Rydyn ni yn yr Eisteddfod - Dewch i’n gweld ni
Rydym yn hapus i fod yn dychwelyd i'r Eisteddfod Genedlaethol eleni! Dewch i'n stondin a siaradwch â Chynghorydd Gyrfa am eich syniadau a'ch opsiynau gyrfa.
Dyddiad: 5 - 12 Awst
Lleoliad: Boduan, Llŷn ac Eifionydd
Stondin: 229 - 230
Ein gweithgareddau
Bydd gennym wahanol weithgareddau ar ein stondin. Dewch i'n gweld a rhowch gynnig ar:
- Y Cwis Buzz
- Minecraft
- Propiau gwahanol a fframiau hunlun
- Lliwio taflenni, chwileiriau a chwisiau
- Chwarae gemau gwahanol fel Connect 4 a Noughts and Crosses
Rydym hefyd yn cynnal gweithdai cyflogwyr.
Dyddiad | Amser | Cyflogwr |
Dydd Llun 7 Awst | 11am | Gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol gyda Mared Huws, Pontio |
Dydd Llun 7 Awst | 2pm | Gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol gyda Lowri Cêt, Galeri |
Dydd Mawrth 8 Awst | 11am and 2pm | Gyrfaoedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol gyda Gwenno Williams a Fflur Huws, Cyngor Gwynedd |
Dydd Mercher 9 Awst | 11am and 2pm | Syniadau Mawr Cymru / Islwyn Jones, Hebogyddiaeth Pen y Bryn |
Dydd Iau 10 Awst | 11am | Gyrfaoedd mewn iechyd / Emma Jones, sesiwn ioga Llifo'n Llawen |
Dydd Iau 10 Awst | 2pm | Gyrfaoedd mewn darlledu / Liam Evans, gohebydd Newyddion y BBC |
Dathlu gyda ni
Helpwch Gyrfa Cymru i ddathlu ein penblwydd yn 10 oed ar y stondin gyda chacennau, peintio wynebau gyda Tammy a disgo tawel ddydd Gwener 11 Awst.
Beth yw'r Eisteddfod Genedlaethol?
Gŵyl flynyddol fwyaf Cymru yw’r Eisteddfod. Mae dros 150,000 yn ymweld bob blwyddyn. Dathliad o ddiwylliant Cymru a'r Gymraeg yw’r Eisteddfod. Mae rhywbeth at ddant pawb, p'un ai allwch chi siarad yr iaith ai peidio.
Cewch eich ysbrydoli i ddysgu’r Gymraeg
Mae dysgu iaith newydd yn gallu agor byd o gyfleoedd. Mae nifer o resymau pam mae pobl am ddysgu Cymraeg. Mae rhai yn dysgu Cymraeg er mwyn gwella eu cyfleon gyrfa, eraill i cysylltu â'u gwreiddiau, ac i eraill mae'n rheswm cymdeithasol.
Felly, os ydych chi am ddysgu Cymraeg neu ddatblygu eich sgiliau Cymraeg mae digon o gyfle i chi wneud hynny yn yr Eisteddfod. Beth am ymweld â'r Pentref Dysgu Cymraeg ar faes yr Eisteddfod i wybod mwy.
Darganfyddwch fanteision dysgu Cymraeg a ble i ddysgu Cymraeg yn eich ardal.