Catrin Leader yw Arweinydd Addysg Bute Energy. Mae hi wedi cefnogi llawer o ysgolion ar draws Powys a de Cymru.
Mae Catrin wedi darparu addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith mewn ysgolion uwchradd prif ffrwd. Mae hi hefyd wedi cefnogi uned cyfeirio disgyblion ac ysgol anghenion dysgu ychwanegol.
Effaith eang
Mae’r gweithgareddau y mae Catrin wedi’u cefnogi yn yr ysgolion hyn yn cynnwys:
- Cyflwyniadau ystafell ddosbarth
- Gweithdai
- Sgyrsiau mewn gwasanaethau
- Adeiladu tîm
- Ffug-gyfweliadau
- Digwyddiadau ‘cwrdd â’r cyflogwr’
- Digwyddiadau ‘Merched mewn STEM’ (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg)
- Digwyddiadau ‘Cymraeg yn y Gweithle’
- Digwyddiadau carwsél
- Ffeiriau gyrfa effaith uchel
Mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau
Mae Catrin yn defnyddio cwisiau rhyngweithiol i ymgysylltu â disgyblion a rhannu gwybodaeth gyrfa. Mae hi’n codi ymwybyddiaeth o sero net, ynni gwyrdd a chynaliadwyedd.
Gwahoddwyd dwy o gydweithwyr Catrin i gymryd rhan mewn ffug-gyfweliadau ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 4. Fe wnaethon nhw rannu’r hyn maen nhw’n ei wneud yn eu rolau, a’r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael yn Bute Energy. Helpodd hyn y disgyblion i deimlo’n fwy hyderus ac ysbrydoledig am eu cyfleoedd yn y dyfodol.
Yn 2024, cefnogodd Catrin gyfanswm o 18 ysgol ar draws y Canolbarth a chanol de Cymru.
Ennill gwobr
Rhoddodd Gyrfa Cymru Wobr Partner Gwerthfawr i Catrin ym mis Ionawr 2025. Enillodd y wobr am Gyfraniad Personol Eithriadol.
Mae’n anrhydedd cael fy enwebu a derbyn y wobr hon. Mae bob amser yn bleser ac yn fraint ymweld ag ysgolion a chefnogi gwaith gwych Gyrfa Cymru wrth arddangos yr ystod eang o opsiynau gyrfa sydd ar gael i bobl ifanc.
Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn wirioneddol angerddol yn ei gylch yn Bute Energy. Mae cydweithwyr bob amser yn awyddus i gefnogi gweithgareddau addysgol a rhannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd. Rwy’n edrych ymlaen at barhau â’n partneriaeth â Gyrfa Cymru a pharhau i gefnogi eu digwyddiadau yn y dyfodol.”
Catrin Leader, Arweinydd Addysg Bute Energy
“Mae perthynas weithredol Catrin ag ysgolion wedi helpu i newid agweddau disgyblion a dylanwadu’n gadarnhaol ar eu cynlluniau gyrfa.
Mae’r digwyddiadau hyn wedi helpu’r bobl ifanc i wneud cysylltiadau gwerthfawr rhwng eu gwersi a byd gwaith.”
Sam Barker, Cynghorydd Cyswllt Busnes gyda Gyrfa Cymru
Archwilio

Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.

Dysgwch sut y gallwn eich cefnogi i weithio gydag ysgolion er budd dysgwyr a'ch sefydliad.

Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn ffordd i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau a fu’n gweithio gyda ni ac yn rhan hanfodol o gefnogi ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith.