Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

E-chwaraeon

4 esports players in a competition arena

Diddordeb mewn gemau cyfrifiadurol? Dysgwch am y sgiliau sydd eu hangen arnoch, a'r cyfleoedd gyrfa mewn e-chwaraeon.

Gemau fideo cystadleuol yw e-chwaraeon (chwaraeon electronig). Mae gan e-chwaraeon chwaraewyr proffesiynol, dyfarnwyr (a elwir hefyd yn weinyddwyr) ac asiantau fel unrhyw gamp. Ond mae llawer o gyfleoedd eraill ar gyfer gyrfaoedd a gwirfoddoli hefyd. 

Mae mwyafrif y bobl yn dechrau drwy ymuno â chymuned ar-lein ar gyfer gêm fideo. O'r fan honno cewch wybod am gystadlaethau, cynghreiriau a thwrnameintiau.

Y sgiliau rydych yn eu hennill drwy gymryd rhan mewn e-chwaraeon

Drwy gymryd rhan mewn e-chwaraeon byddwch yn ennill sgiliau gwerthfawr a all drosglwyddo i lawer o wahanol swyddi. Gallwch ychwanegu eich sgiliau e-chwaraeon neu eich sgiliau chwarae gemau fideo a'ch profiad ar eich CV a'ch ffurflenni cais. Gallwch siarad am y sgiliau rydych wedi'u hennill drwy e-chwaraeon a chwarae gemau fideo mewn cyfweliadau swydd.

Dyma rhai o'r sgiliau rydych chi'n eu hennill o e-chwaraeon:

  • Gwaith tîm
  • Cyfathrebu
  • Datrys problemau
  • Gwneud Penderfyniadau
  • Sgiliau TG
  • Sgiliau arwain
  • Gallu meddwl ac ymateb yn gyflym
  • Yn gallu arsylwi, dysgu gwybodaeth newydd, craffu, dod o hyd i batrymau, a chymhwyso'r hyn rydych chi'n ei wybod - sgiliau dadansoddol
  • Dyfalbarhad a hunanddisgyblaeth i ymarfer a gwella
  • Dysgu bownsio'n ôl o fethiant - gwydnwch
  • Defnyddio'ch dwylo'n fedrus - deheurwydd â llaw
  • Asesu sefyllfa'n glir a gallu meddwl a chynllunio ymlaen - meddwl yn strategol
  • Aml-dasgio

Cyfleoedd gyrfa e-chwaraeon

Mae e-chwaraeon yn tyfu'n gyflym ledled y byd ac yn y DU. Tyfodd y sector e-chwaraeon yn y DU o 8.5% rhwng 2016 a 2019. (Ffynhonnell - dolen Saesneg: UKIE). Nid chwaraewyr proffesiynol yn unig sy'n gallu cael gyrfa yn y diwydiant e-chwaraeon.

Isod mae rhai o'r rolau gyrfa sydd ar gael mewn e-chwaraeon:

Minecraft: Education Edition

Dolenni defnyddiol

(Mae rhai o'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig.)

Esports Wales - Cyngor a Gwybodaeth gan gynnwys dolenni i leoliadau chwarae gemau fideo yng Nghymru

Hwb - Gwybodaeth am Academi E-chwaraeon Minecraft Cymru ac yn paratoi i fod yn rhan o Gynghrair Minecraft E-chwaraeon Cymru

British Esports Association - Cyngor a gwybodaeth

Hitmarker - Safle swyddi chwarae gemau fideo ac e-chwaraeon

 

Archwilio