Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Samiha

Samiha

Roedd cael cyngor yn help i Samiha gyda’i gyrfa.

Fe wnaeth Samiha, sy’n 19 oed ac yn dod o Gasnewydd, gyfarfod â’i chynghorydd gyrfa ym mlwyddyn 11 a chafodd gymorth gyda’i llwybr gyrfa ar ôl y chweched dosbarth.

Beth nesaf ar ôl gadael yr ysgol?

“Fe wnes i gwrdd â Dave, cynghorydd gyrfa’r ysgol, am y tro cyntaf ym mlynyddoedd 11 a 12.  Ar y pryd, doeddwn i ddim wedi meddwl am yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud ar ôl gadael yr ysgol, felly roeddwn yn gwybod bod angen i mi siarad â chynghorydd gyrfa am fy opsiynau ar gyfer y dyfodol.

“Doedd gen i ddim awydd mynd i’r brifysgol er ei bod yn ymddangos mai hwn oedd y llwybr mwyaf traddodiadol a’r llwybr y disgwyliwyd i mi ei ddilyn. Yn y bôn, roeddwn i’n gwybod fy mod am ddilyn llwybr galwedigaethol ond doeddwn i ddim yn gwybod ym mha bwnc.

“Mynychais ddigwyddiad Gyrfa Cymru yng Nghaerdydd i gael gwybod mwy am hyn ac i ymchwilio i wahanol swyddi. Fe wnaeth agor fy llygaid i’r byd gwaith.”

Cefnogaeth gan Gyrfa Cymru

“Fe wnaeth Dave roi gwybodaeth i mi am gynllun o’r enw Network75, a oedd yn swnio’n berffaith i mi. Byddai modd i mi astudio yn y brifysgol am ddau ddiwrnod yr wythnos, a gweithio mewn swydd am dri diwrnod. Y bwriad oedd cyfuno fy astudiaethau gradd gyda lleoliad gwaith â thâl.

“Cefais gefnogaeth gan Dave drwy gydol y broses ymgeisio. Fe wnes i lunio sawl copi drafft o’r cais ac roedd Dave wastad yn fodlon edrych arnyn nhw ac awgrymu gwelliannau.

“Cefais gymorth gan Dave hefyd i greu fy CV cyntaf. Awgrymodd y dylwn ddefnyddio templed CV ar wefan Gyrfa Cymru ac edrychodd ar sawl copi drafft.  Roeddwn i’n teimlo’n llawer mwy hyderus wrth ddefnyddio fy CV i wneud cais am brentisiaethau.  Roeddwn i mor ddiolchgar o gael y cymorth.  Rhoddodd gymhelliant i mi ddyfalbarhau a pheidio â rhoi’r ffidil yn y to o ran fy nhargedau gyrfa."

Symud ymlaen yn fy ngyrfa

“Rwy’n astudio cyfrifeg a chyllid yn y brifysgol am ddau ddiwrnod yr wythnos, ond oherwydd Covid-19, mae’r dosbarthiadau a’r astudio wedi cael eu cynnal ar-lein.  Weddill yr wythnos, rwy’n gweithio gartref i Arcadis, yn meithrin sgiliau a phrofiad ar gyfer fy nghwrs. Ar ôl wyth mis o astudio rwy’n falch o allu dweud fy mod wedi pasio fy nghyfnod prawf chwe mis ac rwyf bellach yn weinyddwr ariannol cymwysedig.

“Yn yr ysgol, roedd yn ymddangos mai’r prif nod oedd mynd i’r brifysgol ac i addysg uwch. Nid oedd fawr o sôn am lwybrau galwedigaethol. Cefais y gorau o’r ddau fyd!

“Roedd yn deimlad hynod bositif ac yn chwa o awyr iach gallu siarad â rhywun a oedd yn fodlon gwrando ar fy syniadau gyrfa heb geisio fy mherswadio i astudio pwnc penodol, a mynd i’r coleg neu’r brifysgol.

“Yn y dyfodol rwy’n gobeithio magu mwy o hyder yn fy maes gwaith a mynd ymlaen i wahanol feysydd cyllid. Rwy’n gobeithio y bydd Arcadis yn cynnig swydd llawn-amser i mi.

“Heb help Gyrfa Cymru, rwyf wir yn credu na fyddwn wedi gallu cyflawni’r hyn rwyf wedi’i gyflawni heddiw ac rwy’n fythol ddiolchgar am yr help a’r cymorth a gefais. Mae Dave yn parhau i gysylltu â mi o bryd i’w gilydd, sy’n wych.

“Fy awgrym i fyddai gweithio’n galed, gwneud llawer o ymchwil a mynd amdani os ydych yn awyddus i ddilyn llwybr galwedigaethol!”

Os ydych yn yr ysgol neu’r coleg ar hyn o bryd ac os hoffech ymchwilio i’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, siaradwch ag aelod o staff all eich cynghori ar sut i drefnu apwyntiad.

Gallwch chi neu eich rhiant, gwarchodwr neu ofalwr hefyd ein ffonio am ddim ar 0800 028 4844, e-bost post@gyrfacymru.llyw.cymru neu gysylltu drwy’r cyfleuster sgwrs fyw.


Archwilio

Creu CV

Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.

Opsiynau yn 18

Cewch wybod pa ddewisiadau gyrfa sydd gennych ar ôl ichi adael yr ysgol neu'r coleg.