Gyda chymorth gyrfa wedi’i deilwra, teimlai Jude ei fod yn cael ei ddeall ac mae’n bositif am ei ddyfodol.
Daeth Lucy yn ymwybodol o gymorth gyrfa yn gyntaf pan oedd ei mab, Jude, mewn addysg ôl-16.
Roedd Jude, sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, eisoes wedi cwrdd ag Alison, y cynghorydd gyrfa, drwy’r ysgol.
Dros amser, dechreuodd Lucy ddeall pa mor werthfawr oedd cymorth gyrfa cyson i’w mab.
Y cymorth cywir ar yr amser cywir
Wrth i Jude fynd yn hŷn, roedd ei adolygiadau blynyddol yn dechrau canolbwyntio mwy ar ei baratoi i fod yn oedolyn, a daeth rôl Alison i’r amlwg yn fwy. Helpodd hyn bawb i lunio darlun cliriach o’r hyn a fyddai a’r hyn na fyddai yn gweithio i Jude.
“Gwnaeth Alison ei ddeall yn eithaf cyflym,” meddai Lucy. “Mae hi wedi deall ei fod yn hoff iawn o fod allan yn yr awyr agored. Dydy e ddim yn academaidd iawn, ond mae e’n ymarferol iawn.”
Mae gan Jude syniadau clir iawn am yr hyn y mae’n ei fwynhau a’r hyn nad yw’n ei fwynhau, rhywbeth yr oedd Alison yn ei barchu o’r cychwyn cyntaf. “Bydd e’n dweud yn syth a fydd e’n fodlon gwneud rhywbeth ai peidio,” chwarddodd Lucy. “Felly sylweddolodd Alison yn eithaf cyflym fod angen iddi weithio gyda’r hyn a oedd yn ei gymell.”
Pwysigrwydd gwrando
Un peth a oedd yn amlwg i Lucy a Jude oedd pa mor ofalus yr oedd Alison yn gwrando.
Mae Lucy yn cofio, “Os oedd e’n dweud wrthi nad oedd e eisiau gwneud rhywbeth, fyddai hi ddim yn ei orfodi. Gwrandawodd hi ar yr hyn yr oedd e eisiau ei wneud a dod o hyd i rywbeth oedd yn addas iddo.”
Mae Jude yn cytuno, “Roedd y sesiynau yn dda. Mae Alison yn gyfeillgar iawn, ac mae hi’n gwrando.”
Gan fod Alison yn deall cariad Jude at feicio mynydd a bod yn yr awyr agored, canolbwyntiodd ar gyfleoedd a oedd yn cyd-fynd â’r diddordebau hynny. Ar ôl diystyru opsiynau nad oeddent yn iawn, gan gynnwys canolfannau awyr agored sy’n cynnwys chwaraeon dŵr, cysylltodd Alison â busnesau lleol sy’n gysylltiedig â beiciau i chwilio am brofiadau gwaith.
Magu hyder trwy brofiad gwaith
Yn hydref 2025, dechreuodd Jude brofiad gwaith yn Alpkit, siop feiciau awyr agored. Treuliodd un diwrnod yr wythnos yn gweithio ochr yn ochr â mecanig beiciau. Yn fuan ar ôl i’r staff weld pa mor dda yr oedd yn ffitio i mewn, trodd yr hyn a ddechreuodd fel tair wythnos yn bump wythnos.
“Roedden nhw’n falch iawn ohono,” eglurodd Lucy. “Fe wnaethon nhw hyd yn oed gysylltu ag Alison i ddweud, os oedd ganddyn nhw ddigon o waith, y gallai ddod yn ôl eto yn y gwanwyn.”
I Jude, gwnaeth y profiad wahaniaeth gwirioneddol. Roedd yn arbennig o hoff o wneud gwaith ymarferol. “Dysgais i lwyth o bethau,” meddai.
“Fe helpais i werthu rhai beiciau, a golchi beiciau. Gwnes i lwyth o bethau gwahanol. Roedden nhw hefyd yn gyfeillgar iawn.”
Ychwanegodd Lucy, “Roedd e’n cael gwneud pethau nid dim ond sefyll a gwylio. Doeddwn i ddim yn poeni amdano yno. Roedd yn teimlo bron fel rhan o’r tîm yno.”
Edrych tua’r dyfodol gyda chymorth a sicrwydd
Er bod Jude yn dal i bwyso a mesur ei gamau nesaf, mae Alison wedi parhau i’w helpu trwy gysylltu â cholegau ac ystyried opsiynau realistig sy’n cyd-fynd â chryfderau a diddordebau Jude. Yn ddiweddar, cafodd Jude ei dderbyn ar gwrs lefel mynediad yng Ngholeg Llysfasi.
Mae Lucy yn teimlo’n dawel ei meddwl gan wybod nad ydyn nhw’n llywio’r dyfodol ar eu pen eu hunain.
“Mae’n anodd pan fyddwch chi’n syrthio rhwng dwy stôl, pan nad ydych chi’n addas ar gyfer sgiliau byw’n annibynnol, ond nad ydych chi’n academaidd chwaith,” eglurodd Lucy. “Ond mae’n helpu’n fawr cael rhywun sy’n deall hynny ac yn gofalu am Jude.”
I Lucy, y fantais fwyaf fu gwybod bod rhywun arall yn deall Jude fel unigolyn.
“Does gennych chi ddim byd i’w golli, mewn gwirionedd,” meddai hi. “Mae’r gyngor am ddim, ac maen nhw’n gwybod am bethau nad ydych chi’n eu gwybod. Mae’n braf cael rhywun arall yn gofalu amdanoch chi.”
Os hoffech chi gael gwybod mwy am sut y gallai cynghorydd gyrfa helpu unigolyn ifanc yn eich gofal, cysylltwch â ni heddiw.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Defnyddiwch Fy Nyfodol i gael gwybodaeth gyrfaoedd hawdd ei darllen. Dysgwch am wahanol swyddi. Cael help i archwilio eich syniadau gyrfa a phenderfynu ar eich camau nesaf.
Sicrhewch fod gwybodaeth, adnoddau ac awgrymiadau gyda chi i helpu'ch plentyn i wneud penderfyniadau gyrfa a dysgu mwy am y gefnogaeth a gynigir gennym wrth i'ch plentyn fynd o addysg i gyflogaeth.
Os hoffech chi siarad â ni, cysylltwch â ni i gael mwy o help a chymorth