Mae Morlais yn brosiect ynni adnewyddadwy sy’n canolbwyntio ar ynni’r llanw. Maent yn gweithio gydag ysgolion i dynnu sylw dysgwyr at swyddi a chyfleoedd i bobl leol.
Cefnogi ysgolion
Fiona Parry yw swyddog sgiliau a hyfforddiant Morlais. Mae hi wedi helpu i ysbrydoli pobl ifanc a chefnogi ysgolion. Ers 2023, mae Morlais wedi cefnogi llawer o weithgareddau gan gynnwys:
- Digwyddiadau carwsél gyrfaoedd
- Gweithdai
- Digwyddiad Gyrfa Cymru ‘Beth Nesaf? Dewiswch Eich Dyfodol’
- Ffair yrfaoedd ‘Dewiswch Eich Dyfodol’ yn 2023
- Mae Morlais hefyd yn Bartner Gwerthfawr Ysgol gydag Ysgol Uwchradd Caergybi
Digwyddiad i athrawon
Yn ystod haf 2024, arweiniodd Fiona ddigwyddiad i athrawon yn Ysgol Uwchradd Caergybi. Gwyliodd dros 50 o athrawon y cyflwyniad.
Yn ystod y digwyddiad hwn, esboniodd Fiona:
- Nodau Morlais
- Cyfleoedd gyrfa lleol mewn ynni adnewyddadwy
- Sut i gysylltu gwersi â swyddi byd go iawn
Rhoddodd Fiona y cyflwyniad hwn eto mewn digwyddiad i athrawon holl ysgolion Ynys Môn. Ei nod oedd eu helpu i ddeall y cyfleoedd yn niwydiannau ffyniannus gogledd Cymru.
Prosiectau cyfredol
Ar hyn o bryd, mae Fiona yn helpu myfyrwyr TGAU i ddylunio ac adeiladu tyrbin cludadwy. Mae Fiona yn trefnu ymweliad ag is-orsaf leol i weld sut mae ynni’r llanw yn cynhyrchu trydan.
Mae Fiona yn rhugl yn y Gymraeg. Mae hi bob amser yn amlygu pwysigrwydd y Gymraeg fel sgil ychwanegol yn y gweithle.
Enillwyr gwobr
Enillodd Morlais Wobr Partner Gwerthfawr ym mis Ionawr 2025 am y Newydd-ddyfodiad Gorau.
“Dechreuais i weithio gyda Fiona yn 2023. Mae hi’n teimlo’n angerddol am hyrwyddo gyrfaoedd o fewn y sector ynni adnewyddadwy. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae Fiona wedi gwneud ei marc. Mae hi wedi ymroi i gefnogi ysgolion a hyrwyddo’r math yma o waith.”
John Lewis Edwards, gynghorydd cyswllt busnes gyda Gyrfa Cymru.
Explore
Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn ffordd i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau a fu’n gweithio gyda ni ac yn rhan hanfodol o gefnogi ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith.
Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.
Dysgwch sut y gallwn eich cefnogi i weithio gydag ysgolion er budd dysgwyr a'ch sefydliad.