Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Y Bartneriaeth Addysg Busnes

Mae ein Partneriaeth Busnes Addysg (PAB) yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion, eu hathrawon, ac yn aml i rieni, i gyfarfod a rhyngweithio â chyflogwyr.

Nod gweithgareddau PAB yw hysbysu, ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc am eu gyrfa yn y dyfodol.

Beth mae'r Bartneriaeth Busnes Addysg yn ei gynnwys

Gweithgareddau ymgysylltu â chyflogwyr

Mae ysgolion yn awyddus i gael cysylltiadau â chyflogwyr i gyfoethogi addysgu a dysgu ar draws pob pwnc. Mae siarad am rolau swyddi, eich sefydliad neu ddiwydiant a rhannu gwybodaeth a phrofiad yn rhoi cipolwg unigryw i ddysgwyr ar fyd gwaith.

Gallwn helpu i drefnu amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys:

  • Cyflwyniadau i helpu i gysylltu meysydd pwnc penodol â byd gwaith (yn bersonol neu’n rhithiol)
  • Vlogs a fideos cyflogwyr
  • Ymweliadau â safleoedd cyflogwyr
  • Carwsél gyrfaoedd a diwrnodau rhwydweithio cyflogwyr
  • Gweithdai penodol (er enghraifft, awgrymiadau a chynghorion ar gyfer cyfweliadau neu ffug gyfweliadau)
  • Ffeiriau gyrfaoedd

Chi sydd i benderfynu ar lefel y cyfranogiad. Gallwch gefnogi un ysgol gydag un digwyddiad neu ddewis cefnogi sawl ysgol a llawer o ddigwyddiadau.

Pan fyddwn yn sgwrsio â chi, byddwn yn cymryd manylion am y cymorth y gallwch ei gynnig. Mae'r manylion hyn yn cael eu storio ar ein cronfa ddata.

Pan fyddwn yn cael cais am gymorth gan ysgol, bydd un o'n Cynghorwyr Cyswllt Busnes yn cysylltu. Byddant yn trafod y digwyddiad neu weithgaredd, yn egluro beth sydd ei angen ac yn canfod a allwch chi gynnig cefnogaeth.

Os bydd angen, bydd y Cynghorydd Cyswllt Busnes yn eich helpu i gynllunio'r hyn y byddwch yn ei gyflawni.

Ar ddiwrnod y digwyddiad, bydd y Cynghorydd Cyswllt Busnes yn cwrdd â chi yn yr ysgol neu leoliad arall. Byddan nhw'n eich cyflwyno i'r athro ac yn sicrhau bod gennych chi'r adnoddau sydd eu hangen arnoch.

Prosiect Cyn-fyfyrwyr

Rydym yn helpu ysgolion uwchradd ledled Cymru i ehangu eu cymunedau o gyn-ddisgyblion.

Mae llawer o ffyrdd y gall cyn-ddisgyblion gefnogi eu hen ysgol. Gallant rannu hanes eu gyrfa, mynychu digwyddiadau ysgol fel ffug gyfweliadau, cyflwyniadau, neu seremonïau gwobrwyo neu ddarparu cyfleoedd i gysgodi.

Os aethoch chi i ysgol yng Nghymru a hoffech chi gefnogi eich hen ysgol, cwblhewch y ffurflen fer hon.

Cynllun Partner Gwerthfawr Ysgol

Mae’r cynllun Partner Gwerthfawr Ysgol yn rhoi cydnabyddiaeth i gyflogwyr sy'n mynd ati i gefnogi ysgolion unigol drwy weithgareddau cysylltu â chyflogwyr Gyrfa Cymru.

Drwy'r cynllun, byddwn yn nodi cyflogwyr sydd â pherthynas barhaus ag ysgolion ac sy'n cefnogi gweithgareddau yn yr ysgolion hyn yn rheolaidd (o leiaf 3 gweithgaredd y flwyddyn). Byddwn wedyn yn eu hadnabod fel partneriaid gwerthfawr yr ysgol.

Gall ysgolion fod â nifer o bartneriaid gwerthfawr a gall cyflogwyr fod yn bartneriaid gwerthfawr i fwy nag un ysgol.

Manteision y cynllun yw:

  • Bydd cyflogwyr sy'n cael eu hadnabod fel Partneriaid Gwerthfawr Ysgolion yn cael eu henwebu am wobr yn seremoni Wobrwyo Partneriaid Gwerthfawr. Bydd seremoni Wobrwyo Partneriaid Gwerthfawr yn arddangos y fenter ac yn dathlu'r berthynas rhwng cyflogwyr ac ysgolion
  • Bydd Cynghorwyr Cyswllt Busnes Gyrfa Cymru yn cadeirio cyfarfod rhagarweiniol rhwng y Partner Gwerthfawr ac uwch aelod o staff yr ysgol i sicrhau bod y cymorth a gynigir gan y cyflogwr yn cael ei gydnabod ar lefel uwch yn yr ysgol
  • Bydd Cynghorwyr Cyswllt Busnes Gyrfa Cymru yn trefnu cyswllt 'cadw mewn cysylltiad' bob tymor (galwad ffôn neu gyfarfod) gyda'r ysgol a'r Partner Gwerthfawr, gan gynnig cymorth a syniadau ar gyfer cydweithio
Hysbysiadau preifatrwydd

Mae Career Choices Dewis Gyrfa Ltd (“Gyrfa Cymru”) yn is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru.

Mae'r hysbysiadau preifatrwydd hyn yn egluro sut mae Gyrfa Cymru (fel rheolwr data) yn cydymffurfio â deddfau amddiffyn y Deyrnas Unedig a chanllawiau gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (“ICO”). Mae hyn yn cwmpasu'r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi (gan gynnwys cynnwys fideo), sut rydym yn ei ddefnyddio a'r sefydliadau rydym yn rhannu'r wybodaeth â nhw.

Mae’r hysbysiadau preifatrwydd yn berthnasol i Bartneriaeth Addysg Busnes Gyrfa Cymru, lle rydym yn hwyluso cysylltiadau rhwng cyflogwyr neu gyn-fyfyrwyr ac ysgolion. Bydd unrhyw newidiadau i'r hysbysiadau preifatrwydd yn cael eu postio yma ac rydym yn awgrymu eich bod yn ailedrych ar yr hysbysiadau wrth i chi ddefnyddio gwasanaethau Gyrfa Cymru dros amser:

Cymryd rhan

Cysylltwch â’n tîm o Gynghorydd Cyswllt Busnes i archwilio ffyrdd y gallwch gefnogi ysgolion a dysgwyr lleol.


Paratoi ar gyfer sesiynau gyda dysgwyr


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr

Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn ffordd i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau a fu’n gweithio gyda ni ac yn rhan hanfodol o gefnogi ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith.