Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Tobi

Tobi

Roedd cael cyngor yn help i Tobi symud ymlaen a symud i fyny gyda’i gynlluniau gyrfa.

Dod i ddiwedd ei gyfnod yn yr ysgol

Yn ansicr o'i opsiynau ar ôl gadael yr ysgol, cafodd Tobi, sy'n 17 oed ac sy'n dod o Gasnewydd, gefnogaeth gan Gyrfa Cymru i'w helpu i wneud penderfyniadau am ei gynlluniau gyrfa ar gyfer y dyfodol.

“Fe glywais i am Gyrfa Cymru gyntaf ym mlwyddyn naw, pan siaradodd y cynghorydd gyrfa â’r grŵp blwyddyn am opsiynau pwnc a sut y gallai ein cefnogi i ddewis y pynciau arholiad cywir i’w hastudio.

“Doedd gen i ddim gyrfa mewn golwg felly defnyddiais offer ac adnoddau fel gwirio gyrfa a’r cwis paru swyddi ar wefan Gyrfa Cymru, a oedd yn ffordd dda o fapio fy nghamau nesaf ac awgrymu gyrfaoedd a swyddi posibl a allai fod yn addas i mi.”

Cefnogaeth gan Gyrfa Cymru

Wrth i Tobi agosáu at ddiwedd blwyddyn un ar ddeg, trefnodd apwyntiad gyda chynghorydd gyrfa yn yr ysgol i drafod ei holl opsiynau.

“Roeddwn i eisiau edrych ar fy opsiynau ar ddiwedd blwyddyn un ar ddeg a siarad gyda’r cynghorydd gyrfa am gwpl o syniadau oedd gen i. Roedd gen i ddiddordeb mewn mecaneg, gosodiadau trydanol a pheirianneg awyrennau ac roeddwn i eisiau cyngor ar beth fyddai orau i mi - cwrs coleg neu brentisiaeth. Fe wnes i sgwrsio am hyn gyda'r cynghorydd ac fe wnaethon ni drafod manteision prentisiaethau a chyrsiau coleg posibl.

“Ar ôl siarad â’r cynghorydd gyrfa, penderfynais fy mod i eisiau dilyn y cwrs gosodiadau trydanol ac fe wnes i gais am y cwrs a gafodd ei argymell.”

Symud ymlaen i'r Coleg

Ar ôl cael y graddau yr oedd eu hangen arno i fynd i'r coleg, cofrestrodd Tobi ar ei gwrs ym mis Medi.

“Rwy’n falch fy mod wedi dewis gwneud cais i fynd i'r coleg. Roedd y cynghorydd yn barod iawn ei gymorth ac yn gwybod llawer am y cyrsiau yr oedd gen i ddiddordeb ynddyn nhw. Ar hyn o bryd rwy'n dilyn cwrs gosodiadau trydanol lefel un ac rwy'n gobeithio dod o hyd i brentisiaeth ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Rwyf hefyd wedi gwneud cais am y cwrs gosodiadau trydanol lefel dau fel cynllun wrth gefn rhag ofn na fyddaf yn gallu dod o hyd i brentisiaeth addas.

“Dw i ddim yn credu y byddwn i wedi gallu gwneud penderfyniadau heb gefnogaeth Gyrfa Cymru. Mae cymaint o wybodaeth ar gael, am gyrsiau, hyfforddiant, prentisiaethau ac roedd yn anodd gwneud penderfyniad ar y llwybr gorau i mi ei ddilyn.

“Byddwn yn bendant yn annog unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd gwneud penderfyniadau i gysylltu â Gyrfa Cymru. Un cyngor y byddwn yn ei roi i eraill fyddai i edrych ar eich holl opsiynau, boed hynny'n aros yn y coleg neu gael gwybodaeth am hyfforddiant neu swyddi."

Os ydych yn yr ysgol neu’r coleg ar hyn o bryd ac os hoffech ymchwilio i’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, siaradwch ag aelod o staff all eich cynghori ar sut i drefnu apwyntiad.

Gallwch chi neu eich rhiant, gwarchodwr neu ofalwr hefyd ein ffonio am ddim ar 0800 028 4844, e-bost post@gyrfacymru.llyw.cymru neu gysylltu drwy’r cyfleuster sgwrs fyw.


Archwilio

Coleg a 6ed dosbarth

Dysgwch beth i’w ddisgwyl yn y coleg neu’r 6ed, pa gymorth ariannol y gallech ei gael a mwy.

Cysylltu â ni

Os hoffech chi siarad â ni, cysylltwch â ni i gael mwy o help a chymorth