Ymateb i bostiad ar gyfryngau cymdeithasol yn arwain at gyfle profiad gwaith gwerthfawr.
Lisa Standley yw perchennog Cottage Coppicing, siop grefftau pren draddodiadol yng Nghaerllion. Sefydlodd Cottage Coppicing 11 mlynedd yn ôl.
Mae Lisa yn gwneud anrhegion personol yn ei gweithdy fel llyfrnodau pren, addurniadau neu gylchoedd allweddi. Daw’r holl bren y mae’n ei ddefnyddio o leoedd sy’n gofalu am goedwigoedd, neu o fusnesau sydd wedi’u hardystio gan FSC (Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd).
Ar ôl dod ar draws postiad ar gyfryngau cymdeithasol, gwnaeth Lisa gysylltu â Gyrfa Cymru i gynnig ei chefnogaeth. Arweiniodd a helpodd ddysgwr ifanc i ddilyn ei ddiddordeb mewn gwaith coed.
Dod o hyd i ffordd
Roedd dysgwr ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Caerllion wedi datblygu diddordeb brwd mewn gwaith coed wrth astudio dylunio a thechnoleg. Darparodd Lisa amgylchedd diogel i feithrin y person ifanc hwn trwy gynnig profiad gwaith yn ei gweithdy.
Roedd y gweithdy bedair milltir o'r ysgol. I gyrraedd yno byddai'r dysgwr wedi gorfod cymryd dau fws. Gweithiodd Lisa gydag iechyd a diogelwch, yr ysgol, a rhieni'r myfyriwr i drefnu taith uniongyrchol iddo.
Roedd Lisa wedi ymrwymo i'w ddatblygiad. Chwaraeodd rôl arwyddocaol fel mentor cefnogol a gofalgar.
Profiad cyfoethog
Roedd y lleoliad yn flwyddyn o hyd. Gwnaeth Lisa yn siŵr fod y person ifanc yn gallu cael cymaint o brofiad â phosibl. Cynigiodd hi gymysgedd o ddysgu trwy wylio a rhoi cynnig ar bethau ei hunan.
O ganlyniad, datblygodd y dysgwr sgiliau gwaith coed a oedd yn caniatáu iddo gyflawni tasgau ar ei ben ei hun.
Enillydd gwobr
Daeth ymroddiad Lisa a chynnydd y myfyriwr i sylw eraill. Cydnabu Gyrfa Cymru ymrwymiad Lisa ym mis Tachwedd 2023 a chyflwynodd Wobr Partner Gwerthfawr iddi. Enillodd Cottage Coppicing y wobr am Y Cyflogwr Profiad Gwaith Mwyaf Cefnogol.
Amlygodd y wobr hon yr effaith sylweddol a gafodd Lisa ar lunio gyrfa a dyfodol person ifanc.
Dywedodd Lisa, "Mae’n gyfnod anodd i blant – maen nhw’n wynebu heriau na wnaethon ni erioed pan oedden ni yr un oed â nhw. Rwy’n hapus y gallaf helpu drwy gynnig profiad gwaith y maent yn ei fwynhau, sydd ychydig yn wahanol ac sy’n eu harwain at lwybr gyrfa gwahanol.”
Mae cynghorydd cyswllt busnes Gyrfa Cymru, Yvonne Carroll, yn gweithio gyda Lisa. Dywedodd Yvonne, "Mae angerdd ac ymrwymiad Lisa yn dangos sut y gall un person wirioneddol ysbrydoli a llywio dyfodol y genhedlaeth nesaf."
Archwilio
Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.
Dysgwch sut y gallwn eich cefnogi i weithio gydag ysgolion er budd dysgwyr a'ch sefydliad.
Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn ffordd i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau a fu’n gweithio gyda ni ac yn rhan hanfodol o gefnogi ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith.