Dros y 10 mlynedd diwethaf mae Bwydydd Castell Howell wedi rhoi llawer o gyfleoedd i ddysgwyr ddod i wybod am fyd gwaith.
Mae Bwydydd Castell Howell yn un o brif ddarparwyr gwasanaethau bwyd y Deyrnas Unedig. Mae nhw wedi cefnogi Gyrfa Cymru ac ysgolion ers degawd.
Maent wedi cefnogi gweithgareddau sy’n cynnwys:
- Ffug gyfweliadau
- Cyflwyniadau prentisiaeth
- Cyfoethogi’r cwricwlwm
- Ymweliadau safle i fyfyrwyr yn eu prif swyddfa a warws
Her Gyrfaoedd Blasus
Helpodd Bwydydd Castell Howell i gychwyn yr Her Gyrfaoedd Blasus yng Ngorllewin Cymru.
Roedd yr her hon yn cynnwys 14 o ysgolion a mwy na 900 o fyfyrwyr. Roedd yn gofyn i ddysgwyr wneud prydau iach gan ddefnyddio cynhyrchion lleol.
Nod y gystadleuaeth oedd amlygu cyfleoedd yn y diwydiant bwyd. Roedd hefyd yn helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau pwysig.
Ymunodd Bwydydd Castell Howell â busnesau lleol. Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw ddarparu gwobrau a noddi rownd derfynol yr Her Gyrfaoedd Blasus.
Wedi’r cystadlu, bu’r cwmni’n cydweithio ag ysgol Maes Y Gwendraeth. Gwnaethon nhw ddatblygu’r cynnyrch buddugol a’i ychwanegu at y cynnyrch sydd ganddynt i’w cynnig.
Enillwyr Gwobrau
Cyflwynodd Gyrfa Cymru Wobr Dengmlwyddiant Cyflawniad Eithriadol i Bwydydd Castell Howell.
Roedd y wobr yn cydnabod eu hymrwymiad eithriadol i gefnogi pobl ifanc yn eu cymuned.
Dywedodd Ed Morgan, Rheolydd Grŵp Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol a Hyfforddiant yn Castell Howell, “Mae’n anrhydedd gwirioneddol ennill Gwobr Partner Gwerthfawr Gyrfa Cymru. Mae cynifer o gwmnïau yn gwneud pethau gwych iawn, ac rydym yn un o lawer. Rydyn ni’n teimlo’n ffodus iawn i ennill.”
Mae cynghorydd ymgysylltu busnes Gyrfa Cymru, Aled Evans, yn gweithio gyda Bwydydd Castell Howell.
Dywedodd, “Does neb mwy haeddiannol fel enillydd y Wobr Dengmlwyddiant Cyflawniad Eithriadol na Bwydydd Castell Howell. Dros y blynyddoedd maent wedi croesawu newidiadau a phrosiectau newydd. Maen nhw hefyd yn annog busnesau eraill i weithio gyda ni i gefnogi ysgolion a dysgwyr.”
Archwilio
Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.
Dysgwch sut y gallwn eich cefnogi i weithio gydag ysgolion er budd dysgwyr a'ch sefydliad.
Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn ffordd i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau a fu’n gweithio gyda ni ac yn rhan hanfodol o gefnogi ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith.