Mae Canolfan S4C Yr Egin yn ganolfan greadigol a digidol yn Sir Gaerfyrddin. Maent yn hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, ac yn amlygu’r ffaith ei bod yn sgìl gwerthfawr i gyflogwyr.
Gweithio gyda Gyrfa Cymru
Mae Canolfan S4C Yr Egin wedi gweithio gyda Gyrfa Cymru er mwyn cefnogi ysgolion yn ne-orllewin Cymru.
Maent wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â chyflogwyr yn Gymraeg, gan gynnwys:
- Ffug-gyfweliadau
- Cyflwyniadau ar yrfaoedd
- Gweithgareddau cyfoethogi'r cwricwlwm
Maent hefyd yn bartner gwerthfawr ysgol i ddwy ysgol yn Sir Gaerfyrddin. Mae un o’r rhain yn ysgol Gymraeg. Mae'r holl gefnogaeth i'r ysgol hon yn cael ei chyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Canolfan S4C Yr Egin hefyd yn cefnogi mentrau darparu digidol Gyrfa Cymru. Maent wedi cyfrannu at brosiectau Cymraeg a Saesneg. Mae hyn yn cynnwys ymgyrchoedd fel Wythnos Darganfod Gyrfaoedd a digwyddiadau ar-lein eraill.
Swyddi creadigol digidol
Cydweithiodd Canolfan S4C Yr Egin â Gyrfa Cymru i gynnal digwyddiad “Cipolwg ar y Diwydiannau Creadigol Digidol”. Aeth disgyblion o dair ysgol Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin i’r digwyddiad a gynhaliwyd yn y ganolfan.
Cymerodd dysgwyr Blwyddyn 12 ran mewn gweithdai a gynhaliwyd yn Gymraeg gan gwmnïau yn y sector digidol. Nod y digwyddiad oedd dangos pa mor ddefnyddiol yw'r Gymraeg yn y swyddi hyn.
Enillwyr gwobr
Cyflwynodd Gyrfa Cymru Wobr Partner Gwerthfawr i’r cwmni ym mis Ionawr 2025. Enillodd Canolfan S4C Yr Egin wobr ‘Hyrwyddwr Gorau’r Gymraeg yn y Gweithle’.
Mae ennill y wobr hon yn golygu llawer iawn i ni, wrth i ni weithio’n agos gyda Gyrfa Cymru i ymgysylltu pobl ifanc â byd gwaith. Nhw yw dyfodol y gweithle, ac mae’n hanfodol ein bod yn neilltuo amser ac yn rhannu ein harbenigedd i helpu i’w datblygu’n weithwyr proffesiynol medrus ar gyfer y diwydiant. Yn S4C Yr Egin, rydym yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg bob dydd, felly mae’n wych arddangos hyn i fyfyrwyr ac amlygu pwysigrwydd y Gymraeg yn ein diwydiant.”
Llinos Jones, Rheolydd Ymgysylltu Canolfan S4C Yr Egin
Mae cynghorydd cyswllt busnes Gyrfa Cymru, Aled Evans, yn gweithio gyda Chanolfan S4C Yr Egin.
Mae Canolfan S4C Yr Egin wedi gwneud llawer i hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle. Trwy weithio gydag ysgolion, cynnal digwyddiadau, a meithrin partneriaethau, maen nhw’n dangos i bobl ifanc pa mor werthfawr yw sgiliau Cymraeg a hwythau’n dechrau eu gyrfaoedd.
Aled Evans, Cynghorydd Cyswllt Busnes, Gyrfa Cymru
Archwilio

Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.

Dysgwch sut y gallwn eich cefnogi i weithio gydag ysgolion er budd dysgwyr a'ch sefydliad.

Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn ffordd i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau a fu’n gweithio gyda ni ac yn rhan hanfodol o gefnogi ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith.