Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Sut gall y Cynghorydd Gyrfa fy helpu ar ôl fy nghyfweliad?

Gallwch chi weld eich Cynghorydd Gyrfa fwy nag unwaith i siarad am eich syniadau a'ch opsiynau gyrfa. Gall eich Cynghorydd Gyrfa eich helpu chi mewn ffyrdd eraill hefyd.

Dewch i ni weld y ffyrdd eraill y gall Cynghorydd Gyrfa eich helpu chi. Maen nhw’n gallu:

1. Trefnu ymweliadau neu sgyrsiau i chi gyda cholegau a darparwyr hyfforddiant

Efallai yr hoffech chi ddarganfod mwy am goleg neu ddarparwr hyfforddiant. Gall eich Cynghorydd Gyrfa drefnu ymweliad i chi, neu ofyn i'r darparwr gysylltu â chi.


2. Eich helpu i lenwi'ch ffurflen gais coleg

Fydd eich Cynghorydd Gyrfa ddim yn gwneud hyn ar eich rhan ond gallan nhw eich helpu i ddeall y cwestiynau a'ch helpu chi i feddwl am beth i'w ysgrifennu.


3. Dweud wrthych chi pa gymorth y bydd ei angen arnoch mewn coleg/hyfforddiant

Os ydych chi wedi cael cefnogaeth yn yr ysgol, dylech allu cael cefnogaeth yn y coleg ac ar hyfforddiant. Bydd eich Cynghorydd Gyrfa yn siarad â chi am hyn a gall roi gwybod i'r coleg neu'r darparwr hyfforddiant beth sydd ei angen arnoch er mwyn eich helpu.


4. Dweud wrth eich rhieni beth sydd angen digwydd nesaf

Gall eich Cynghorydd Gyrfa gael sgwrs gyda'ch rhieni i drafod eich syniadau os mai dyna’r hoffech chi iddyn nhw’i wneud.


5. Siarad â phobl eraill sy’n gallu eich helpu chi

Efallai y bydd rhai pethau na fydd eich Cynghorydd Gyrfa yn gallu eich helpu gyda nhw. Gallan nhw ddod o hyd i rywun a all eich helpu trwy siarad ag asiantaethau eraill ar eich rhan.