Mae BBC Studios a BBC Cymru Wales wedi bod yn gweithio gydag Ysgol Uwchradd Willows yng Nghaerdydd ers pedair blynedd. Maent yn bartner gwerthfawr ysgol ac yn trefnu gwahanol weithgareddau ar gyfer disgyblion.
Effaith gadarnhaol
Dros y blynyddoedd, mae BBC Studios a BBC Cymru Wales wedi cynorthwyo gweithgareddau, gan gynnwys:
- Ymweliad â BBC Studios ym Mhorth y Rhath ar gyfer sesiwn gyrfaoedd a thaith o amgylch y set
- Gweithdai ysgrifennu sgriptiau lle bu myfyrwyr yn ysgrifennu golygfeydd agoriadol ar gyfer y rhaglen deledu Casualty
- Trafodaeth banel gydag actorion a chynhyrchydd Casualty
- Gweithdai gwisgoedd a cholur dan arweiniad staff y BBC
- Ymweliad gyrfaoedd â chanolfan gyfryngau BBC Cymru Wales, yn cynnwys sesiwn rwydweithio cyflym
- Sgwrs ynghylch gyrfaoedd gyda'r newyddiadurwr Garry Owen
Partner Gwerthfawr Ysgol
Mae staff y BBC yn gweithio'n agos gydag athrawon er mwyn sicrhau bod y gweithgareddau'n cysylltu â gwersi. Maent yn cynllunio digwyddiadau i gyd-fynd ag amserlen yr ysgol a chynyrchiadau'r BBC.
Mae'r BBC wedi bod yn ‘Bartner Gwerthfawr' ardderchog i'n hysgol. Rydym wedi meithrin perthynas waith effeithiol lle rydym yn ymweld â’r stiwdios yn rheolaidd, ac maent yn ymweld â’n hystafell ddosbarth i gynnal gweithdai.
“Hoffem ddiolch i Gyrfa Cymru am eu gwaith caled parhaus, eu cyswllt a’u hymroddiad i ddarparu cysylltiadau a chyfleoedd mewn amrywiaeth o ddiwydiannau. Mae hwn yn ffactor hollbwysig wrth godi dyheadau pobl ifanc ar draws y ddinas.”
Kelly Bubbins, Dirprwy Bennaeth Ysgol Uwchradd Willows
Enillwyr gwobr
Cyflwynodd Gyrfa Cymru Wobr Partner Gwerthfawr i BBC Studios a BBC Cymru Wales ym mis Ionawr 2025. Enillon nhw yn y categori Y Berthynas Barhaus Orau ag Ysgol.
Mae Adrian Cole yn gynghorydd cyswllt busnes Gyrfa Cymru. Mae’n gweithio gyda’r ysgol, BBC Studios a BBC Cymru Wales.
Mae BBC Studios a BBC Cymru Wales yn bartneriaid gwerthfawr ysgol gwych i Ysgol Uwchradd Willows yng Nghaerdydd. Maent yn darparu gwahanol weithgareddau bob blwyddyn, ac yn gwella’r gydberthynas hon yn barhaus.”
Adrian Cole, gynghorydd cyswllt busnes Gyrfa Cymru
Archwilio
Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.
Dysgwch sut y gallwn eich cefnogi i weithio gydag ysgolion er budd dysgwyr a'ch sefydliad.
Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn ffordd i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau a fu’n gweithio gyda ni ac yn rhan hanfodol o gefnogi ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith.