Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr

Cyhoeddi'r rhester fer Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr gydag eicon seren

Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn ffordd i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau sydd wedi gweithio gyda ni.

Rydym yn dathlu’r gwaith y mae cyflogwyr wedi’i wneud i helpu ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith. Mae partneriaethau rhwng busnesau ac ysgolion yn rhoi ysbrydoliaeth a chymhelliant i bobl ifanc. Mae gwybodaeth a phrofiadau gwerthfawr sy'n gysylltiedig â gwaith yn helpu pobl ifanc i gysylltu'r hyn y maent yn ei ddysgu yn yr ysgol â’r byd gwaith.

Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr 2026

Y categorïau

Gwobr Cyflawniad Eithriadol

Y busnesau ar y rhestr fer yw:

  • Airbus
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
  • Castell Howell
  • Hafren Dyfrdwy
  • Morgan Sindall Group

Dylai fod y cyflogwr buddugol:

  • Wedi gweithio gyda Gyrfa Cymru ac wedi cefnogi ysgolion a phobl ifanc
  • Yn croesawu datblygiadau a mentrau newydd
  • Yn dathlu eu gwaith gyda Gyrfa Cymru ac ysgolion yng Nghymru ac annog busnesau eraill i weithio gyda Gyrfa Cymru i gefnogi ysgolion a dysgwyr
Show more

Newydd-ddyfodiad Gorau

Y busnesau ar y rhestr fer yw:

  • Atlas Copco
  • EE
  • HWM Global
  • KHS
  • TWI Ltd Wales

Roedd yr enwebiadau'n dangos sut mae'r busnes yn:

  • Dechrau gweithio gyda Gyrfa Cymru i gynorthwyo ysgolion dros y flwyddyn ddiwethaf
  • Cymryd camau pendant i hyrwyddo’r berthynas rhwng Gyrfa Cymru ag un ysgol neu fwy
  • Cefnogi un gweithgaredd neu fwy
Show more

Y Berthynas Barhaus Orau gydag Ysgol

Y busnesau ar y rhestr fer yw:

  • A.N Richards Ltd
  • Dŵr Cymru
  • Kier
  • The St David's Hotel & Spa
  • Walters

Roedd yr enwebiadau’n dangos tystiolaeth o berthynas gref ag un ysgol benodol dros y ddwy flynedd ddiwethaf a allai gynnwys:

  • Cefnogi nifer o weithgareddau yn yr ysgol
  • Cefnogi ystod o weithgareddau yn yr ysgol
  • Perthynas weithio â staff yr ysgol
  • Hyrwyddo perthynas â’r ysgol
Show more

Cyfraniad Personol Eithriadol

Y rhestr fer yw:

  • Chris Hooper, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
  • Conor Lynn, Berry Smith Lawyers
  • Emma Harrison, Lanyon Bowdler Solicitors
  • Joanne Daniels, Vishay
  • Mali Mathias, Barclays

Roedd yr enwebiadau'n dangos sut roedd y person hwn wedi gwneud un neu fwy o'r canlynol:

  • Dangos ymrwymiad eithriadol i gefnogi gweithgareddau mewn ysgolion
  • Dangos parodrwydd i roi cynnig ar syniadau newydd
  • Annog eraill o’u sefydliad i gymryd rhan
  • Cymryd camau pendant i hyrwyddo eu perthynas â Gyrfa Cymru ac ysgol neu ysgolion
Show more

Y Cyflogwr Profiad Gwaith Mwyaf Cefnogol

Y busnesau ar y rhestr fer yw:

  • Cambrian Village Trust
  • Fix Auto Aberdare
  • M&L Mechanical & Electrical Services
  • Newport Norse
  • Premier Forecourts and Construction

Roedd yr enwebiadau’n dangos sut roedd y busnes wedi gwneud un neu fwy o’r canlynol:

  • Cynnig profiad gwaith wedi'i deilwra i un neu fwy o bobl ifanc
  • Wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau o ran cefnogi person ifanc sy'n wynebu heriau neu rwystrau i ymgysylltu
  • Roedd ganddynt raglen o weithgareddau a ystyriwyd yn ofalus ac a gynlluniwyd i gefnogi'r dysgwr yn ei leoliad
Show more

Hyrwyddwr Gorau'r Gymraeg yn y Gweithle

Y busnesau ar y rhestr fer yw:

  • A.N. Richards Ltd
  • Bute Energy
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  • Gofalwn Cymru
  • KHS

Gallai'r enillydd fod yn gyflogwr sydd:

  • Yn cydnabod gwerth y Gymraeg fel sgil ar gyfer y gweithle
  • Yn cymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n hybu pwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle
  • Yn cefnogi darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg
Show more

Cefnogwr Gorau’r Agenda Sero Net

Y busnesau ar y rhestr fer yw:

  • Bute Energy
  • Morlais
  • Tai Calon
  • Wales & West Utilities
  • Willmott Dixon

Gallai'r enillydd fod yn gyflogwr sydd:

  • Yn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r sgiliau sydd eu hangen mewn Cymru sero net
  • Yn darparu cyfleoedd arloesol i bobl ifanc ddysgu am yrfaoedd sy'n gysylltiedig â'r agenda sero net
  • Yn dathlu eu gwaith gyda Gyrfa Cymru ac ysgolion yng Nghymru ac yn annog busnesau eraill i weithio gyda Gyrfa Cymru i gefnogi ysgolion a dysgwyr i ymgorffori Gyrfaoedd a Phrofiadau Byd Gwaith cysylltiedig â sero net yn y cwricwlwm
Show more

Busnes Bach Mwyaf Cefnogol

Y busnesau ar y rhestr fer yw:

  • Caffi Y Cwt Potiau
  • Canolfan Bwyd Cymru
  • Dewis Architecture

Mae’r wobr hon ar gyfer busnes sy’n cyflogi llai na deg o bobl.

Roedd yr enwebiadau'n dangos sut mae'r busnes yn:

  • Cymryd camau pendant i hyrwyddo ei berthynas â Gyrfa Cymru ac un ysgol neu fwy
  • Cefnogi ystod o weithgareddau ysgol gwahanol
Show more

Seremoni wobrwyo 2026

Bydd y seremoni wobrwyo yn gyfle i ni ddathlu pob busnes ar y rhestr fer cyn cyhoeddi'r enillwyr. Bydd y newyddiadurwraig, Sian Lloyd, yn cyhoeddi'r enillwyr yn fyw yn ein seremoni wobrwyo ar 28 Ionawr.