Rydyn ni yn yr Eisteddfod - Dewch i’n gweld ni
Rydyn ni’n falch o fod yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni!
Mae gennym weithgareddau wedi'u cynllunio ar gyfer y Maes a'n canolfan gyrfa yng nghanol Pontypridd.
Lleoliadau, dyddiadau a gweithgareddau
Lleoliad: Maes D, Stondin Llywodraeth Cymru, Parc Ynysangharad, Pontypridd
Dyddiadau: Dydd Mawrth 6 Awst a Dydd Mercher 7 Awst
Gweithgareddau: Ymunwch â ni ar stondin Llywodraeth Cymru a dewch i archwilio ein Dinas Gyrfaoedd. Byddwch yn gallu defnyddio ein map rhyngweithiol i ddysgu am rai swyddi anarferol. Beth yw Fylcanolegydd neu Seicolegydd Anifeiliaid Anwes? Dewch draw i ddysgu mwy.
Lleoliad: Canolfan Gyrfa Pontypridd
Dyddiadau: Dydd Llun 5 Awst i ddydd Gwener 9 Awst
Gweithgareddau: Dewch draw i'n canolfan i:
- Roi cynnig ar ein gêm Minecraft, CrefftGyrfaoedd
- Archwilio rhai swyddi anarferol yn ein Dinas Gyrfaoedd
- Cael gafael ar rai nwyddau ac adnoddau gyrfa defnyddiol
- Siarad â'n Cynghorwyr Gyrfa am eich opsiynau gyrfa
Perfformio yn yr Eisteddfod? Dewch i ymarfer yn ein swyddfa
Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth â'r Eisteddfod Genedlaethol gan wahodd cystadleuwyr i ymarfer yn y ganolfan yn ystod yr wythnos.
Mae canolfan gyrfa Pontypridd drws nesa i adeilad yr YMa ar Stryd Taf (CF37 4TS).
Mae'n bosib ymarfer yn y ganolfan o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9:15 a 10:30am a 12:00 a 2:00pm.
Bydd piano ar gael ac mae digon o le i unigolion, deuawdau a phartïon bach o hyd at 30 aelod.
Cysylltwch â ni drwy marchnata@gyrfa.llyw.cymru i archebu lle i ymarfer.
Beth yw'r Eisteddfod Genedlaethol?
Yr Eisteddfod yw'r ŵyl flynyddol fwyaf yng Nghymru. Mae dros 150,000 o bobl yn ymweld bob blwyddyn. Mae'n dathlu diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg. Mae yna rhywbeth at ddant pawb, p'un ai ydych chi'n gallu siarad yr iaith ai peidio.
Cael eich ysbrydoli i ddysgu Cymraeg
Gall dysgu iaith newydd greu byd o gyfleoedd. Mae llawer o resymau pam mae pobl yn dysgu Cymraeg. Mae rhai yn dysgu Cymraeg i wella eu rhagolygon gyrfa, rhai i gysylltu â'u gwreiddiau, ac eraill am resymau cymdeithasol.
Os ydych chi eisiau dysgu Cymraeg, neu am ddatblygu eich sgiliau Cymraeg, mae digon o gyfleoedd yn yr Eisteddfod. Beth am ymweld â'r Pentref Dysgu Cymraeg yn yr Eisteddfod i ddysgu mwy?
Darganfyddwch fanteision dysgu Cymraeg a ble i ddysgu Cymraeg yn eich ardal.