Mae Gwenno Williams yn gweithio i Gyngor Sir Gwynedd. Mae hi’n frwd dros hyrwyddo gyrfaoedd yn y sector gofal cymdeithasol.
Cynorthwyo ysgolion a myfyrwyr
Mae Gwenno wedi cynorthwyo llawer o weithgareddau gan gynnwys:
- Creu dros 25 o adnoddau fideo yn ystod cyfnod y pandemig
- Cymryd rhan mewn digwyddiadau carwsél cyflogwyr
- Cyflwyno gweithdai rhyngweithiol
- Mynychu digwyddiadau ar gyfer ysgolion anghenion dysgu ychwanegol, megis digwyddiadau Beth Nesaf? a gwyliau gyrfaoedd
- Sefydlu partneriaeth ag Ysgol Tryfan ym Mangor fel Partner Gwerthfawr Ysgol yn 2023
Arddangos gyrfaoedd
Yn 2023, arweiniodd Gwenno ddau weithdy ar stondin Gyrfa Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd y gweithdai hyn yn tynnu sylw at swyddi yn y sector gofal cymdeithasol. Gwahoddodd hefyd weithiwr cymdeithasol iechyd meddwl i’r gweithdy i siarad am iechyd meddwl.
Hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle
Mae Gwenno yn pwysleisio pa mor ddefnyddiol yw’r Gymraeg yn y gweithle, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol. Ymunodd â her Cymraeg yn y Gweithle yn ddiweddar.
Mae’r prosiect hwn yn cynnwys:
- Paratoi deunyddiau hyfforddi am ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol newydd
- Datblygu cynllun gwers a chyflwyniad i gyflogwyr i gefnogi’r her
Mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau
Mae Gwenno bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o hyrwyddo gyrfaoedd gofal cymdeithasol. Yn 2024, dechreuodd drefnu ymweliadau safle â lleoliadau gofal, fel cartrefi gofal preswyl. Mae’n gyfle i fyfyrwyr gael cipolwg uniongyrchol ar y sector.
Enillydd gwobr
Rhoddodd Gyrfa Cymru un o’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr i Gwenno ym mis Ionawr 2025. Enillodd y wobr am Gyfraniad Personol Eithriadol.
Rhan fach ond pwysig iawn o’m rôl o ddydd i ddydd yw fy ngwaith gyda Gyrfa Cymru. Roedd cael y wobr hon yn annisgwyl iawn ond yn un i’w chroesawu’n fawr. Rwyf wrth fy modd yn mynd o gwmpas ysgolion a helpu pobl ifanc. Mae cymaint o gymorth ar gael i rymuso unigolion i wneud penderfyniadau. Mae rhoi amser i bobl ifanc a gallu eu helpu ar hyd eu taith yn golygu gymaint i mi.”
Gwenno Williams, Cyngor Sir Gwynedd
Nid yw Gwenno byth yn siomi. Mae hi bob amser yn barod am her ac yn meddwl yn gyson am ffyrdd newydd o ysbrydoli pobl ifanc. Mae hi’n gwbl haeddu’r gydnabyddiaeth hon.”
John Edwards, Cynghorydd ymgysylltu â busnes Gyrfa Cymru
Archwilio

Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.

Dysgwch sut y gallwn eich cefnogi i weithio gydag ysgolion er budd dysgwyr a'ch sefydliad.

Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn ffordd i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau a fu’n gweithio gyda ni ac yn rhan hanfodol o gefnogi ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith.