Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Enillwyr Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr 2026

8 Cyflogwr yn dal eu tlysau i fyny

Dathlu enillwyr Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr 2026.

Mae wyth cyflogwr o bob cwr o Gymru wedi cael eu cydnabod am y gefnogaeth maen nhw'n ei rhoi i bobl ifanc. Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar 28 Ionawr 2026.

Mae'r gwobrau hyn yn dathlu cyflogwyr sy'n helpu disgyblion i ddysgu am fyd gwaith. 

Maen nhw'n gwneud hyn drwy gynnig profiadau go iawn, fel:

  • Ymweliadau â gweithleoedd
  • Sgyrsiau
  • Gweithdai
  • Profiad gwaith
  • Mentora

Mae'r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i gysylltu'r hyn maen nhw'n ei ddysgu yn yr ysgol â swyddi go iawn a chyfleoedd yn y dyfodol.

Pam mae'r gwobrau hyn yn bwysig

Gall cymorth gyrfa da newid bywyd unigolyn ifanc. Pan fydd disgyblion yn cwrdd â chyflogwyr, gallant wneud y canlynol:

  • Gweld yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael yng Nghymru
  • Dysgu pa sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer y dyfodol
  • Magu hyder
  • Gwneud dewisiadau gwell am bynciau, cyrsiau a llwybrau gyrfa
  • Cael eu hysbrydoli

Mae Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn tynnu sylw at y cyflogwyr sy'n gwneud hyn yn bosibl bob blwyddyn.

Enillwyr eleni

Gwobr Cyflawniad Eithriadol: Hafren Dyfrdwy

Staff o Hafren Dyfrdwy yn y seremoni wobrwyo, yn dal eu tlws

Mae Hafren Dyfrdwy wedi darparu cefnogaeth gref a pharhaus i ysgolion ledled Wrecsam a Gogledd Powys. Fe wnaethon nhw gynnig llawer o weithgareddau, gan gynnwys ffug-gyfweliadau, carwselau gyrfaoedd, gweithdai CV a sgyrsiau prentisiaid. Fe wnaethon nhw hefyd gyflwyno sesiynau STEM ac amgylcheddol a oedd yn archwilio pynciau fel newid hinsawdd. Mae eu gweithgareddau'n helpu pobl ifanc i feithrin hyder a deall swyddi go iawn.

 

 

Mae gweithio gyda Gyrfa Cymru yn rhoi’r cyfle inni gefnogi pobl ifanc ar adeg hollbwysig yn eu bywydau ac mae cael y wobr hon yn anrhydedd go iawn.

Fel cwmni dŵr rydym yn gwasanaethu ardal fach gyda thua 100,000 o gwsmeriaid, ac rydym yn hynod falch ein bod wedi gallu cefnogi mwy na 3,000 o ddysgwyr drwy’r bartneriaeth. Mae gallu rhoi rhywbeth yn ôl i’n cymuned mewn ffordd mor lleol ac ystyrlon yn wirioneddol bwysig i ni."

Katie Wood, Rheolydd Cydberthnasau Cymunedol gyda Hafren Dyfrdwy

 

 

Y Newydd-ddyfodiad Gorau: Atlas Copco

Staff o Atlas Copco yn y seremoni wobrwyo, yn dal eu tlws

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cefnogodd Atlas Copco sawl ysgol. Fe wnaethon nhw gynnal gweithgareddau i helpu disgyblion i ddysgu am yrfaoedd ym maes peirianneg a gweithgynhyrchu. Cynhaliodd eu tîm sesiynau rhwydweithio cyflym a sesiynau ymarferol i lunio CV. Fe wnaethon nhw hefyd gyflwyno gweithdai STEM lle roedd disgyblion yn adeiladu modelau o gerbydau. Maen nhw nawr yn gweithio gydag ysgolion i drefnu ymweliadau safle yn y dyfodol. Nod Atlas Copco yw ysbrydoli mwy o bobl ifanc i ystyried gyrfaoedd yn y sector.

 

 

Doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl o gwbl, felly roedd yn dipyn o syndod, ond rwy’n falch iawn o wybod bod yr holl waith caled rydyn ni wedi bod yn ei wneud wedi cael ei gydnabod. Fel cwmni peirianneg, rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw hi i ymgysylltu â phobl ifanc i ddangos iddyn nhw pa gyfleoedd sydd ar gael."

Giorgia Paoloni, Partner Busnes Adnoddau Dynol yn Atlas Copco

Y Berthynas Barhaus Orau ag Ysgol: gwesty Voco Dewi Sant Caerdydd

Staff o Voco Dewi Sant Caerdydd yn y seremoni wobrwyo, yn dal eu tlws

Mae gwesty Voco Dewi Sant Caerdydd wedi cefnogi Ysgol Uwchradd Willows ers tair blynedd. Mae'r tîm yn cynnal arddangosiadau coginio, sesiynau gyrfaoedd a gweithdai ymarferol i ddisgyblion. Maen nhw’n gweithio'n agos gydag athrawon i amseru gweithgareddau o amgylch gwersi ac arholiadau. Mae eu cefnogaeth yn annog disgyblion ac yn cynnig profiad ymarferol mewn lletygarwch ac arlwyo.

