Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Aros yn yr ysgol

Efallai bod aros yn yr ysgol yn opsiwn i chi. Mewn rhai ysgolion, mae myfyrwyr yn gallu aros yno tan eu bod nhw’n 19 oed.

Aros yn yr un ysgol

Os byddwch yn aros yn yr un ysgol:

  • Rydych yn adnabod yr athrawon a staff yr ysgol yn dda, ac maen nhw’n eich adnabod chi. Gallan nhw eich helpu a’ch cefnogi i baratoi am fywyd ar ôl yr ysgol
  • Byddwch yn dal i gael rhai o’r gwersi rydych yn eu cael nawr ond efallai y cewch gyfle i roi cynnig ar rai newydd hefyd
  • Efallai y byddwch yn gallu mynd ar ymweliadau neu gael sesiynau blasu gwaith er mwyn eich helpu i feddwl am y dyfodol

Symud i ysgol arall

Os hoffech symud i ysgol arall, bydd angen i chi siarad gyda’ch:

  • Rhieni/gofalwyr 
  • Athrawon

Byddan nhw’n gallu dweud wrthych a yw’n bosibl symud i ysgol arall a beth sydd angen ei wneud er mwyn i hyn ddigwydd.


Faint fydda i'n cael fy nhalu?

Os ydych rhwng 16 a 18 oed, efallai y byddwch chi’n cael Lwfans Cynhaliaeth Addysg o hyd at £40 yr wythnos. 
Siaradwch â’r ysgol i gael gwybod mwy neu ewch i Cyllid Myfyrwyr Cymru i wybod mwy.


Pwy sy'n gallu fy helpu i gael mwy o wybodaeth?

Mae llawer o bobl eraill sy’n gallu eich helpu i gynllunio eich dyfodol. Gallwch siarad gyda:

Graffeg o Athrawes

Athrawon yn yr ysgol - gallan nhw ddweud mwy wrthych am beth y gallech ei wneud os byddwch yn aros yno
 

Graffeg o ddyn ifanc

Rhieni/gofalwyr -  siaradwch gyda nhw am eich syniadau. Gallan nhw eich helpu i feddwl am bethau nad ydych chi o bosib wedi meddwl amdanyn nhw
 

Graffeg o gyflogwr

Cynghorydd Gyrfa - gallan nhw siarad gyda chi am eich holl opsiynau a’ch helpu i benderfynu beth sydd orau i chi
 

Graffeg o fyfyriwr

Myfyrwyr eraill - gallwch siarad gyda myfyrwyr sydd wedi aros yn yr ysgol a gofyn iddyn nhw ddweud wrthych sut beth yw hynny


Efallai y byddech hefyd yn hoffi