Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Colette Affaya

Staff Airbus a disgyblion yn sefyll o flaen awyren

Mae Colette yn swyddog cyswllt addysg gyda chwmni awyrofod, Airbus. Mae hi wedi helpu ei chyflogwr i ddod yn bartner agos ag ysgolion yng Ngogledd Cymru.

Mae Airbus yn gwneud awyrennau ac yn darparu gwasanaethau ar gyfer hedfan. Maent yn gyflogwr mawr yn yr ardal leol.

Diolch i waith Colette, mae Airbus wedi helpu gyda thros 30 o ddigwyddiadau addysg-busnes yng Ngogledd Cymru.

Ymrwymiad y tu hwnt i fesur

Mae Airbus yn Bartner Ysgol Gwerthfawr. Fel rhan o’r rhaglen hon, creodd Colette ystod o weithgareddau ar gyfer dysgwyr.

Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Dylunio caban awyren
  • Arferion gwyrdd
  • Theori hedfan
  • Gweithgareddau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM)
  • Dadleuon a heriau ymgysylltiol

Mae Colette wedi ymrwymo i hyrwyddo gyrfaoedd STEM. Mae hi hefyd wedi gweithio’n galed i ysbrydoli merched ifanc i ddilyn gyrfa mewn gwyddoniaeth a pheirianneg.

Enillydd gwobr

Cyflwynodd Gyrfa Cymru Wobr Partner Gwerthfawr i Colette ym mis Tachwedd 2023. Enillodd y wobr am Gyfraniad Personol Eithriadol.

Dywedodd Colette, “Dim ond ychydig dros flwyddyn yn ôl y dechreuais i yn y rôl hon yn Airbus felly mae cael yr enwebiad a’r wobr hon yn teimlo’n anhygoel. Rwyf wrth fy modd yn gwneud y swydd hon, rwyf wrth fy modd yn mynd allan i ysgolion ac yn ysbrydoli pobl ifanc am yrfaoedd newydd.

“Mae fy meddwl bob amser yn byrlymu gyda syniadau, ac ni allaf beidio â meddwl am weithgareddau addysgol newydd i’w cyflwyno yn y dyfodol.”

Mae cynghorydd ymgysylltu busnes Gyrfa Cymru, Kayleigh Brummell, yn gweithio gyda Colette. Dywedodd hi, “Mae Colette wedi mynd gam ymhellach i gefnogi ysgolion yng Ngogledd Cymru. Rydym wedi meithrin perthynas waith wych.

“Mae hi bob amser yn chwilio am ffyrdd gwell o wneud pethau. Mae Colette wedi cynnig rhai syniadau ac adnoddau gwych i gefnogi ysgolion. Mae’n ysbrydoledig gweld angerdd Colette i hyrwyddo gyrfaoedd ym meysydd STEM. Mae hi hefyd yn awyddus i gyfoethogi holl feysydd y cwricwlwm. Mae hi wedi bod yn anhygoel.”


Archwilio

Gweithio gydag ysgolion

Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.

Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr

Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn ffordd i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau a fu’n gweithio gyda ni ac yn rhan hanfodol o gefnogi ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith.