Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Zara

Zara

Gwnaeth cymorth gyrfa helpu Zara i sicrhau prentisiaeth mecaneg.

Mae Zara o Wynedd ac roedd yn gwybod ei bod hi eisiau gyrfa mewn mecaneg ar ôl gorffen ei harholiadau TGAU. Fodd bynnag, nid oedd hi’n siŵr sut i gyflawni hyn.

Dywedodd: “Roeddwn i’n teimlo’n ansicr ynglŷn â pha opsiynau oedd gen i. Roeddwn i’n gwybod beth roeddwn i eisiau ei wneud, ond yn ansicr o’r broses i allu ei wneud.”

Archwilio opsiynau

Cyfarfu Zara â Fiona, cynghorydd Gyrfa Cymru sy’n gweithio yn ei hysgol, i drafod ei diddordebau a’i chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Roedd hi wedi ystyried sawl gyrfa wahanol dros y blynyddoedd. Fodd bynnag, ar ôl cwblhau profiad gwaith mewn garej leol, dechreuodd ymddiddori mewn gyrfa fel mecanig.

Siaradodd Zara a Fiona am yr heriau o weithio mewn diwydiant sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion. Fe wnaethon nhw hefyd siarad am werth cael mwy o fenywod mewn mecaneg a pheirianneg.

Dywedodd Zara: “Helpodd Fiona fi i ddarganfod pa gwrs y gallwn i ei wneud a sut y gallwn i wneud cais amdano. Fe wnaethon ni gydweithio ar wahanol opsiynau ac edrych ar leoedd lle gallwn i wneud y cwrs roeddwn i eisiau ei wneud.”

O brofiad gwaith i brentisiaeth

Anogodd Fiona Zara i ddechrau edrych ar gyfleoedd i wneud prentisiaeth yn gynnar. Cynghorodd hi i gysylltu â garejys lleol yn uniongyrchol.

Cysylltodd Zara eto â Morfa Garage, lle roedd hi wedi bod ar brofiad gwaith. Gofynnodd iddynt am gyfleoedd prentisiaeth. Roedd hi wrth ei bodd wedyn i gael cynnig lleoliad yno.

Ochr yn ochr â’i phrentisiaeth, mae Zara yn bwriadu astudio yn y coleg yn Llangefni.

Dywedodd Zara: “Gwnaeth Fiona fi’n fwy hyderus ac roedd hi bob amser yn rhoi sicrwydd i mi pan oeddwn i’n cael trafferth gyda’r hyn roeddwn i eisiau ei wneud.”

Teimlo’n barod am yr hyn sydd nesaf

Dywedodd Zara: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau fy mhrentisiaeth ar ôl diwrnod y canlyniadau.

“Rwy’n teimlo’n gyfforddus ac yn hapus iawn am y cynlluniau rydw i wedi’u gwneud ac yn teimlo fy mod i rwan yn gwybod beth rydw i’n ei wneud.”

Mae hi’n annog pobl ifanc eraill i beidio â phoeni os ydyn nhw’n ansicr ynghylch eu canlyniadau neu eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Zara: “Mae’n iawn. Fe wnaethoch chi eich gorau a dyna’r cyfan sy’n bwysig. Os oes angen, gallwch chi bob amser ailsefyll y rhai rydych chi eu heisiau.”

“Nid yw eich TGAU yn eich diffinio fel person. Dim ond llythyren ydy o ar ddiwedd y dydd. Cyn belled â’ch bod chi’n hapus ac yn angerddol am yr hyn rydych chi’n ei wneud, does dim ots."

Os hoffech chi drafod eich diddordebau a’ch cyfleoedd â chynghorydd gyrfa cysylltwch â ni heddiw.

Archwiliwch

Beth yw Prentisiaeth?

Mae prentisiaeth yn swydd lle rydych chi'n ennill cymwysterau cydnabyddedig tra byddwch chi'n gweithio. Dysgwch am gymhwysedd, cyflog, gwybodaeth am hyfforddiant a'r amrywiaeth o brentisiaethau sydd ar gael.

Cyflogwyr sy'n cynnig Prentisiaethau

Archwiliwch ein rhestr o gwmnïau mwy sy'n cynnig prentisiaethau yng Nghymru. Mae ystod eang o brentisiaethau gwag yn cael eu hysbysebu ar wahanol adegau o'r flwyddyn.