd Cyswllt Busnes yn dilyn y sesiwn i drafod sut aeth pethau.

Awgrymiadau gan gyflogwyr eraill