 

 

I mi, mae’r cyfan yn ymwneud ag ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, dod â’r plant i mewn a’u haddysgu, dangos cegin go iawn iddyn nhw, eu hannog i gymryd rhan a chaniatáu iddyn nhw weld sut brofiad fyddai gyrfa ym maes lletygarwch."

Richard Howard, prif gogydd gwesty voco Dewi Sant Caerdydd

Y Cyflogwr Mwyaf Cefnogol ar gyfer Profiad Gwaith: Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian

Staff o Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian yn y seremoni wobrwyo, yn dal eu tlws

Mae Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian wedi cynnig lleoliadau i bump o bobl ifanc lleol. Roedd y lleoliadau hyn yn cynnwys gwaith saer, cynnal a chadw, lletygarwch, arlwyo a gofal plant. Fe wnaethon nhw greu cynlluniau syml a hyblyg ar gyfer pob dysgwr. Fe wnaethon nhw hefyd addasu oriau, amseroedd dechrau a thasgau i'w helpu i ymgartrefu. Daeth tîm yr Ymddiriedolaeth i adnabod pob unigolyn ifanc yn dda. Fe wnaethon nhw drefnu gweithgareddau a oedd yn cyd-fynd â'u diddordebau, eu sgiliau a'u nodau.

 

 

Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill Gwobr Partner Gwerthfawr. Fel sefydliad, rydym yn gwneud amrywiaeth o bethau gyda phobl ifanc. Mae gennym ni addysg amgen, mae gennym ni’r clwb pêl-droed, mae gennym ni gaffi Lakeside ar y safle. Yn ogystal â hyn, rydym yn cynnal rhaglenni ar gyfer y gymuned.
Tîm bach iawn ydyn ni ac rydym yn gwybod ein bod ni’n cael effaith fawr, ond ma’r ffaith bod hynny’n cael ei gydnabod yn wych, ac mae ennill hyd yn oed yn fwy anhygoel.”
 

Brittony Price, Cydlynydd Datblygu Cymunedol gydag Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian

Y Busnes Bach Mwyaf Cefnogol: Caffi Y Cwt Potio

Staff o Gaffi Y Cwt Potio yn y seremoni wobrwyo, yn dal eu tlws

Mae Caffi Y Cwt Potio wedi rhoi profiad ymarferol i ddisgyblion mewn cegin a chaffi go iawn. Dysgodd pobl ifanc sgiliau ymarferol fel gwneud brechdanau a pharatoi diodydd. Ymwelodd y tîm ag ysgolion i gynnal arddangosiadau coginio. Roedden nhw hefyd yn cynnig gweithgareddau hyblyg a chynhwysol i ddisgyblion ag anghenion dysgu gwahanol. Maen nhw’n parhau i gefnogi prosiectau fel yr Her Gyrfaoedd Blasus. Mae'r caffi'n bwriadu gwneud a gwerthu cynnyrch yr ysgol a ddaw’n fuddugol yn yr her.

 

 

Rydym ni wrth ein bodd ein bod wedi ennill y wobr hon. Mae gweld effaith gadarnhaol ein gwaith a gwybod bod y bobl ifanc wir yn mwynhau eu hamser gyda ni yn rhoi boddhad mawr i ni. Rydym yn credu’n gryf y dylem ddenu pobl ifanc at yrfaoedd sy’n annog creadigrwydd ac sy’n cynnig rhywbeth ym maes lletygarwch".
 

Jon White, Rheolydd Caffi Y Cwt Potio

Hyrwyddwr Gorau’r Gymraeg yn y Gweithle: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Staff from Swansea Bay University Health Board at the awards ceremony, holding their trophy

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cefnogi disgyblion i weld y Gymraeg fel sgil gwerthfawr yn y gweithle. Fe wnaethon nhw greu “Her y Gymraeg yn y Gweithle”, a gofyn i ddisgyblion feddwl am syniadau i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn ystod y diwrnod gwaith. Mae Swyddog y Gymraeg hefyd yn siarad â disgyblion am bwysigrwydd dwyieithrwydd. Mae eu gwaith yn helpu pobl ifanc i ddeall sut y gall y Gymraeg gefnogi eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

 

 

Rydym wrth ein bodd bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cael ei gydnabod fel Hyrwyddwr Gorau’r Gymraeg yn y Gweithle’. Mae cefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu hyder yn y Gymraeg ac i weld ei gwerth go iawn ym maes gofal iechyd, yn rhywbeth rydyn ni’n angerddol iawn amdano. Drwy ein partneriaethau rhwng ysgolion a cholegau, gwaith ehangu mynediad a rhaglenni prentisiaeth, ein nod yw creu cyfleoedd sy’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf ac yn dathlu pwysigrwydd dwyieithrwydd o fewn GIG Cymru. Rydym yn falch o gael cydweithio â Gyrfa Cymru i helpu pobl ifanc i fagu hyder, codi dyheadau a gweld y GIG fel lle croesawgar a chynhwysol i ddechrau eu gyrfa. Mae’n fraint cael chwarae rhan yn y broses o helpu pobl ifanc i archwilio eu talentau, magu eu hyder a’u grymuso am eu dyfodol.”
 

