Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Ffion

Ffion

Ar ôl cael addysg yn anodd, cafodd Ffion lwyddiant pan wnaeth ei chynghorydd gyrfa ei helpu i ddod o hyd i leoliad gwaith.

Dewis arall yn lle'r ysgol

Roedd Ffion, sy'n byw yng Nghas-gwent, yn derbyn darpariaeth addysg amgen gan ei hysgol ar ôl cael addysg prif ffrwd yn anodd. Cafodd ei chyfeirio gan ei hathro at Gyrfa Cymru, i archwilio’r opsiwn o gael lleoliad gwaith.

Gwnaeth Vicky Jones, y cynghorydd gyrfa, gyfarfod â Ffion a buont yn siarad am ddiddordebau Ffion a’r hyn roedd hi eisiau ei wneud. Roedd yn amlwg o hyn bod Ffion yn awyddus i ddod o hyd i leoliad gwaith, ac eisiau gweithio gydag anifeiliaid.

Dod o hyd i'r lleoliad cywir

Yn anffodus, roedd hyn yn cyd-daro â dechrau'r pandemig a'r cyfyngiadau symud yn y DU. Unwaith i'r cyfyngiadau lacio, fe wnaeth Vicky helpu Ffion i ddod o hyd i ddau leoliad posib mewn fferm a stablau lleol.

Roedd Ffion yn frwd dros Ganolfan Farchogaeth Severnvale pan ymwelon nhw â'r ganolfan. Bu Jo Evans, cynghorydd cyswllt busnes gyda Gyrfa Cymru, yn gweithio gyda Vicky a pherchennog Severnvale i drefnu lleoliad addas.

Ar ôl cychwyn yn y stablau, roedd yn amlwg bod Ffion mewn man lle gallai ffynnu. O fewn mis, roedd Ffion wedi cynyddu ei lleoliad o un i ddau ddiwrnod yr wythnos a dechreuodd weithio am gyflog yno ar ddydd Sul.

Arwain at lwyddiant

Ar ôl chwe mis o weithio yn y stablau, cynigiwyd prentisiaeth i Ffion, ac mae hi bellach ar ei blwyddyn gyntaf.

Dywedodd Ffion: “Rwy’n falch o ble’r wyf i nawr. Rwyf wedi gallu prynu fy nghar fy hun ac mae gen i fy ngheffyl fy hun nawr hefyd.

“Mae fy hyder wedi cynyddu’n sylweddol, dim ond trwy weithio yn y stablau a bod o gwmpas pobl eraill.

“Roedd Vicky wastad yno i mi ac roeddwn yn gallu gofyn unrhyw beth iddi. Hi wnaeth fy helpu i ddod o hyd i'r stablau hyn a rwy' dal yma!

“Byddwn yn cynghori pobl ifanc eraill i ddilyn yr hyn maen nhw eisiau ei wneud. Fe wnes i wrando ar yr hyn yr oeddwn i ei eisiau a nawr rwy’n hapus iawn lle’r wyf i.”


Os hoffech chi archwilio'ch diddordebau a'ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.


Archwilio

Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ennill cymwysterau tra'n gweithio a chael cyflog. Dysgwch fwy am brentisiaethau, chwiliwch am swyddi gwag a mwy.

Twf Swyddi Cymru+

Wyt ti rhwng 16-19 oed? Galli di gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith am dâl i dy helpu i allu llywio dy ddyfodol.