Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Josh

Josh

Helpodd cynghorydd gyrfaoedd Josh ef i wneud cais am brentisiaeth a dechrau ei yrfa mewn peirianneg.

Llwybrau amgen i’r coleg

Pan oedd Josh yn 16 oed, roedd yn gwybod nad oedd am barhau yn yr ysgol yn llawn amser. Roedd eisiau archwilio ei opsiynau a deall mwy am yr hyn yr oedd am ei wneud.

Dywedodd Josh, a aeth i Ysgol Uwchradd Afon Taf ym Merthyr Tudful: “Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud. Roeddwn i’n gwybod bod prentisiaethau ar gael, ond doeddwn i ddim yn siŵr o’r manylion na sut i wneud cais amdanyn nhw.”

Cymorth gan Gyrfa Cymru

Meddai Josh: “Yn fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol, dangosodd y cynghorydd gyrfaoedd yn fy ysgol yr offeryn Chwilio am Brentisiaethau ar wefan Gyrfa Cymru.”

Y rhyngweithio hwn a ysgogodd Josh i wneud apwyntiad gyda Ruth, cynghorydd gyrfaoedd yr ysgol, i archwilio opsiynau swyddi a phrentisiaethau.

Rhoddodd Ruth gymorth i Josh i ddod o hyd i brentisiaeth ar gyfer rôl dechnegol yn y byd peirianneg a’i gynorthwyo gyda’r broses ymgeisio. Cafodd Josh gymorth hefyd i baratoi ar gyfer y cyfweliad.

O brentis technegol i reolwr adeiladu

Bu Josh yn llwyddiannus a dechreuodd ei brentisiaeth ar ôl gorffen yn yr ysgol. Mae bellach mewn rôl reoli lwyddiannus.

Dywedodd: “Rwy’n 24 ac mae gen i eisoes wyth mlynedd o brofiad yn y diwydiant ac mewn gwahanol rolau. Dechreuais gyda’r brentisiaeth dechnegol, yna fe gefais hyfforddiant technegol a chael rôl rheolwr cynorthwyol. Nawr rydw i wedi cael dyrchafiad i swydd rheolwr adeiladu.”

Mae Josh nawr eisiau annog pobl ifanc eraill i archwilio eu hopsiynau tra’u bod yn yr ysgol. Dywedodd: “Does neb yn gwybod yn union beth maen nhw eisiau ei wneud yn 16 oed.

“Roeddwn i’n wastad wedi bod â diddordeb mewn peirianneg bob amser, ond doeddwn i ddim yn gwybod yn union beth roeddwn i eisiau ei wneud. Felly archwiliais amrywiaeth o brentisiaethau technegol er mwyn i mi allu archwilio gwahanol rolau, a dwy flynedd yn ddiweddarach, penderfynais mai dyna oeddwn i eisiau ei wneud.

“Pe bawn i’n mynd i’r coleg byddwn i’n gwybod ochr addysgol y swydd, ond fyddwn i ddim yn gwybod yr ochr ymarferol ohoni.”

Wrth fyfyrio ar y gefnogaeth a gafodd, meddai Josh: “Oni bai am fy nghynghorydd gyrfaoedd a’i chefnogaeth, ni fyddwn byth wedi gwneud cais am brentisiaeth.”

Os hoffech chi archwilio’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.


Archwilio

Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ennill cymwysterau tra'n gweithio a chael cyflog. Dysgwch fwy am brentisiaethau, chwiliwch am swyddi gwag a mwy.