Rydyn ni yn yr Eisteddfod yn Wrecsam
Yr Eisteddfod Genedlaethol yw'r ŵyl flynyddol fwyaf yng Nghymru ac mae Gyrfa Cymru yn edrych ymlaen eich gweld yn Wrecsam eleni!
Dewch i weld Gyrfa Cymru ar stondin 415-416 i siarad â'n cynghorwyr gyrfa a chael cyngor gyrfaoedd diduedd a rhad ac am ddim.
Cyflogwyr sy'n mynychu
Mae gennym ni hefyd amrywiaeth o gyflogwyr a gweithgareddau ar ein stondin felly dewch draw i gymryd rhan! Bydd pob sesiwn yn rhedeg am 45 i 60 munud.
Dyddiad | Amser | Cyflogwyr |
---|---|---|
Dydd Llun 4 Awst | 11:00am a 2:00pm | Morlais, prosiect ynni llif llanw Menter Môn |
Dydd Mawrth 5 Awst | 11:00am a 2:00pm | Swyddog Iaith Gymraeg o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Dydd Mercher 6 Awst | 11:00am a 2:00pm | Pen y Bryn Falconry, Syniadau Mawr Cymru |
Dydd Iau 7 Awst | 11:00am a 2:00pm | Mwydro, Synidau Mawr Cymru yn arbenigo mewn dylunio GIFs, gweithdai a fideos byr |
Dydd Iau 7 Awst | 12:30pm | Penodi, datblygu gweithlu dywieithog ar gyfer busnesau yng Nghymru |
Dydd Gwener 8 Awst | 11:00am a 2:00pm | Sgiliau Bwyd a Diod Cymru |
Yr iaith Gymraeg
P'un ai ydych chi'n rhugl, yn dysgu, neu'n newydd ddechrau, gall eich sgiliau Cymraeg eich helpu i sefyll allan a chael mwy o gyfleoedd. Mae bod yn ddwyieithog yn rhoi cyfleoedd i chi yn eich gyrfa ac yn gymdeithasol.

Darganfyddwch fanteision dysgu Cymraeg a ble i ddysgu Cymraeg yn eich ardal.

Edrychwch ar rai o fanteision siarad Cymraeg yn y gweithle a'n gymdeithasol.