Cwmni gwresogi a phlymio ym Mhontardawe yw Westward Energy Services. Maen nhw wedi cefnogi pobl ifanc trwy brofiad gwaith, gan gynnig sgiliau gwaith defnyddiol.
Gweithio gyda Gyrfa Cymru
Ar ôl cysylltu â Gyrfa Cymru, ymunodd y cwmni â’r Rhaglen Profiad Gwaith wedi’i Deilwra. Mae’r prosiect hwn yn cynorthwyo dysgwyr Blynyddoedd 10 ac 11 a allai golli diddordeb yn yr ysgol. Mae’n eu cysylltu â chyflogwyr lleol, cefnogol.
Ers hynny, mae Westward Energy Services wedi:
- Helpu dau ddisgybl i gwblhau lleoliadau, gyda thrydydd disgybl yn dechrau yn fuan
- Cynnal ffug-gyfweliadau i helpu disgyblion i deimlo’n barod am gyfweliadau swydd go iawn
- Cynnig lleoliadau wythnosol dros gyfnod o chwe wythnos i ffitio o amgylch yr ysgol
- Gwirio cynnydd drwy gynnal adolygiadau yn ystod y lleoliad a dathlu llwyddiant ar y diwedd
- Darparu cludiant i sicrhau bod disgyblion yn gallu mynychu
Cefnogi disgyblion â heriau
Mae Westward Energy Services yn mynd gam ymhellach i helpu disgyblion sy’n wynebu heriau.
- Stori Morgan. Mae Morgan yn ddisgybl Blwyddyn 10. Roedd ei bresenoldeb yn isel yn yr ysgol ac roedd yn wynebu rhai heriau eraill. Cefnogodd Andrew a’i dîm ef trwy gydol y lleoliad. Cwblhaodd Morgan y lleoliad gydag adborth gwych ac y mae nawr am astudio peirianneg.
- Stori Evan. Roedd Evan yn cael trafferth gyda chyfathrebu a hyder. Gwnaeth y tîm addasu i anghenion Evan. Cwblhaodd ei leoliad chwe wythnos a chynigiwyd swydd haf iddo. Helpodd hyn iddo deimlo’n fwy hyderus am y dyfodol.
Gwneud gwahaniaeth
Mae Westward Energy Services wedi helpu disgyblion i deimlo’n fwy hyderus a gobeithiol. Gorffennodd Morgan ac Evan eu lleoliadau gyda phresenoldeb perffaith. Enillon nhw sgiliau newydd a theimlent yn falch o’r hyn a gyflawnwyd ganddynt.
Ennill gwobr
Mae Gyrfa Cymru wedi cyflwyno Gwobr Partner Gwerthfawr i Westward Energy Services. Fe enillon nhw wobr y Cyflogwr Profiad Gwaith Mwyaf Cefnogol ym mis Ionawr 2025.
Rydym yn teimlo ei bod yn fraint ac yn anrhydedd derbyn y wobr hon. Fel cwmni rydym wedi ymrwymo i gynnig lleoliadau profiad gwaith sy’n helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc sy’n dod i mewn i’r gweithle. Rydym wedi gweld â’n llygaid ein hunain yr effaith ddofn y gall profiad gwaith ei chael ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Gyrfa Cymru i gynnig mwy o gyfleoedd profiad gwaith yn y dyfodol.”
Stuart Thomas, Cyfarwyddydd Gweithrediadau Westward Energy Service
Rwy’n credu’n gryf bod y canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd gan y ddau ddisgybl yn eu lleoliadau profiad gwaith i’w briodoli i’r meddwl, yr ystyriaeth a’r ymrwymiad a ddangosodd Westward wrth gynnig cyfleoedd profiad gwaith mor wych.”
Rebecca Thomas, Cynghorydd Cyswllt busnes Gyrfa Cymru
Archwilio

Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.

Dysgwch sut y gallwn eich cefnogi i weithio gydag ysgolion er budd dysgwyr a'ch sefydliad.

Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn ffordd i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau a fu’n gweithio gyda ni ac yn rhan hanfodol o gefnogi ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith.