Athrawon a disgyblion, dysgwch am gystadlaethau e-chwaraeon yn Minecraft: Education Edition
Gallwch chi ddylunio, creu, adeiladu a chodio eich profiadau gêm eich hun o fewn 15 o wahanol fydoedd Minecraft. Cystadlwch ar eich pen eich hun neu fel rhan o dîm.
Mae yna 3 math gwahanol o gystadlaethau e-chwaraeon yn Minecraft: Education Edition:
1. Make and Model
Yn Make and Model mae e-chwaraeon yn gweithio mewn timau o 2 ac yn brwydro yn erbyn y cloc i ddylunio ac adeiladu gwrthrych.
Cymerwch ran mewn brwydrau adeiladu y tu mewn i arenâu y gellir eu hallforio i argraffwyr 3D.
Yna gall eich dosbarth bleidleisio am eu hoff wrthrych.
Ar ddiwedd y gwaith adeiladu, os oes gan eich ysgol fynediad i argraffydd 3D, argraffwch y dyluniadau ar ddiwedd y frwydr.
Dewiswch o’r 6 byd isod yn Make and Model:
- Pirate Cove - wedi'i osod ar long môr-ladron sydd wedi docio ar ynys
- Busy Bees - wedi'i gosod mewn gardd
- Gold Rush - wedi'i osod mewn tref gwaith aur
- 3D Print - wedi'i osod mewn gofod enfawr yn llawn argraffwyr 3D
- Space Race - wedi'i osod ar lleuad
- Splat Racer - wedi'i osod ar drac rasio ffantasi
2. Code 2 Create
Cymerwch ran mewn brwydrau adeiladu lle mae timau'n cystadlu drwy godio eu hadeiladau.
Cyfres o fydoedd echwaraeon Minecraft yw Code 2 Create sy'n ychwanegu tro codio at frwydrau adeiladu clasurol, gan ei gwneud yn ofynnol i dimau ddefnyddio codio bloc, JavaScript, neu Python yn unig i adeiladu.
Dewiswch o’r 7 byd yng nghyfres Code 2 Create:
- 3D Print
- Binary Builders
- Busy Bees
- Gold Rush
- Lost Library
- Pirate Cove
- Splat Racer
3. Creative Clash
Cystadlu a chydweithio ar gemau sy'n cynnwys strategaeth ac archwilio.
Yn Creative Clash ymgymerwch â rolau tîm a chydweithio i ennill cyfres o fydoedd e-chwaraeon Minecraft gyda gemau aml-chwaraewr heriol.
Dewiswch rhwng 2 fyd Creative Clash:
- Busy Bees - cystadlu i gasglu neithdar a pheillio'r ardd
- Speed Run - cystadlu i ddod o hyd i drysor cudd ar ynys bellenig
Ennill sgiliau o Minecraft: Education Edition e-chwaraeon
Gallwch ennill amrywiaeth o sgiliau drwy gymryd rhan yn Minecraft: Education Edition e-chwaraeon gan gynnwys:
- Gwaith tîm
- Creadigrwydd
- Sgiliau TG
- Strategaeth
Dysgwch fwy am Academi E-chwaraeon Minecraft Cymru a Chynghrair Cymru ar Hwb.
Darllenwch fwy ar e-chwaraeon i ddysgu am fwy o sgiliau y gallwch eu hennill, a'r cyfleoedd gyrfa o fewn e-chwaraeon.
Archwilio
Diddordeb mewn gemau cyfrifiadurol? Dysgwch am y sgiliau sydd eu hangen arnoch, a'r cyfleoedd gyrfa mewn e-chwaraeon.
Dysgwch sut mae dysgwyr yn gallu datblygu sgiliau gyrfaoedd wrth iddyn nhw edrych ar dirnodau yng Nghymru yn Minecraft.