Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Daniel

Daniel

Gyda chyfarwyddyd gyrfaoedd wedi’i deilwra, archwiliodd Daniel ei opsiynau, magodd hyder, a sicrhaodd y brentisiaeth ymarferol yr oedd wedi bod yn anelu ati.

Y sgyrsiau cyntaf

Daeth Daniel o hyd i Gyrfa Cymru pan oedd ym Mlwyddyn 9. “Doeddwn i ddim yn hollol siŵr, roedd yna sawl opsiwn i ble roeddwn i eisiau mynd,” eglurodd.

Roedd gan Daniel ddewisiadau pwnc i’w gwneud, ac felly mynychodd un o’r digwyddiadau gyrfaoedd yn yr ysgol. Yno siaradodd â chynghorydd gyrfa am y tro cyntaf.

“Sgwrs hamddenol oedd hi am ble roeddwn i eisiau mynd a doedd dim byd yn orfodol. Fe helpodd fi i ddeall bod gen i lawer mwy o opsiynau nag yr oeddwn i wedi sylweddoli.” meddai.

Magu hyder

Wrth i Daniel astudio ar gyfer ei TGAU parhaodd i gyfarfod yn rheolaidd â Rhys Roberts, cynghorydd gyrfa newydd yn ei ysgol. Canolbwyntiodd eu sesiynau ar syniadau dechrau gyrfa.

“Byddem yn sgwrsio’n bennaf am bwysigrwydd adolygu ac yn edrych ar yrfaoedd posibl sydd ar gael. Fe wnaethon ni siarad am gael cynllun wrth gefn pan fo angen.

“Fe wnaeth hynny wella fy hyder yn fawr oherwydd roeddwn i’n gwybod bod gwahanol yrfaoedd ar gael a gwahanol ffyrdd o gyrraedd y nod”

Roedd gan Daniel gynllun bras mewn golwg eisoes i wneud rhywbeth ym maes Technoleg a Gwybodaeth (TG). Ond fe helpodd y cyfarwyddyd a gafodd i feddwl yn fwy realistig am ei gamau nesaf.

Ailfeddwl am y dyfodol

Erbyn iddo ddechrau astudio ar gyfer ei arholiadau Safon Uwch, dechreuodd Daniel ailystyried ei gynllun gwreiddiol o fynd i’r brifysgol. Drwy fwy o sgyrsiau gyda Rhys, archwiliodd a fyddai prifysgol, prentisiaeth, neu goleg fwyaf addas iddo.

“Yn wreiddiol roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n mynd i’r brifysgol, ond sylweddolais i nad hynny fyddai’r opsiwn gorau i mi,” meddai. “Mae’n well gen i ddull mwy ymarferol o weithio. Byddai’n well gen i dechrau arni a gwneud y gwaith.”

Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw edrych ar amrywiaeth o brentisiaethau, gan drafod manteision ac anfanteision pob un.

Yn ystod Blwyddyn 12, trefnodd Daniel ei brofiad gwaith ei hun gydag adran TG y cyngor. Rhoddodd hyn wir ddealltwriaeth iddo am y gweithle.

Daeth cyfle gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i gael prentisiaeth ym maes TG. Gan wybod fod Daniel wedi mwynhau ei brofiad gwaith yno, anfonodd Rhys e-bost am y cyfle ymlaen yn syth ato. Fe’i cefnogodd hefyd drwy gydol y broses o wneud cais.

Cyflawni ei nod

Pan gynigiwyd y prentisiaeth i Daniel, roedd yn teimlo ar ben ei ddigon. “Roedd yn deimlad anhygoel. Roedd yn teimlo fel pe bai’r gwaith caled wedi talu ffordd.”

Mae bellach yn cwblhau prentisiaeth TG gyda Chyngor Sir Caerfyrddin lle mae’n ennill cyflog wrth ddysgu, ac yn mwynhau pob eiliad. “Rwy’n gweld y gwaith yn dda ac mae’r amgylchedd yn braf hefyd” rhannodd.

Wrth edrych yn ôl, mae Daniel yn dweud bod y gefnogaeth a gafodd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’w hyder a’i sgiliau cyfathrebu. Fe wnaeth hefyd ei annog i barhau, hyd yn oed pan oedd pethau’n teimlo’n ansicr.

Mae ei gyngor i bobl ifanc eraill sy’n ystyried siarad â chynghorydd gyrfa yn syml:

“Byddwn i’n dweud wrthyn nhw am fynd yno a pheidio byth â rhoi'r gorau iddi.”

Os hoffech chi archwilio’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.

Archwiliwch

Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ennill cymwysterau tra byddwch chi’n gweithio ac yn ennill cyflog. Chwiliwch am brentisiaethau yn eich ardal chi, dysgwch am brentisiaethau a lefelau prentisiaeth, a mynnwch gyngor ar sut i wneud cais.