Gyda chymorth gyrfaoedd wedi'i deilwra, mae Thomas wedi cael lle ar gwrs cyfryngau creadigol yn y coleg, a bydd yn dilyn ei freuddwyd o weithio yn y celfyddydau perfformio.
Angerdd dros berfformio
Disgybl ym Mlwyddyn 11 yn yr ysgol yw Thomas ac mae'n frwd dros berfformio. Cyn bo hir bydd yn chwarae rhan Yncl Henry mewn cynhyrchiad ysgol o Wizard of Oz.
Ei freuddwyd hirdymor yw dod yn gyfarwyddydd a chreu ffilmiau trosedd, ffilmiau cyffro a chomedi.
Dywedodd Thomas, “Rwy’n hoffi perfformio oherwydd gallaf fod yn fi fy hun o flaen pobl.
"Rwy'n mwynhau bob math o ffilmiau, ond rwy'n hoff iawn o Mary Poppins a'r gyfres Only Murders in the Building."
Cymorth gan Gyrfa Cymru
Mae Thomas wastad wedi bod eisiau mynd i'r coleg. Mae ganddo anhwylder sbectrwm awtistiaeth a mân anawsterau dysgu a chafodd gefnogaeth gan Debbie, cynghorydd gyrfa yn ysgol Thomas.
Dywedodd Debbie, “Trefnais i’r swyddog pontio ar gyfer grŵp colegau Castell-nedd Port Talbot ddod i’r ysgol. Cynhaliodd sesiwn grŵp gyda Thomas a’i ddosbarth anghenion dysgu ychwanegol i siarad mwy am sut le yw coleg a beth i’w ddisgwyl.
“Roedd Thomas yn wych y diwrnod hwnnw ac roedd wedi ysgrifennu cwestiynau yr oedd y disgyblion tawelaf yn y dosbarth am eu gofyn, felly daeth yn llefarydd ar ran pawb.”
Yn fuan wedyn, mynychodd Thomas adolygiad cymorth un-i-un. Yn ystod y cyfnod hwn cynorthwyodd Debbie ef gyda'i gais coleg ar gyfer cwrs cyfryngau creadigol.
Dywedodd Thomas, “Siaradodd Debbie â mi am ba gwrs fyddai orau i mi a helpodd fi i wneud cais ar-lein.”
Cyngor i eraill
Mae Thomas eisiau annog myfyrwyr eraill i siarad â'u hathrawon a'u cynghorwyr gyrfa yn eu hysgol.
Dywedodd, “Peidiwch â bod yn nerfus i siarad â rhywun amdano!
“Roedd Debbie yn neis iawn, yn frwdfrydig iawn, ac roedd yn dda iawn siarad â hi.”
Gyda'i gais coleg wedi'i gyflwyno, mae Thomas wedi derbyn cynnig. Gyda rhai dyddiau rhagflas wedi'u hamserlennu gyda'r coleg, mae Thomas yn llawn cyffro am gamau nesaf ei daith.
Os hoffech chi archwilio’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa cysylltwch â ni heddiw.
Efallai yr hoffech chi hefyd

Defnyddiwch Fy Nyfodol i gael gwybodaeth gyrfaoedd hawdd ei darllen. Dysgwch am wahanol swyddi. Cael help i archwilio eich syniadau gyrfa a phenderfynu ar eich camau nesaf.

Dewch i wybod am y gwahanol opsiynau sydd ar gael i chi pan fyddwch yn 16 oed.