Rhoddodd cynghorydd gyrfa yr ysgol hyder i Jack ddilyn ei frwdfrydedd.
Pan gyfarfu Jack â’i gynghorydd gyrfa, Tom, am y tro cyntaf, roedd yn dal i feddwl am sut fyddai ei ddyfodol.
Daeth Jack, sy’n awtistig ac sydd ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, ar draws Tom mewn gwers cydraddoldeb ac amrywiaeth yn yr ysgol. Yn dilyn hyn, llenwodd Jack arolwg ac yna cynigiwyd sesiwn gyrfaoedd personol iddo gyda Tom.
Man cychwyn
Yn ei apwyntiad cyntaf, canolbwyntiodd y sgwrs ar ddiddordebau Jack a pha opsiynau a allai fod ar gael iddo ar ôl gorffen yn yr ysgol.
Dywedodd, “Gwnaethon ni siarad am fy nyfodol a’r hyn roeddwn i’n mynd i’w wneud. Dywedais wrth Tom fod gen i ddiddordeb mawr mewn pethau fel y cyfryngau a newyddiaduraeth chwaraeon.
“Gwnaethon ni siarad am wahanol lwybrau, gan gynnwys cyrsiau, gofynion mynediad a gradd. Gwnaethon ni edrych ar beth allai fy nghamau fod.”
Magu hyder
Dros amser, daeth y sgyrsiau hynny i ymwneud â mwy na chyrsiau a chymwysterau yn unig. I Jack, roedd cael rhywun i drafod pethau yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Mae’n esbonio sut y gwnaeth y gefnogaeth ei helpu i agor lan, “Roeddwn i’n teimlo bod y sesiynau’n ddefnyddiol mewn cymaint o ffyrdd. “Gwnes i ddod o hyd i ychydig yn fwy o fy hyder.
“Helpodd fi i wir allu mynd i siarad â phobl yn fwy agored a thrafod pethau na fyddwn i wedi’u gwneud cyn i mi gwrdd â Tom.
“Os nad oeddwn i’n gwybod beth oedd fy ngham nesaf, gallwn i fynd at Tom. Mae’n braf adnabod rhywun y gallwn i siarad gyda fe ar frys am y pethau hynny.”
Edrych tua’r dyfodol
Wrth i Jack ddechrau meddwl mwy am fywyd ar ôl arholiadau, cynyddodd ei hyder yn y dyfodol.
Mae bellach yn teimlo’n barod i symud ymlaen a gweld i ble y gallai’r dewisiadau hynny ei arwain.
“Rwy’n teimlo’n hyderus iawn i gymryd fy nghamau nesaf ar ôl fy arholiadau. Rwy’n barod i fynd ymlaen at fy nghamau nesaf a gweld beth all bywyd ei gynnig.”
Gyda chefnogaeth Tom, mae Jack wedi gallu archwilio mwy nag un opsiwn, gan gadw ei ddyfodol yn hyblyg wrth barhau i ganolbwyntio ar ei ddiddordebau.
Eglurodd, “Rydw i wedi gwneud cais am gwrs lefel 2 yn y cyfryngau, a fydd yn fuddiol i swydd mewn newyddiaduraeth chwaraeon yn y dyfodol, gobeithio.
“Neu os nad yw hynny’n gweithio allan, rydw i wedi penderfynu y gallai peintio ac addurno fod yn llwybr yr hoffwn i ei ddilyn.”
Cyngor i eraill
Wrth fyfyrio ar ei brofiad, dywed Jack mai’r newid mwyaf yw pa mor hyderus y mae bellach yn teimlo ynglŷn â siarad â phobl a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
“Rwy’n teimlo cymaint yn fwy hyderus i siarad yn agored â phobl. “Rwy’n teimlo fy mod i’n barod ar gyfer y dyfodol, a gallaf i fynd i gyfweliadau a phethau fel hynny.”
Cysylltodd Jack hyd yn oed â chlybiau pêl-droed lleol i gael rhywfaint o brofiad gwirfoddol. O ganlyniad, ysgrifennodd adroddiad ar gêm bêl-droed leol fel awdur gwadd i’r Rhyl Journal.
I bobl ifanc eraill a allai fod yn ansicr ynghylch gofyn am gymorth, mae cyngor Jack yn syml.
“Os nad ydyn nhw’n hyderus yn yr hyn maen nhw’n mynd i’w wneud yn y dyfodol, neu hyd yn oed os ydyn nhw yn hyderus, byddwn i’n dal i’w hannog nhw i fynd at Tom. Mae’n bendant yn werth chweil, dim ond i gael y sicrwydd hwnnw i wybod beth rydych chi’n mynd i’w wneud yn eich camau nesaf.”
Os hoffech chi archwilio’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Archwiliwch opsiynau dysgu a gyrfaoedd ar ôl eich TGAU.
Sicrhewch fod gwybodaeth, adnoddau ac awgrymiadau gyda chi i helpu'ch plentyn i wneud penderfyniadau gyrfa a dysgu mwy am y gefnogaeth a gynigir gennym wrth i'ch plentyn fynd o addysg i gyflogaeth.
Os hoffech chi siarad â ni, cysylltwch â ni i gael mwy o help a chymorth