Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Connor

Connor

Daeth Connor o hyd i’w brentisiaeth ddelfrydol gyda chwmni lleol ar ôl mynychu digwyddiad yn ei ysgol.

Digwyddiad y cyflogwr

Roedd Connor yn fyfyriwr blwyddyn 11 yn Ysgol Uwchradd Islwyn yng Nghaerffili.

Ar ôl clywed am ddigwyddiad oedd ar y gweill gan gwmni lleol, William Hare Ltd, rhoddodd ei enw ymlaen ar ei gyfer.

Roedd William Hare yn gweithio mewn partneriaeth gyda Gyrfa Cymru a'r ysgol i gynnal gweithdy. Ei nod oedd helpu disgyblion fel Connor i ddysgu mwy am weithio ym maes peirianneg.

Roedd y cwmni hefyd eisiau cynnig cymorth ychwanegol i fynychwyr a fyddai efallai’n ystyried prentisiaeth gyda nhw.

Dod o hyd i'w gamau nesaf

Roedd y gweithdy’n ddiddorol ac yn ddefnyddiol i Connor a rhai o'i gyd-ddisgyblion. Cawsant wahoddiad i fynd ar daith i safle'r cwmni yn Rhisga.

Dywedodd Connor: “Roedd gen i aelodau o'r teulu yn gweithio mewn maes tebyg ac roedd hynny'n teimlo'n gyfarwydd i mi drwyddyn nhw.

“Daeth pobol o William Hare i mewn i’r ysgol a dweud popeth wrthon ni am y cwmni a beth oedden nhw’n ei wneud.

“Pan aethon ni am dro ar y safle, roeddwn i’n teimlo fy mod i eisiau bod yno.”

Roedd mynd i’r ddau ddigwyddiad wedi helpu Connor i benderfynu gwneud cais am brentisiaeth yn y cwmni.

Roedd ef wrth ei fodd pan ddaeth i wybod ei fod wedi cael ei dderbyn ar y rhaglen.

Peiriannydd weldio y dyfodol

Ar hyn o bryd, mae Connor yn mwynhau ei brentisiaeth gyda William Hare.

Mae'n treulio'r rhan fwyaf o'i wythnos yn ennill cyflog wrth ddysgu sut i wneud y swydd ar y safle. Mae hefyd yn treulio diwrnod bob wythnos yn y coleg.

Mae Connor yn hyderus mai dyma’r llwybr cywir iddo ei gymryd i ddechrau ei yrfa.

Dywedodd Connor: “Roeddwn i wrth fy modd pan wnes i ddarganfod fy mod i wedi cael y brentisiaeth a theimlais yn ffodus iawn fy mod wedi cael fy newis.

“Rwy’n gweithio gyda phobl wahanol bob dydd ac yn helpu i wneud rhai o’r tasgau mwyaf yn y cwmni.

“Mae'n wahanol iawn i'r ysgol – mae'n fwy ymarferol a manwl. Hefyd, mae'n arian da iawn i rywun fy oedran i.

“Rwy’n mwynhau’r swyddi weldio yn arbennig ac rwy’n edrych ymlaen at barhau.”


Os hoffech chi archwilio'ch diddordebau a'ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfaoedd, cysylltwch â ni heddiw.


Archwilio

Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ennill cymwysterau tra'n gweithio a chael cyflog. Dysgwch fwy am brentisiaethau, chwiliwch am swyddi gwag a mwy.

Swyddi Dyfodol Cymru

Archwiliwch ranbarthau a diwydiannau Cymru. Dysgwch pa swyddi y gallech eu gwneud, nawr ac yn y dyfodol.