Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Will

Will

Mae Will o Gaerdydd, sy’n 19 oed, yn rhannu ei stori i ddangos nad yw ei fyddardod wedi’i atal rhag mynd ar drywydd ei uchelgias i ddilyn gyrfa ym maes meddygaeth.

Profiadau yn yr ysgol

Ar ôl iddo ddechrau cael symptomau colli clyw pan oedd yn bump oed, cafodd Will ddiagnosis o Fyddardod sy’n Gwaethygu yn y Ddwy Glust (PBHL). I ddechrau bu’n rhaid i Will symud i ysgol arall er mwyn cael mwy o gymorth ar gyfer ei gyflwr ac roedd yn gallu ymdopi â’r gwersi ond dywedodd fod y ffaith bod ei berfformiad mewn profion clywed yn gwaethygu yn gwneud iddo deimlo’n ‘fethiant drwy’r amser’.

Erbyn i Will gyrraedd blwyddyn 9, dechreuodd gael trafferth clywed sgyrsiau un i un ac nid oedd yn gallu clywed yr athrawon yn iawn yn ystod y gwersi. Roedd ymdrechu mor galed i ganolbwyntio yn ei flino’n lân, a byddai’n disgyn i gysgu’n syth ar ôl cyrraedd adref.

Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd Will yn teimlo ei bod yn bryd iddo ystyried mewnblaniad yn y cochlea, a chafodd y mewnblaniad cyn diwedd mis Medi yn ystod blwyddyn gyntaf ei gwrs TGAU.  Ar ôl colli mis o ysgol, llwyddodd Will i ddysgu’r hyn yr oedd wedi ei golli, a hynny ar ei liwt ei hun. Fe wnaeth y penderfyniad anodd i ollwng dau bwnc TGAU gan ei fod mor flinedig, ac yn lle hynny defnyddiodd ei amser i ddod at ei hun rhwng gwersi.

Gan gyfeirio at ei stori, meddai Will: "Pan oeddwn i’n iau, doeddwn i ddim eisiau teimlo’n anabl na chael fy nghyfyngu oherwydd fy anabledd. Credaf fod y syniad nad yw plant anabl yn cyflawni cystal â phlant eraill yn niweidiol iawn i blant anabl yn gyffredinol."

"Roeddwn yn awyddus i astudio meddygaeth er mwyn gallu helpu pobl eraill mewn sefyllfaoedd bregus, yn debyg i’r ffordd y cefais i fy helpu pan oeddwn yn iau."

Cefnogaeth gan Gyrfa Cymru

Ychydig cyn iddo ddechrau’r cyfnod pontio hwn, dechreuodd Will gael cefnogaeth un i un gan Dylan, Cynghorydd Gyrfa i’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, o Gyrfa Cymru.

Roedd Dylan yno i drafod opsiynau ac uchelgeisiau Will, ei helpu i ddatblygu cynllun sy’n sicrhau bod ei anghenion dysgu a llesiant yn cael eu diwallu ac ystyried ei ddyheadau, a hefyd i wrando arno yn ystod cyfnodau anodd.

Gan sôn am y gefnogaeth a gafodd Will gan Dylan a Gyrfa Cymru, meddai: "Roedd yn braf gallu edrych ymlaen a chael strategaeth ar gyfer yr hyn yr oeddwn am ei wneud ar ôl cael y mewnblaniad a’r hyn yr oeddwn am ei wneud yn y dyfodol, rhoddodd rywbeth i mi anelu ato a chanolbwyntio arno, sef dyfodol addawol."

"Roeddwn yn teimlo bod rhywun ar fy ochr i yn fy helpu i feddwl am y dyfodol yn ogystal â helpu i roi trefn ar bethau a’r hyn yr oedd angen i mi ei wneud – nid dim ond rhoi pethau ar bapur i mi, ond fi helpu i ganolbwyntio’n feddyliol hefyd."

Ymgartrefu yn y brifysgol

Ar hyn o bryd mae Will yn astudio meddygaeth yng Ngholeg St Andrew’s yn yr Alban ac ar fin gorffen ei flwyddyn gyntaf yno.

Gan sôn am ei brofiadau, meddai: "Roedd fy nghlyw yn rheoli fy mywyd yn llwyr – a gallaf ddweud yn bendant oni bai am y mewnblaniad yn y cochlea a’r gefnogaeth a gefais gan fy nheulu, fy athrawon a Dylan, ni fyddai wedi bod yn bosibl i mi wneud cais am gwrs meddygaeth."

"Mae hi wedi bod yn flwyddyn gyntaf od iawn yn y brifysgol oherwydd Covid-19, ond mae pawb wedi fy nhrin i fel rhywun normal ac rwy’n teimlo’n rhan o’r brifysgol."

Os ydych chi yn yr ysgol neu’r coleg ar hyn o bryd ac yn awyddus i drafod eich diddordebau a’r cyfleoedd sydd ar gael gyda Chynghorydd Gyrfa, siaradwch ag aelod o staff a fydd yn rhoi gwybod i chi sut i drefnu apwyntiad.

Gallwch chi neu eich rhiant, gwarcheidwad neu ofalwr hefyd ein ffonio am ddim ar 0800 028 4844, e-bostio post@gyrfacymru.llyw.cymru neu gysylltu â ni drwy sgwrs fyw.


Archwilio

Opsiynau yn 18

Cewch wybod pa ddewisiadau gyrfa sydd gennych ar ôl ichi adael yr ysgol neu'r coleg.

Cysylltu â ni

Os hoffech chi siarad â ni, cysylltwch â ni i gael mwy o help a chymorth