Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Gweithio gydag ysgolion

Mae cyflogwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl ifanc i ddysgu am y byd gwaith.

Pam cysylltu ag ysgolion?

Sut mae cyflogwyr yn elwa

Gall gweithio gydag ysgolion helpu cyflogwyr i:

  • Godi ymwybyddiaeth o'u busnes neu eu sector nhw
  • Ddarparu mewnwelediad ac ysbrydoliaeth i ddylanwadu ar ddarpar weithwyr yn y dyfodol
  • Rwydweithio gyda busnesau eraill
  • Ddarparu cyfleoedd datblygiad proffesiynol i staff
  • Gefnogi cyflawniad nodau cymunedol
Sut mae dysgwyr yn elwa

Gall cwrdd â chyflogwyr ddod â phwnc yn fyw a rhoi gwell dealltwriaeth o sut mae'r pwnc hwnnw'n cael ei ddefnyddio yn y gweithle.

Gall gweithgareddau cyflogwr helpu dysgwyr i:

  • Ddatblygu sgiliau ymwybyddiaeth, hyder a chyflogadwyedd
  • Anelu'n uchel a chroesawu dysgu gydol oes
  • Gydnabod cyfleoedd sydd ar gael iddynt
  • Ddeall pwysigrwydd gwytnwch a hyblygrwydd
  • Fod yn ymwybodol o werth sgiliau Cymraeg
Cwricwlwm newydd i Gymru

Mae yna Gwricwlwm newydd i Gymru i bob dysgwr rhwng 3 a 16 oed. Dechreuodd y cwricwlwm newydd ym Medi 2022. Bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob disgybl ysgol uwchradd erbyn y flwyddyn academaidd 2026/27.

Rhaid i ysgolion gynnwys gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith ar draws y cwricwlwm newydd. Mae gweithgareddau gyda chyflogwyr yn un o'r ffyrdd y gall ysgolion ddarparu'r cyfleoedd dysgu hyn i'w dysgwyr.

Mae gwybodaeth i fusnesau am sut mae addysg yn newid ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Astudiaethau Achos Cyflogwr