Mae Dr Meilyr Emrys yn Swyddog y Gymraeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’n gweithio gydag ysgolion yng Ngogledd Cymru i hyrwyddo’r Gymraeg.
Mae Meilyr yn ysbrydoli myfyrwyr i ddarganfod eu gallu i siarad Cymraeg. O ganlyniad, maen nhw’n magu hyder i ddefnyddio’r iaith.
Mae ymgysylltiad y myfyrwyr yn dyst i’w frwdfrydedd dros addysgu’r Gymraeg.
Yn bresennol mewn digwyddiadau gyrfaoedd
Mae Meilyr wedi bod mewn nifer o ddigwyddiadau i hybu’r Gymraeg, yn eu plith:
- Ffeiriau Gyrfaoedd/Prentisiaethau
- Digwyddiadau carwsél
- Digwyddiadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Cyflwyniadau Prentisiaethau
Ym mis Hydref 2023, aeth i ddwy ysgol ym mhob sir yn y Gogledd i gymryd rhan mewn sioe Gymraeg. Bu’n siarad â grwpiau mawr o fyfyrwyr mewn gwasanaethau ac â grwpiau llai mewn dosbarthiadau.
Hyrwyddo’r Gymraeg
Bu Meilyr yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r sefydliadau a’r swyddi lle mae’r Gymraeg yn hanfodol.
Bu’n egluro pwysigrwydd y Gymraeg ym myd gwaith a’r buddion o gael sgiliau Cymraeg.
Ym mhob digwyddiad, bu Meilyr yn ysbrydoli disgyblion i barhau i ddysgu Cymraeg. Gwnaeth eu helpu i deimlo’n hyderus yn siarad Cymraeg ar unrhyw lefel.
Enillydd gwobr
Cyflwynwyd Gwobr Partner Gwerthfawr i Meilyr gan Gyrfa Cymru ym mis Tachwedd 2023. Cafodd wobr fel Hyrwyddwr Gorau’r Gymraeg yn y Gweithle.
Meddai cynghorydd cyswllt busnes Gyrfa Cymru, Martin Webber, sy’n gweithio gyda Meilyr: “Mae Dr Emrys yn llawn haeddu’r wobr. Mae wedi gwneud gwaith anhygoel yn hyrwyddo’r Gymraeg ymhlith plant yn ogystal ag oedolion. Mae ei frwdfrydedd yn arbennig!”
Meddai Meilyr: “Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn, pan ydyn ni’n gweithio gydag ysgolion, i egluro i bobl ifanc bod siarad dim ond ychydig bach o Gymraeg yn golygu bod ganddyn nhw sgiliau dwyieithog sylfaenol, ac mae’n fantais enfawr iddyn nhw ac mae gwir werth ynddo.”
Archwilio
Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn ffordd i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau a fu’n gweithio gyda ni ac yn rhan hanfodol o gefnogi ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith.
Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.
Darganfyddwch fanteision dysgu Cymraeg a ble i ddysgu Cymraeg yn eich ardal.