Mae Beth wedi cymryd ei cham cyntaf tuag at ei gyrfa ddelfrydol fel cyfreithwraig.
Roedd gan Beth, sy’n 16 oed o Gastell-nedd, ddiddordeb yn y sector cyfreithiol erioed.
Dywedodd, “Cefais leoliad gyda Heddlu De Cymru, ac roedd yn brofiad da iawn i mi. Ers hynny roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau mynd i faes y gyfraith.”
Deall opsiynau
Cyfarfu Beth â chynghorydd gyrfa ei hysgol, Rebecca, i siarad am ei dyfodol.
Dywedodd, “Dywedais wrth Rebecca mai’r gyfraith oedd gen i mewn golwg ond nad oeddwn i wir eisiau mynd i’r brifysgol. Roeddwn i wir yn hapus i ystyried mynd i'r coleg, felly i ddechrau roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n gwneud Safon Uwch efallai ac y byddai'r gyfraith yn un o'r opsiynau hynny.
“Doeddwn i ddim yn ymwybodol o’r llwybr prentisiaeth nes i mi siarad â Rebecca.”
Gwnaeth Rebecca helpu Beth i ymchwilio i opsiynau a chanfod bod JCP Solicitors yn cynnig prentisiaethau drwy Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEX). Cynghorodd Beth hefyd i fynd i'r noson agored yr oedd Cyfreithwyr JCP yn ei chynnal.
Dywedodd Beth, “Roeddwn i’n teimlo bod y noson agored yn ddefnyddiol iawn oherwydd roeddwn i’n gallu gweld pa fath o amgylchedd y byddwn i’n gweithio ynddo pe bawn i’n llwyddiannus. Fe wnaethon nhw hyd yn oed ddangos i mi sut olwg fyddai ar fy llwybr gyrfa gam wrth gam.”
Cymryd y cam nesaf
Ar ôl y noson agored yn JCP Solicitors, teimlai Beth yn hyderus ei bod hi eisiau gwneud cais am y brentisiaeth. Awgrymodd Rebecca ddulliau o fireinio CV Beth, fel ymarfer teipio, cwblhau cyrsiau ar-lein, a dysgu'r wyddor ffonetig.
Esboniodd Beth “Llwyddodd Rebecca i wella fy CV yn sylweddol, ac yna cyflwynais i gais gyda’r CV newydd, ac fe gynigion nhw gyfweliad i mi. Cefais gyfweliad wyneb yn wyneb ac yna o fewn wythnos, cefais ddyddiad dechrau. Roedd y cyfan yn deillio o'r cyfarfod hwnnw gyda Rebecca.”
Bellach mae Beth yn brentis yn JCP Solicitors. Mae'n gweithio yn y grŵp cymorth busnes bedwar diwrnod yr wythnos ac yn treulio un diwrnod yng Ngholeg Gŵyr yn astudio CILEX. Ar ôl hynny mae hi'n gobeithio symud ymlaen i Lefel 5, gyda'r nod hirdymor o ddod yn gyfreithiwr.
Cyngor i eraill
Mae Beth yn annog pobl ifanc eraill i feddwl am brentisiaethau a cheisio cymorth gyrfa i archwilio eu hopsiynau.
Dywedodd, “Doeddwn i erioed wedi sylweddoli y byddwn i’n gallu gwneud prentisiaeth ym maes y gyfraith. Mae'n syndod, erbyn i chi weithio'ch ffordd i fyny'r lefelau, mae gennych chi radd gyfwerth. Rydych chi'n ennill cyflog wrth ddysgu ac yn cael profiad ymarferol.”
“Fyddwn i ddim yn y sefyllfa hon heb Rebecca. Roedd hi'n dwymgalon iawn a hyd yn oed os nad oes gennych chi syniad am eich dyfodol, bydd hi'n archwilio'r holl opsiynau gyda chi. Heb os, fe wnaeth hi feithrin fy hyder er mwyn i mi wneud cais am y rôl hon.”
Os hoffech chi drafod eich diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa cysylltwch â ni heddiw.
Archwiliwch

Cymorth i gynllunio eich gyrfa. Eich syniadau a'ch dewisiadau chi.

Mae prentisiaeth yn swydd lle rydych chi'n ennill cymwysterau cydnabyddedig tra byddwch chi'n gweithio. Dysgwch am gymhwysedd, cyflog, gwybodaeth am hyfforddiant a'r amrywiaeth o brentisiaethau sydd ar gael.

Archwiliwch ein rhestr o gwmnïau mwy sy'n cynnig prentisiaethau yng Nghymru. Mae ystod eang o brentisiaethau gwag yn cael eu hysbysebu ar wahanol adegau o'r flwyddyn.