Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Viridor

Eamonn Scullion o Viridor yn derbyn ei wobr gan y cyflwynydd Huw Stephens a Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru

Mae Viridor wedi dangos ymroddiad i gefnogi disgyblion i ddysgu am yrfaoedd. Maent yn gweithio gydag ysgolion yn eu cymuned leol a'r ardal ehangach.

Mae'r cwmni'n darparu gwasanaethau ailgylchu, ynni adnewyddadwy a rheoli gwastraff. Mae ganddyn nhw gyfleuster adfer ynni ym Mae Caerdydd, gyda lleoliadau ledled Cymru.

Gweithio gydag ysgolion

Mae Viridor wedi cynnal amrywiaeth o weithgareddau mewn deuddeg ysgol wahanol, gan gynnwys:

  • Gweithgaredd adeiladu pontydd
  • Carwseli gyrfaoedd
  • Sgyrsiau am STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) mewn gwasanaethau boreol
  • Sesiynau opsiynau

Maent hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth agos ag Ysgol Gyfun y Bont-faen. Yma maent wedi cyflwyno amrywiaeth o ddigwyddiadau ymgysylltu â gyrfaoedd.

Codi ymwybyddiaeth

Mae Viridor hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol. Maent yn addysgu myfyrwyr am y broses o drosi gwastraff yn ynni.

Fe wnaethant hefyd ddatblygu sesiwn i ysgolion cynradd ar gyfer Digwyddiad Darganfod Gyrfaoedd Gyrfa Cymru.

Mae cynghorydd cyswllt busnes Gyrfa Cymru, Geraldine Doyle, yn gweithio’n agos gyda Viridor.

Dywedodd Geraldine: “Mae’r tîm yn Viridor yn angerddol iawn am godi ymwybyddiaeth. Maent yn dangos i bobl ifanc sut y gallant gymryd rhan yn y gwaith y maent yn ei wneud yng Nghymru.

Maen nhw’n darparu sesiynau difyr ac ymweliadau safle i egluro’r prosesau maen nhw’n eu defnyddio. Maen nhw hefyd yn gwneud yn siŵr bod disgyblion yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn y diwydiant.”

Ennill Gwobr

Cyflwynwyd Gwobr Partner Gwerthfawr i Viridor gan Gyrfa Cymru ym mis Tachwedd 2022.

Derbyniodd Eamonn Scullion o Viridor y wobr am y Cymorth Mwyaf Arloesol.

Eamonn yw swyddog canolfan ymwelwyr a buddion cymunedol y cwmni. Dywedodd Eamonn: “Mae’n anrhydedd fawr iawn cael gwobr fel hon. Mae’r gwaith y mae Viridor yn ei wneud gydag ysgolion yn rhoi boddhad mawr i ni. Rydyn ni'n cael gweithio gydag ysgolion sy'n lleol i'n cyfleuster a hefyd ar draws de Cymru.

“Mae rhan o’r gwaith hwnnw yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth disgyblion o brosesau gwyddonol uwch-dechnoleg sy’n trawsnewid eu gwastraff yn drydan.  Rydyn ni’n darparu map trywydd clir i ddisgyblion ar gyfer gweithio mewn diwydiannau uwch-dechnoleg sy’n eithaf lleol iddyn nhw.”