Victoria Williams, Rheolydd Gyrfaoedd, Ehangu Mynediad a Phrofiad Gwaith a Melanie Lloyd, Swyddog Cymorth Ehangu Mynediad a Chytundeb Anrhydeddus gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Cefnogwr Gorau’r Agenda Sero Net: Morlais

Staff o Morlais yn y seremoni wobrwyo, yn dal eu tlws

Mae Morlais yn cynorthwyo dysgwyr i ddysgu am ynni adnewyddadwy a gyrfaoedd sero net. Mae'r tîm yn cymryd rhan mewn digwyddiadau gyrfaoedd, gweithdai a heriau ysgol ledled Ynys Môn. Mae Morlais hefyd yn cynnal digwyddiadau gyrfaoedd yn y sector gwyrdd. Mae'r digwyddiadau hyn yn caniatáu i ddisgyblion gwrdd â chyflogwyr ac archwilio cyfleoedd yn y dyfodol yn y diwydiant.

 

 

Mae cael bod yn rhan o’r gwobrau hyn yn arbennig iawn, ac mae ennill yn goron ar y cyfan. Mae wedi bod yn eithaf swreal ac yn ysbrydoledig. Rydym yn awyddus iawn i ddod â buddiannau i’r genhedlaeth nesaf, ac mae cydweithio ag ysgolion a disgyblion yn bwysig iawn i ni. Mae clywed disgyblion yn y digwyddiad heddiw yn rhannu sut y gwnaeth her Gwaith mewn Ffocws eu hysbrydoli, a gweld popeth yn dod at ei gilydd, wedi bod yn anhygoel."

Fiona Parry, Rheolydd Budd Cymunedol gyda Menter Môn, Morlais

Cyfraniad Personol Eithriadol: Conor Lynn – Cyfreithwyr Berry Smith

Conor Lynn o Berry Smith yn y seremoni wobrwyo, yn dal ei dlws

Mae Conor Lynn yn gyfreithiwr gyda Berry Smith.Mae wedi dangos ymrwymiad cryf i gefnogi Gyrfa Cymru ac ysgolion yng Nghymru. Mae Conor yn frwdfrydig ac yn broffesiynol. Mae'n helpu myfyrwyr i sylweddoli bod gyrfaoedd ym myd y gyfraith, ac unrhyw broffesiwn, o fewn eu cyrraedd. Mae hyn yn ei wneud yn llysgennad cryf dros addysg gyrfaoedd ac ymgysylltu â chyflogwyr.

 

 

Roeddwn i wir yn teimlo ei fod yn anrhydedd ennill y wobr ac rwy ar ben fy nigon. Mae rhoi cyfle i bobl ifanc ddeall eu dewisiadau a theimlo’n fwy hyderus am eu dyfodol yn rhywbeth sy’n agos iawn at fy nghalon."
 

Conor Lynn, Cyfreithiwr Cyfraith Teulu yng nghwmni Cyfreithwyr Berry Smith

Neges gan Gyrfa Cymru

Rydym yn falch iawn o ddathlu enillwyr eleni, y mae eu cefnogaeth wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaus i bobl ifanc ledled Cymru. Mae eu parodrwydd i rannu eu hamser, eu gwybodaeth a'u profiad yn chwarae rhan hanfodol wrth ymgysylltu â disgyblion a'u helpu i archwilio llwybrau gyrfa sydd ar gael iddynt a deall byd gwaith. Ar fy rhan i a phawb yn Gyrfa Cymru, hoffwn estyn ein llongyfarchiadau cynhesaf a’n diolch i’n holl enillwyr ac enwebeion am y gefnogaeth amhrisiadwy maen nhw’n ei darparu.”

 

Nikki Lawrence, Prif Weithredydd Gyrfa Cymru

Darganfod mwy

Am ragor o wybodaeth am ymgysylltiad cyflogwyr ag ysgolion, ewch i dudalennau cyflogwyr Gyrfa Cymru.  

Archwiliwch

Cyflogwyr

Gwasanaethau ar gyfer cyflogwyr Cymreig, gan gynnwys cefnogaeth i recriwtio, cydweithio ag ysgolion a cholegau, cyflogaeth a deddfwriaeth.

Gweithio gydag ysgolion

Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.

Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr

Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn ffordd i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau a fu’n gweithio gyda ni ac yn rhan hanfodol o gefnogi ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith.